Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae’r cynllun i dorri amseroedd aros hir a’r rhestr aros yn gweithio wrth i nifer y bobl sy’n aros leihau i’r lefel isaf mewn bron i dair blynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd lleihad yn y rhestr aros gyffredinol am y seithfed mis yn olynol ym mis Rhagfyr. Roedd 16,900 yn is nag ym mis Tachwedd ac, erbyn hyn, mae ar ei lefel isaf ers mis Mawrth 2023.

Mae arosiadau hir hefyd yn syrthio’n gyflym. Roedd llai na 5,300 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ym mis Rhagfyr, i lawr tua 1,600 o fis Tachwedd. Mae hynny’n lleihad o 92.5% o’r adeg pan oedd y nifer yn ei anterth ym mis Mawrth 2022.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, wrth i ragor o apwyntiadau, profion a llawdriniaethau i gleifion allanol gael eu darparu ledled Cymru, fod cynllun Llywodraeth Cymru i dorri amseroedd aros hir a’r rhestr aros gyffredinol – cynllun sydd gwerth £120m – yn gweithio.

Bydd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn ymweld ag Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful heddiw i gwrdd â thimau’r GIG sy’n gweithio yn y theatrau llawdriniaeth, gan gynnwys yr uned llawdriniaethau dydd, ac yn y meysydd orthopedig a gynaecoleg.

Wrth siarad am ystadegau diweddaraf y GIG, dywedodd:

Mae’r rhestr aros wedi bod yn syrthio ers saith mis bellach. Mae’r arosiadau hiraf i lawr mwy na 90% o’r adeg pan roedden nhw yn eu hanterth. 

"Mae degau o filoedd yn rhagor o apwyntiadau cleifion allanol wedi’u cyflawni. Mae hyn yn gynnydd gwirioneddol sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.

“Fe wnes i addo wrth bobl Cymru y byddai’r rhestr aros a’r arosiadau hiraf yn cael eu torri. Dyna’n union beth sy’n digwydd.

“Nid ffigurau yn unig yw’r rhain – maen nhw’n bobl go iawn sy’n cael eu trin yn ysbytai a chlinigau Cymru gan staff gweithgar ac ymroddedig y GIG. Mae’r hyn maen nhw’n ei wneud wir yn gwneud gwahaniaeth."


Ar gyfartaledd, mae’r amser aros am driniaeth yng Nghymru wedi lleihau i 19 wythnos ac mae nifer y bobl sy’n aros mwy na 36 wythnos am driniaeth hefyd wedi lleihau i’r lefel isaf ers mis Mawrth 2021.

Mae’r data dros dro ar gyfer mis Ionawr 2026 yn awgrymu y bydd y cynnydd cadarnhaol hwn yn parhau gyda lleihad sylweddol pellach yn y rhestr aros gyffredinol ac yn yr arosiadau blwyddyn o hyd.

Ym mis Rhagfyr, heblaw am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, nid oedd gan unrhyw fwrdd iechyd yr un claf a oedd yn aros am fwy na dwy flynedd, neu roedd y ffigur hwnnw’n llai nag 1%.

Yng Nghymru gyfan, mae ychydig dros 32,700 o bobl yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol – mae’r ffigur hwn ar ei isaf ers mis Medi 2020. Nid oes unrhyw arosiadau blwyddyn o hyd ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac mae’r ffigur hwn yn llai nag 1% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol mewn trefniadau i helpu pobl i gael eu gweld yn gyflymach. Mae hyn eisoes wedi darparu mwy na 153,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol ledled Cymru, ac mae rhagor wedi’u cynllunio.