Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Arfaethedig ar gyfer Crancod a Chimychiaid ym Mharth Cymru.

Mae'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid arfaethedig ar gyfer parth Cymru yn nodi dull newydd, mwy cydlynol o reoli'r pysgodfeydd hyn, gan gyflawni gofynion statudol o dan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 a chefnogi ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynaliadwyedd, yr amgylchedd morol a llesiant cymunedol.

Cynlluniau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yw Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, y bwriedir iddynt sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy.

Cyflwyniad

Mae moroedd Cymru yn gartref i ecosystemau morol amrywiol a chynhyrchiol sy'n cynnal amrywiaeth cyfoethog o fywyd morol. Mae poblogaethau pysgod a physgod cregyn iach yn elfen hanfodol o'r ecosystemau hyn ac maent yn chwarae rôl ecolegol bwysig yn ogystal â darparu ffynonellau bwyd gwerthfawr a chefnogi gweithgareddau hamdden, diwylliannol a masnachol.

Mae'r adnoddau morol hyn yn wynebu amrywiaeth o bwysau, gan gynnwys effeithiau newid hinsawdd, newid amgylcheddol a gweithgarwch dynol. Er bod pysgota yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol i Gymru, yn enwedig i gymunedau arfordirol, gall hefyd roi pwysau ar stociau pysgod a physgod cregyn a'r amgylchedd morol ehangach. Felly, mae rheoli pysgodfeydd yn effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod adnoddau morol yn cael eu defnyddio'n gynaliadwy, gan gydbwyso amcanion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd er budd y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol.

Mae pysgodfeydd crancod a chimychiaid ymhlith y pysgodfeydd pwysicaf yn economaidd yng Nghymru, am eu bod yn sail i fywoliaeth llawer o bysgotwyr ac yn cefnogi cymunedau arfordirol, busnesau lleol a'r gadwyn gyflenwi bwyd môr ehangach. Mae cynnal stociau iach a gwydn yn hanfodol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y pysgodfeydd hyn, diogelu ecosystemau morol, a chefnogi ffyniant parhaus cymunedau arfordirol Cymru.

Drwy’r ymgynghoriad hwn, rydym yn ceisio barn ar fesurau arfaethedig i gefnogi'r gwaith o reoli pysgodfeydd crancod a chimychiaid Cymru mewn ffordd gynaliadwy, gan helpu i sicrhau bod yr adnoddau gwerthfawr hyn yn parhau i fod yn gynhyrchiol ac yn wydn am genedlaethau i ddod.

Mae Deddf Pysgodfeydd 2020 (y Ddeddf) yn sail i'r ffordd y caiff pysgodfeydd eu rheoli ledled y DU. Gan fod rheoli pysgodfeydd yn faes datganoledig, mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb am benderfyniadau rheoli yng Nghymru a pharth Cymru. 

Mae'r Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, yn nodi sut y bydd awdurdodau polisi pysgodfeydd y DU (sef Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon) yn llunio ac yn cyhoeddi 43 o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd erbyn 2028. 

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod neu'r awdurdodau perthnasol lunio a chyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn unol â'r rhestr a'r amserlen a nodir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd. 

Y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd arfaethedig ar gyfer Crancod a Chimychiaid ym mharth Cymru (Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid) yw'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd cyntaf i Gymru yn unig a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2026. Datblygwyd y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid mewn ymgynghoriad â'r Gweithgor Cynghori ar Grancod a Chimychiaid, y diwydiant pysgota a rhanddeiliaid ehangach.

Rhagair gan y Gweinidog

Mae moroedd Cymru yn rhan bwysig o'n hunaniaeth genedlaethol, ein hamgylchedd naturiol a bywoliaeth llawer o gymunedau arfordirol. Mae pysgodfeydd crancod a chimychiaid yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i economïau lleol a'r gadwyn gyflenwi bwyd môr ehangach, yn ogystal â bod yn rhan o ecosystem forol gyfoethog a chymhleth.

Mae'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd arfaethedig ar gyfer Crancod a Chimychiaid ym mharth Cymru yn gam pwysig o ran y ffordd rydym yn rheoli'r pysgodfeydd hyn yn yr hirdymor. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i bysgota cynaliadwy a chymunedau arfordirol gwydn ac i diogelu'r amgylchedd morol. Bydd hefyd yn helpu i gyflawni Deddf Pysgodfeydd 2020 a'r Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd, sy'n pennu'r cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli pysgodfeydd cynaliadwy ledled Cymru a'r DU yn ehangach.

