Cymerodd Celyn Lloyd-Taylor, sy'n 13 oed o Gwmbrân, saib haeddiannol o'i gyfrifoldebau gofalu bob dydd yr wythnos hon i gerdded afon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'n un o filoedd o ofalwyr di-dâl yng Nghymru i fanteisio ar Gynllun Seibiant Byr Llywodraeth Cymru, sydd wedi'i ymestyn yn ddiweddar i barhau am 3 blynedd arall.
Mae Celyn yn helpu ei fam i ofalu am ei chwaer 5 oed, Mali, sydd â syndrom Goldenhar, cyflwr cynhenid prin sy'n effeithio ar ddatblygiad yr wyneb, y clustiau a'r asgwrn cefn.
Mae angen goruchwyliaeth gyson ar Mali oherwydd ei hanawsterau clyw, llyncu a symudedd ac felly mae Celyn yn chwarae gyda hi ac yn ei gwylio rhag ofn iddi gwympo, er mwyn caniatáu i'w fam fwrw ymlaen â swyddi o gwmpas y tŷ.
Mae hefyd wedi gorfod dysgu sgiliau byw'n annibynnol yn llawer gynt na'r rhan fwyaf o bobl yn eu harddegau, gan baratoi prydau bwyd a delio â golchi a thasgau cartref oherwydd rôl heriol ei fam fel gofalwr llawn amser Mali.
Mae'r Cynllun Seibiant Byr yn galluogi gofalwyr di-dâl o bob oedran i gymryd seibiant personol o'u cyfrifoldebau gofalu. Aeth Celyn ar weithgaredd cerdded afon a drefnwyd gan The Outdoor Partnership. Roedd y diwrnod yn cynnwys neidio, llithro a dringo mewn afon ger Talybont-ar-Wysg gyda grŵp o ofalwyr ifanc eraill (o dan oruchwyliaeth hyfforddwyr cymwysedig).
Meddai Celyn:
Mae gweithgareddau fel yr ymweliad cerdded afon hwn wedi bod yn fodd i fyw i mi. Cyfle i fod allan yn yr awyr agored, yn trio rhywbeth newydd.
Rwyf wrth fy modd i fod yn frawd mawr i Mali ac yn hapus i helpu Mam gyda chyfrifoldebau gofalu a cartref. Ond mae'n wych cael diwrnod bob hyn a hyn i wneud rhywbeth jyst i fi fy hun gyda gofalwyr ifanc eraill sy'n deall.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl fel Celyn am y cyfraniad amhrisiadwy maen nhw'n ei wneud i'n cymdeithas. Pan fydd eich bywyd bob dydd yn troi o gwmpas gofalu a helpu eraill, mae'n hanfodol bwysig gofalu am eich lles eich hun hefyd.
Mae'r cynllun yn cyrraedd llawer o ofalwyr nad ydynt wedi cael unrhyw fath o hoe yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac nid yw hanner y rhai sy'n cymryd rhan yn derbyn unrhyw gymorth arall. Yn ogystal â rhoi amser i ofalwyr orffwys a chwrdd â phobl eraill, mae'r cynllun hefyd yn helpu i ganfod gofalwyr sydd ddim yn derbyn cymorth sydd ar gael iddynt, a’u cyfeirio at wasanaethau a allai eu helpu.
Dywedodd Carly Gray, Pennaeth Materion Allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
Mae ymestyn y Cynllun Seibiant Byr am dair blynedd arall yn rhoi'r sefydlogrwydd sydd ei angen ar frys ar ofalwyr a'r gwasanaethau gofalwyr lleol sy'n eu cefnogi. Mae'n gydnabyddiaeth bwysig o'r ymrwymiad mae gofalwyr yn ei ddangos bob dydd, a'r angen i ddarparu sicrwydd i'r gwasanaethau maen nhw'n dibynnu arnynt.
Mae straeon fel un Celyn, 13 oed, sy'n helpu i ofalu am ei chwaer, yn ein hatgoffa faint y gall seibiant syml godi ysbryd person ifanc a chefnogi eu lles. Mae'r eiliadau hyn o orffwys yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ledled Cymru, ac mae'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn falch o weld y cynllun yn parhau i'w cefnogi.
Canfu adroddiad gan Brifysgol Bangor fod y cynllun yn mynd i'r afael â bwlch critigol mewn cymorth i ofalwyr di-dâl ac mae tystiolaeth gref y gall seibiant wella lles gofalwyr a lleddfu teimladau o unigrwydd.
Yn ystod ei dair blynedd gyntaf, darparodd y cynllun dros 50,000 o seibiannau byr, gan ragori ar ei darged cychwynnol o 30,000 yn sylweddol.
Roedd wyth deg y cant o'r rhai sy'n elwa o'r cynllun yn darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos a dim ond 14% o ofalwyr oedolion a 25% o ofalwyr ifanc oedd wedi cael seibiant o unrhywle arall yn y flwyddyn flaenorol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £15.75m dros y tair blynedd nesaf i ymestyn y cynllun hwn a'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr sy'n darparu cymorth ariannol brys i ofalwyr di-dâl i helpu i brynu eitemau hanfodol neu dalu biliau cyfleustodau.
