Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Cadeirydd: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
  • Yr Athro Gerry Holtham – Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Chymrawd Oes, Y Sefydliad Materion Cymreig
  • Stuart Adam – Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Guto Ifan – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
  • Mairi Spowage – Cyfarwyddwr, Sefydliad Fraser of Allander
  • Dr Rhys ap Gwilym – Prifysgol Bangor
  • Arun Advani – CenTax, Prifysgol Warwick
  • David Barnett – Y Sefydliad Siartredig Trethu
  • Caitlin Boswell – Tax Justice UK
  • Suzanne Bold – Patriotic Millionaires
  • Jane Hutt AS – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
  • Jane Dodds AS – Arweinydd, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Diben

Trafod trethi ar asedau a chyfoeth, gan gynnwys:

  • yr achos dros gynyddu trethi ar asedau a chyfoeth
  • trethi newydd posibl ar asedau a chyfoeth
  • materion ymarferol o ran trethi asedau a chyfoeth
  • sut y gellid defnyddio’r refeniw a fyddai’n cael ei gynhyrchu yn y ffordd orau.

1. Y cyd-destun a’r sail resymegol

Mae’r crynhoad cyfoeth yn y DU yn gwbl amlwg. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Cydraddoldeb, mae gan yr 50 o deuluoedd cyfoethocaf yn y DU fwy o gyfoeth na 50% o’r boblogaeth. Mae hyn yn codi cwestiynau am degwch a chynaliadwyedd.

Mae’r DU yn parhau i fod yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd. Serch hynny, yn y chwe mis hyd at fis Mai 2025, adroddodd Sefydliad Joseph Rowntree fod 7.1 miliwn o aelwydydd incwm isel – 60% o’r holl aelwydydd incwm isel yn y DU – yn mynd heb yr hanfodion.

Angen ariannu buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Llawer o bwyslais ar system drethi y DU yn y cyfnod yn arwain at Gyllideb Llywodraeth y DU ar 26 Tachwedd.

Cyfleoedd i wneud y system drethi bresennol yn decach drwy drethi mwy cynyddraddol. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys gwneud cyfraddau’r dreth enillion cyfalaf yn gydnaws â chyfraddau’r dreth incwm; ailbrisio’r dreth gyngor yn Lloegr, fel sydd wedi’i wneud eisoes yng Nghymru.

Proffil uwch yn cael ei roi i eirioli dros dreth flynyddol ar gyfoeth ar asedau dros £10m ar 2% y flwyddyn. Yn flaenorol, argymhellodd Comisiwn Treth ar Gyfoeth 2020 dreth ar gyfoeth untro ôl-COVID ar gyfer codi refeniw sylweddol.

2. Themâu allweddol o’r drafodaeth

Egwyddorion treth ar gyfoeth

Pwysigrwydd bod yn gwbl glir ynglŷn â’r diben a’r bwriad. Angen ystyried y dadleuon a’r goblygiadau o ran y gwahanol ddulliau, er enghraifft, a ddylai/allai y dull ganolbwyntio ar gyfoeth defnydd yn erbyn cyfoeth cynhyrchiol. Mwy o gysylltiad rhwng codi trethi ar gyfoeth cynhyrchiol a newid ymddygiad (e.e. effaith y dreth etifeddiant ar ddiwygio tir). Dadleuon ynghylch cyfoeth defnydd yn fwy cyson â chyfoeth eiddo a chyfoeth etifeddol.

Yr heriau ymarferol

Mae’r heriau yn cynnwys diffinio beth yw “cyfoeth” a sut y mae pennu ei werth. Mae busnesau preifat ac asedau cymhleth yn peri anawsterau penodol, megis pennu gwerth unigolyn i gwmni a phennu gwerth ei enillion posibl yn y dyfodol.

Byddai gosod bandiau (yn debyg i’r dreth gyngor) yn helpu i symleiddio’r trefniadau ar gyfer gweithredu’r dreth. Mae amseru’r prisio hefyd yn bwysig.

Gosod y sylfaen drethu. Pwysigrwydd y ffaith mai mater ar gyfer y DU yw hwn o ystyried y sylfaen drethu fach yng Nghymru. Hyd yn oed ar lefel y DU, mae’r sylfaen drethu ar gyfer treth ar gyfoeth yn gymharol fach (20,000 o drethdalwyr yn ôl yr amcangyfrif) sy’n golygu bod y rhagolygon refeniw yn ansicr.

Ystyried yr effeithiau ar ymddygiad. Mae tystiolaeth ynghylch effaith y newidiadau i dreth incwm yn yr Alban yn awgrymu bod y rhai sy’n ennill yn dda yn addasu eu hymddygiad i ennill llai yn hytrach nag adleoli, ond gall trethi sy’n seiliedig ar gyfoeth sbarduno ymatebion gwahanol.

Wrth ddylunio treth ar gyfoeth, amlygodd y Comisiwn Treth ar Gyfoeth bwysigrwydd osgoi eithriadau o’r dechrau er mwyn cyfyngu ar y risg o newid mewn ymddygiad.

Dulliau gweithredu amgen

Ystyrir bod diwygio’r dreth gyngor fel y gwnaed eisoes yng Nghymru a’r dreth enillion cyfalaf yn gamau cyflymach, mwy ymarferol.

Ystyrir bod trethiant eiddo sy’n gynyddraddol yn haws i’w fesur a’i weithredu. Fodd bynnag, nid yw’n cwmpasu elfen sylweddol o’r capasiti cyfoeth.

3. Effaith a chyfiawnhad

Amcangyfrifir y byddai 22,000 o unigolion yn cael eu heffeithio gan dreth ar gyfoeth ar gyfer y DU gyfan.

Dadleuon cryf dros leihau anghydraddoldeb a diweddaru’r system dreth.

Pwysigrwydd cyfathrebu clir ynglŷn â sut y defnyddir y refeniw. Ystyrir bod rhyw fath o drefniant neilltuo “meddal” cyfyngedig yn hanfodol i ennyn cefnogaeth y cyhoedd.

4. Y dystiolaeth a’r anghenion data

Mae dad-ddosbarthiad Arolwg Cyfoeth ac Asedau y Swyddfa Ystadegau Gwladol fel ystadegyn swyddogol yn cyfyngu ar y ddealltwriaeth o ddosbarthiad cyfoeth. Byddai canolbwyntio ar gyfoeth eiddo yn hwyluso’r ystyriaethau o ran data.

5. Casgliadau

Cydnabyddiaeth o’r gefnogaeth gadarn sy’n cynyddu ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb cyfoeth ond hefyd yr heriau ymarferol a gwleidyddol sylweddol wrth weithredu treth ar gyfoeth.

Cydnabyddiaeth o bwysigrwydd cynnal trafodaeth agored yn awr ynglŷn â chyflwyno rhyw fath o dreth flynyddol ar gyfoeth.

Llywodraeth Cymru i barhau i fwrw ymlaen â diwygiadau cynyddraddol yn unol â’i phwerau datganoledig, megis mewn perthynas â’r dreth gyngor.

Pwysleisio pa mor bwysig ydyw i’r Senedd fanteisio ar y cyfle i fwydo’r farn o Gymru i’r drafodaeth ar lefel y DU ar drethu cyfoeth.