Mae crancod a chimychiaid yn stociau gwerth uchel ond prin yw'r data sydd gennym amdanynt. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid inni fabwysiadu dull rhagofalus, cydweithredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'u rheoli. Mae'r Cynllun yn cynnig camau gweithredu i wella ein dealltwriaeth o statws stociau, atgyfnerthu'r sail dystiolaeth, ystyried mesurau rheoli priodol a sicrhau y gall y pysgodfeydd ymateb i bwysau yn y dyfodol, gan gynnwys newid hinsawdd.

Rwy'n ddiolchgar i'r diwydiant pysgota, pysgotwyr hamdden, y Gweithgor Cynghori ar Grancod a Chimychiaid a rhanddeiliaid ehangach sydd wedi helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun drafft hwn. Mae eu gwybodaeth a'u profiad yn hanfodol er mwyn inni allu datblygu trefniadau rheoli pysgodfeydd ymarferol, cymesur ac effeithiol i Gymru.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bawb sydd â diddordeb mewn pysgodfeydd crancod a chimychiaid, yr amgylchedd morol a chymunedau arfordirol roi eu barn. Rwy'n eich annog i ystyried y cynigion a rhannu eich tystiolaeth, eich profiad a'ch syniadau er mwyn helpu i sicrhau bod y cynllun terfynol yn gadarn, yn deg ac yn gallu cefnogi pysgodfeydd cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol.

 

Llyr Gruffydd AS

Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd 

Y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid Arfaethedig ym mharth Cymru

Mae'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd arfaethedig yn canolbwyntio ar grancod brown (bwytadwy) a chimychiaid Ewropeaidd ym mharth Cymru ac mae hefyd yn ystyried yr anghenion o ran tystiolaeth ar gyfer rhywogaethau cramenogion eraill nad oes gennym ddigon o ddata arnynt gan gynnwys cimychiaid coch, crancod heglog, crancod llygatgoch a chorgimychiaid cyffredin.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar y dogfennau canlynol y dylid eu darllen ar y cyd â'r ddogfen ymgynghori hon:

  • Y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid drafft, yn unol â Rhan 3 o Atodlen 1 i'r Ddeddf; 
  • Yr Asesiad Effaith Integredig Cryno drafft;
  • Yr Asesiad Amgylcheddol gwirfoddol drafft: Adroddiad Amgylcheddol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn arbennig o berthnasol i'r canlynol: 

  • Unigolion, grwpiau, neu fusnesau sy'n ymwneud â'r sector pysgota, y sector bwyd môr neu'r sector dyframaethu ar sail hamdden neu fasnachol, gan gynnwys y rhai o'r tu allan i'r DU sy'n pysgota yn nyfroedd y DU,
  • Unigolion, grwpiau neu fusnesau eraill sy'n ddefnyddwyr y môr, er enghraifft, diwydiannau morol fel ynni adnewyddadwy alltraeth a chyrff hwylio,
  • Grwpiau buddiant cenedlaethol a lleol megis sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol a hamdden a ffederasiynau diwydiannau.

Pam rydym yn cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd?

Mae'r Ddeddf yn nodi'r fframwaith cyfreithiol i reoli pysgodfeydd yn y DU, gan gynnwys y ddarpariaeth i lunio a chyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd. Bwriedir i Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd helpu i ddiogelu stociau pysgod a, lle y bo angen, adfer stociau pysgod a fydd, yn ei dro, yn cefnogi diwydiant pysgota cynaliadwy ac yn diogelu'r amgylchedd. 

Mae cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn darparu dull mwy integredig o reoli stociau pysgod er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. 

Beth yw Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd? 

Cynlluniau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth yw Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, y bwriedir iddynt sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Dogfennau ydynt a luniwyd ac a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf sy'n nodi polisïau y bwriedir iddynt gynnal stociau perthnasol o bysgod môr ar lefelau cynaliadwy neu, lle y bo angen, eu hadfer i lefelau cynaliadwy (neu gyfrannu at hyn).

