Mae’r gacynen felyngoes (neu’r Asiaidd) yn peri risg i wenyn mêl a phryfed peillio.
Mae’r gacynen felyngoes (Vespa velutina nigrithorax) hefyd yn cael ei alw’n gacynen Asiaidd. Nid yw’n frodorol i’r DU ac mae’n peri risg i wenyn mêl ac phryfed peillio. Dyna pam nad ydyn ni am i'r pryf hwn ledaenu yng Nghymru.
Ym mis Ionawr 2026, gwelwyd nyth cacwn melyngoes farw ger Wrecsam. Dyma'r tro cyntaf i nyth y pryf hwn gael ei chadarnhau yng Nghymru.
Gallwch ein helpu i atal y pryf goresgynnol hwn rhag lledaenu
- dysgwch beth yw nodweddion y gacynen felyngoes? Gweler Y gacynen felyngoes (ar nationalbeeunit.com)
- dysgwch y gwahaniaethau rhwng y gacynen felyngoes a phryfed brodorol tebyg. Defnyddiwch y canllaw adnabod (ar nonnativespecies.org)
- rhowch wybod os ydych yn gweld y pryf hwn gan dynnu ffotograff clir os oes modd
Lle gallech ei gweld
Mae cacwn melyngoes yn weithgar o fis Chwefror i fis Tachwedd. Rydych yn fwyaf tebygol o'u gweld o fis Gorffennaf ymlaen. Maen nhw'n hoffi:
- planhigion sy'n blodeuo (yn enwedig eiddew yn yr hydref, ond mae hefyd yn hoffi planhigion eraill)
- cychod neu nythod gwenyn
- ffrwythau sy'n pydru fel afalau, gellyg, ffigys ac eirin sydd wedi cwympo, ymhlith ffrwythau eraill
Sut i roi gwybod am gacwn melyngoes
Rhowch wybod os ydych yn gweld cacynen felyngoes ar:
- ar Ap yr Asian Hornet Watch (am ddim ar gyfer Android ac i-Phone), neu
- y ffurflen adroddiad ar-lein (ar wefan Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU)
Cofiwch gynnwys ffotograff a nodwch y lleoliad bob tro rydych yn riportio cacynen felyngoes.
Fel arfer nid yw cacwn melyngoes yn ymosodol. Ond ni ddylech chi fynd at nyth neu aflonyddu ar nyth gan y byddan nhw'n dod yn ymosodol os ydyn nhw'n teimlo eu bod dan fygythiad. Mae cyngor meddygol am bigiadau a brathiadau pryfed ar gael ar wefan y GIG.
Gallwch ddod o hyd i bosteri rhybudd a chanllawiau adnabod ar nonnativespecies.org. Mae copïau printiedig ar gael ar gais gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain.
Am ragor o wybodaeth, gweler Y gacynen felyngoes (ar nationalbeeunit.com).
Hanes ei lledaeniad
Mae'r gacynen felyngoes yn dod o Asia yn wreiddiol a chafodd ei gweld gyntaf yn Ffrainc yn 2005. Ers hynny, mae wedi lledaenu i wledydd Ewropeaidd eraill. Mae'r rhain yn cynnwys Sbaen, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Portiwgal, yr Eidal, y Swistir a'r Almaen.
Gwelwyd y pryf hwn gyntaf yn Lloegr yn 2016. Mae camau wedi cael eu cymryd bob blwyddyn ers hynny i ddod o hyd i nythod a'u dinistrio. Mae gan Gymru a Lloegr gynllun wrth gefn ar y cyd ar gyfer yr gacynen felyngoes (ar gov.uk). Mae hyn yn nodi'r camau i'w cymryd er mwyn ymdrin â chacwn melyngoes.
Ym mis Ionawr 2026, gwelwyd nyth cacwn melyngoes farw ger Wrecsam. Dyma'r tro cyntaf i nyth y pryf hwn gael ei chadarnhau yng Nghymru.
Gallwch ein helpu i atal y pryf goresgynnol hwn drwy ei adnabod a'i riportio.