Mae Cynlluniau Rheoli Arian yn gynlluniau strategol y mae'n rhaid eu hadolygu, ac os oes angen, eu diwygio o leiaf unwaith bob chwe blynedd. Maent yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y bysgodfa (neu'r pysgodfeydd), ynghyd â'r polisïau a'r ymyriadau rheoli sydd eu hangen i wireddu'r weledigaeth hon.

Lle y bo'n briodol, gall Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd nodi camau gweithredu i fynd i'r afael â materion ehangach a nodir wrth iddynt gael eu datblygu megis ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Felly, yn ogystal ag amcanion y Ddeddf, mae Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn helpu i gyflawni'r ymrwymiadau yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn gymwys i bawb sy'n dal crancod a chimychiaid ym mharth Cymru, p'un a ydynt o'r sector masnachol neu'r sector hamdden. Y nod yw sicrhau bod Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, a ddatblygir mewn ffordd gydweithredol a thryloyw, yn berthnasol i'r bysgodfa neu'r pysgodfeydd a'u bod yn cefnogi dull mwy ymarferol a hyblyg o reoli pysgodfeydd sydd wedi'i deilwra i rywogaethau, lleoliadau a gweithgareddau pysgota.
 

Sut mae Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn gweithio

Mae rheoli pysgodfeydd yn gymhwysedd datganoledig, a reolir mewn perthynas â Chymru a pharth Cymru gan Weinidogion Cymru drwy gyfuniad o reoliadau (Cyfraith yr UE a gymathwyd a chyfraith ddomestig gan gynnwys offerynnau statudol), is-ddeddfau, amodau trwydded a mesurau gwirfoddol. Gallai Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd arwain at newidiadau i'r mesurau rheoli hyn.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Lywodraeth Cymru weithredu yn unol â'r polisïau a nodir yn y cynlluniau a bydd yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau a rhanddeiliaid perthnasol ar roi'r camau gweithredu a nodir yn y cynlluniau ar waith.

Er bod pob Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn canolbwyntio ar stociau penodol, bydd hefyd yn bwysig sicrhau eu bod yn cydweithio i gydnabod anghenion rheoli pysgotwyr a rhanddeiliaid sydd â diddordeb mewn stociau pysgod a gwmpesir gan fwy nag un Cynllun Rheoli Pysgodfeydd.

Nodwedd allweddol ar Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yw eu bod yn addasol. Bwriedir i'r cynlluniau a'r camau gweithredu a geir ynddynt ddatblygu dros amser wrth i dystiolaeth newydd ddod ar gael, wrth i fesurau rheoli ddod i rym ac wrth i amgylchiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd newid. Mae'r hyblygrwydd hwn yn arbennig o bwysig pan fo angen gwneud ymchwil bellach a chasglu rhagor o ddata i lywio penderfyniadau rheoli yn y dyfodol.

Bwriedir i'r camau gweithredu a geir mewn Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd gael eu rhoi ar waith dros oes y cynllun ac, mewn rhai achosion, gall gymryd amser i'r manteision gael eu gwireddu o ran cynaliadwyedd stociau a chanlyniadau pysgodfeydd. Er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn berthnasol, rhaid i Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd gael eu hadolygu o fewn chwe blynedd i'w cyhoeddi, er y gellir eu diwygio neu eu disodli unrhyw bryd ar ôl ymgynghori.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i barhau â'r dull cydweithredol a thryloyw a ddefnyddiwyd i ddatblygu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd pan fyddant yn cael eu rhoi ar waith a'u hadolygu. Caiff cynnydd ei fonitro yn erbyn amrywiaeth o ddangosyddion er mwyn asesu a yw'r cynllun yn cyflawni ei amcanion, yn cefnogi'r gwaith o reoli pysgodfeydd mewn ffordd gynaliadwy ac yn bodloni gofynion y Ddeddf.
 

Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd a Gwladwriaethau arfordirol eraill

Er bod gan y DU, fel Gwladwriaeth arfordirol annibynnol, ymreolaeth reoleiddiol i reoli'r pysgodfeydd, mae'r DU yn ymrwymedig i weithio gyda Gwladwriaethau arfordirol partner eraill er mwyn sicrhau y caiff adnoddau pysgodfeydd a rennir eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy. Ailddatganwyd yr ymrwymiad hwn yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd. 

Drwy ymgyngoriadau pysgodfeydd blynyddol gyda'r UE a Gwladwriaethau arfordirol eraill a thrafodaethau mewn fforymau amlochrog a dwyochrog eraill, megis sefydliadau rheoli pysgodfeydd rhanbarthol neu'r Pwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd a sefydlwyd o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, bydd y DU yn ceisio cyflawni, neu gyfrannu at gyflawni, yr amcanion yn y Ddeddf.

Lle bo'n briodol, bydd Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn llywio'r dull o ddatblygu strategaethau aml-flwyddyn ar gyfer diogelu a rheoli stociau a rennir a gynigir gan y DU a'r UE o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, ac unrhyw gynlluniau hirdymor tebyg gyda Gwladwriaethau arfordirol eraill. Gellir diweddaru Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd hefyd er mwyn adlewyrchu unrhyw gytundebau a negodwyd yn y strategaethau rhyngwladol hyn.

Bydd pob mesur rheoleiddio i roi'r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd ar waith yn gyfrwymol ar bob cwch sy'n pysgota ym mharth Cymru. O dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, rhaid i unrhyw fesurau a gymhwysir at gychod o'r UE sy'n pysgota yn nyfroedd y DU, gan gynnwys parth Cymru, fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael a chael eu cymhwyso at gychod o'r UE a'r DU. Mae'n ofynnol i'r UE gael ei hysbysu'n ffurfiol am unrhyw newidiadau i fesurau rheoli pysgodfeydd sy'n debygol o effeithio ar gychod o'r UE. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y caiff Gwladwriaethau eraill yr effeithir arnynt gan fesurau a gyflwynir drwy Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd Cymreig eu hysbysu'n briodol.

Y dull o ddatblygu'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd

Datblygwyd y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd hwn ar y cyd â'r Gweithgor Cynghori Cymru ar Grancod a Chimychiaid (Grŵp Cynghori). 

Casglwyd barn y diwydiant a phartïon eraill â diddordeb drwy gyfres o ymweliadau arfordirol, cyfarfodydd a gweithgarwch ymgysylltu ar-lein a gynhaliwyd gan Seafish ar ran Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd y rhain, ynghyd â mewnbwn gan y Grŵp Cynghori, i lywio cynnwys y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd hwn, er mwyn nodi'r camau gweithredu a'r mesurau sydd â'r gefnogaeth fwyaf, er mwyn nodi'r rhai y gellir eu datblygu'n gyflym a'r rhai y mae angen eu hystyried ymhellach. 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i geisio safbwyntiau ehangach ar allbwn y broses hon. Caiff ymatebion i'r ymgynghoriad eu dadansoddi a'u defnyddio i lywio unrhyw newidiadau i'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd drafft cyn cyhoeddi'r cynlluniau terfynol erbyn diwedd 2026.

Crynodeb o'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid 

Mae pysgodfeydd crancod a chimychiaid ymhlith y pysgodfeydd pwysicaf yn economaidd yng Nghymru, am eu bod yn sail i fywoliaeth llawer o gymunedau arfordirol ac yn cyfrannu at y gadwyn gyflenwi bwyd môr ehangach. Mae gwneud yn siwr bod y stociau hyn yn parhau i fod yn iach yn hanfodol i sicrhau gwydnwch economaidd hirdymor cymunedau arfordirol a'r amgylchedd. 

Mae'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn amlinellu cyflwr presennol y bysgodfa, yn nodi bylchau allweddol mewn tystiolaeth a mesurau rheoli ac yn cynnig camau gweithredu i atgyfnerthu cynaliadwyedd stociau crancod a chimychiaid. Mae'r cynllun yn gymwys i'r holl weithgarwch pysgota crancod a chimychiaid, masnachol a hamdden, yr ymgymerir ag ef ym mharth Cymru.

Mae'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn canolbwyntio ar grancod brown (bwytadwy) (Cancer pagurus) a chimychiaid Ewropeaidd (Homarus gammarus), (y cyfeirir atynt fel crancod a chimychiaid).  Mae casglu tystiolaeth ar gyfer rhywogaethau eraill o gramenogion hefyd wedi'i gynnwys. 

Mae'r crancod a'r cimychiaid o fewn cwmpas y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn stociau gwerth uchel, heb gwota nad ydynt yn ddarostyngedig i Ddalfeydd Mwyaf a Ganiateir Ar hyn o bryd prin yw'r data sydd gennym i asesu iechyd a chynaliadwyedd y stociau hyn yn fanwl gywir. Mae'r Ddeddf yn nodi'r amcanion ar gyfer pysgodfeydd sy'n cynnwys yr amcan rhagofalus. 

Nodir bod yr amcan rhagofalus yn cynnwys bod y dull rhagofalus o reoli pysgodfeydd yn cael ei fabwysiadu, sy'n golygu dull gweithredu lle na ddefnyddir y ffaith nad oes digon o wybodaeth wyddonol ar gael i gyfiawnhau gohirio cymryd mesurau rheoli i ddiogelu rhywogaethau targed, rhywogaethau cysylltiedig neu ddibynnol, rhywogaethau nad ydynt yn rhai targed neu eu hamgylchedd nac ychwaith i gyfiawnhau methu â chymryd camau o'r fath.

Mae cynigion allweddol yn cynnwys datblygu cyfres amser gadarn o ddata stociau, adolygu ac atgyfnerthu'r fframwaith rheoleiddio presennol, gwella mesurau diogelu ar gyfer stociau magu, gwella'r ffordd y caiff pysgota hamdden ei reoli ac ystyried opsiynau tymor hwy fel cyfyngiadau ar gewyll a chynlluniau torri hollt V. Mae'r cynllun hefyd yn ymrwymo i ddeall a lliniaru effeithiau newid hinsawdd ar y bysgodfa a chasglu tystiolaeth ar gyfer stociau cramenogion eraill sydd o bwys economaidd.

Bydd y polisïau hyn yn helpu i sicrhau bod stociau crancod a chimychiaid yn cael eu cynaeafu'n gynaliadwy, yr eir i'r afael â gwendidau yn gynnar ac yn effeithiol a bod y pysgodfeydd yn parhau i sicrhau manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i genedlaethau'r dyfodol.
 

Polisïau'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd drafft 

Mae'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn nodi polisïau i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y pysgodfeydd crancod a chimychiaid ym mharth Cymru a chamau gweithredu i gyflawni'r polisïau.  Mae'r polisïau yn ddatganiadau lefel uchel, clir o ganlyniadau arfaethedig cyffredinol y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd. Maent yn pennu'r cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli'r rhywogaethau hyn ac yn cyflawni un neu fwy o'r amcanion yn y Ddeddf Pysgodfeydd, yn ogystal â chyd-fynd ag amcanion polisi ehangach. 

Rhoddir blaenoriaeth briodol i'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd arfaethedig, gan gynnwys y polisi a'r camau gweithredu sy'n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad hwn, ar ôl iddo gael ei gyhoeddi er mwyn sicrhau allbynnau realistig a mesuradwy. Fe'u drafftiwyd i fodloni gofynion polisïau a nodir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd ac adran 6(3)(b) o'r Ddeddf. 

Ar hyn o bryd, nid oes digon o dystiolaeth i asesu'r cynnyrch cynaliadwy mwyaf ar gyfer stociau crancod a chimychiaid ym mharth Cymru. Caiff dull rhagofalus ei fabwysiadu yn ystod y camau gweithredu cynnar, gyda mesurau rheoli yn cael eu cyflwyno wrth i'r sail dystiolaeth wella, er enghraifft drwy bolisi 1 y cyfeirir ato isod. 

Nodau polisi'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd hwn, a eglurir yn fanwl yn y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd, yw: 

  1. Gwella ein dealltwriaeth o statws stociau crancod a chimychiaid 
     
  2. Mae dalfeydd crancod a chimychiaid o fewn terfynau cynaliadwy yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol
     
  3. Lleihau unrhyw effeithiau andwyol ar yr amgylchedd morol
     
  4. Gall pysgodfeydd crancod a chimychiaid wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd
     
  5. Gwella ein dealltwriaeth o rywogaethau eraill o gramenogion sy'n bwysig o safbwynt economaidd a chymdeithasol 
     

Asesu'r Effaith

Mae Asesiad Effaith Integredig cryno wedi'i gynnal ac mae'n rhan o'r wybodaeth ategol i'w hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. 

Nid oes angen cynnal Asesiad Effaith Integredig llawn ar y cam ymgynghori gan nad yw'r cynllun yn cyflwyno deddfwriaeth newydd, rheoleiddio gwirfoddol, codau ymarfer, canllawiau na newidiadau polisi. 

Cwblheir Asesiad Effaith Integredig llawn o ymyriadau penodol sy'n deillio o'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd.
 

Asesiadau Amgylcheddol 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid arfaethedig. Daeth cam sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, a elwir yn Brawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol, i'r casgliad nad yw'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn debygol o gael effaith sylweddol ar unrhyw Safleoedd Morol a warchodir gan Ewrop. Mae'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn rhoi cyfeiriad polisi strategol ac nid yw'n cyflwyno mesurau rheoli penodol ar y cam hwn.

Mae'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth, gwella dealltwriaeth o statws stociau yn erbyn y Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf neu brocsi priodol a gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith rheoli sy'n cefnogi cynaliadwyedd hirdymor.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) yn wirfoddol, yn seiliedig ar y dull a nodir yn Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004, er mwyn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisi a chamau gweithredu ymhellach.

Am y tro cyntaf, mae Prawf yr Effaith Arwyddocaol Debygol yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac Adroddiad Amgylcheddol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol wedi'u cyfuno. Mae'r dull hwn o weithredu yn ymateb i adborth rhanddeiliaid a bwriedir iddo sicrhau bod yr asesiad yn fwy hygyrch, tryloyw a chymesur.

Bydd unrhyw fesurau rheoli sy'n deillio o'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn y dyfodol yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a'r holl asesiadau statudol angenrheidiol cyn iddynt gael eu rhoi ar waith. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diweddaru'r ddogfen sy'n cynnwys yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol o'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd wrth i dystiolaeth ddatblygu a pholisïau gael eu cyflwyno neu eu diwygio.

Rydym yn ceisio eich barn ar y dull gweithredu hwn.

Gweithredu ac Adolygu

Ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, bydd angen i'r camau gweithredu a'r polisïau yn y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd gael eu rhoi ar waith. Proses iteraidd fydd hon a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau perthnasol eraill, y sector pysgota a rhanddeiliaid ehangach i ddatblygu cynlluniau gweithredu.

Cyhoeddi'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yw dechrau cylch aml-flwyddyn, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cydbwyso creu momentwm ar gyfer camau gweithredu byrdymor â phennu cyfeiriad ar gyfer y tymor hwy. Gall hyn gael ei iteru ymhellach wrth i'r sail dystiolaeth wella.

Rhaid i Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd gael eu hadolygu o leiaf bob dwy flynedd. Bydd yr adolygiad ffurfiol hwn yn asesu sut mae'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd wedi perfformio o ran cyflawni amcanion y Ddeddf. Gellir cynnal adolygiad ynghynt os bydd tystiolaeth berthnasol, rhwymedigaethau rhyngwladol neu ddigwyddiadau ehangach yn golygu bod angen newid y polisïau a nodir yn y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd.

Caiff effeithiolrwydd y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd ei asesu'n rheolaidd ac adroddir ar y canlyniadau o leiaf bob tair blynedd fel rhan o adroddiad y Cyd-Ddatganiad Pysgodfeydd, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf.  

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cynnwys rhanddeiliaid a chydweithio parhaus yn sail i gyflawni'r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn llwyddiannus ac y byddant yn parhau ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi. 
 

Sut i ymateb

Gellir cyflwyno ymatebion drwy e-bost, drwy'r post neu drwy lenwi ffurflen ar-lein ar wefan Lywodraeth Cymru yn: Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU

Dylid anfon ymatebion drwy e-bost/drwy'r post i'r cyfeiriad isod, er mwyn iddynt gyrraedd erbyn hanner nos ar 27 Hydref 2026 fan bellaf. Sicrhewch eich bod yn nodi “Ymgynghoriad: Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Arfaethedig ar gyfer Crancod a Chimychiaid ym Mharth Cymru”.

Yr Is-adran Pysgodfeydd

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
  • o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data
  • (o dan amgylchiadau penodol) i ofyn i'ch data gael eu 'dileu’
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru


Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn: 

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113Gwefan: https://ico.org.uk/

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac am unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i'r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â hwy neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, yna gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w wneud gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Efallai y byddwn hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw na'ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod inni pan fyddwch yn cyflwyno'ch ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Mae fersiynau print bras, Braille ac ieithoedd eraill o'r ddogfen hon ar gael ar gais.