Yr hyn rydyn ni'n mynd i'w wneud i foderneiddio gwirfoddoli ac annog mwy o bobl i wirfoddoli yng Nghymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae gwirfoddoli yn rhan fawr o fywyd yng Nghymru. Mae gwirfoddoli yn helpu pobl sy'n gwirfoddoli a'r bobl sy'n cael help ganddynt, mae'n helpu cymunedau a Chymru gyfan. Bellach mae gennym weledigaeth newydd ar gyfer gwirfoddoli, gweledigaeth a grëwyd gyda chymorth gwirfoddolwyr a sefydliadau o bob sector.
Bydd y dull gweithredu newydd hwn yn ein helpu i gefnogi gwirfoddoli a'i wneud yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cynhwysol i bawb.
Yr angen am ddull gweithredu newydd
Mae gwirfoddoli wedi bod yn bwysig yng Nghymru erioed, ond mae pethau'n newid. Mae llawer o sefydliadau yn cael trafferth dod o hyd i wirfoddolwyr a'u cadw. Mae bywydau, swyddi a chyfrifoldebau pobl yn wahanol heddiw, ac mae gan rai pobl lai o amser i'w roi.
Ar yr un pryd, mae'r angen am wirfoddolwyr yn cynyddu. Mae cymunedau yn wynebu heriau newydd, gan gynnwys pwysau ar les a'r amgylchedd. Rydyn ni eisiau cymdeithas decach lle mae pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan. Mae hyn yn golygu bod angen cymysgedd o fathau traddodiadol a newydd o wirfoddoli sy'n cyd-fynd â'r ffordd y mae pobl yn byw heddiw.
Mae llawer o bethau yn effeithio ar sut mae pobl yn gwirfoddoli, gan arwain at y ffaith bod pobl eisiau ffyrdd mwy hyblyg o helpu.
Er mwyn cwrdd â'r newidiadau hyn, mae angen i sefydliadau addasu fel bod gwirfoddoli yn brofiad gwerth chweil i bawb. Bydd llwyddiant yn dibynnu ar wneud y profiad o wirfoddoli yn ddiogel, yn gynhwysol ac yn un sy'n cael ei gefnogi.
Y weledigaeth ar gyfer gwirfoddoli
"Mae gwirfoddoli wrth wraidd hunaniaeth Cymru: ac yn hanfodol i les ein cymunedau.
Mae gwirfoddoli o fudd i'r rhai sy'n rhoi o'u hamser ac i'r rhai sy'n cael cymorth. Mae'n cryfhau pobl a lleoedd ac yn helpu i ddiffinio'r math o wlad y mae Cymru am fod.
Mae gwirfoddoli yn rhan ganolog o fywyd cymunedol. Mae'n sylfaen i lawer o wasanaethau a mathau o gymorth y mae pobl o bob cefndir, hunaniaeth a gallu yn dibynnu arnynt ar wahanol adegau yn eu bywydau.
Dylai gwirfoddoli fod yn brofiad diogel a chynaliadwy sy'n cael ei gefnogi ac sydd wrth wraidd bywyd cenedlaethol yng Nghymru."
Beth yw llwyddiant?:
- Bydd mwy o bobl yn gwirfoddoli, a bydd eu cyfraniad yn cael mwy o effaith.
- Bydd gwirfoddoli yn teimlo fel rhan arferol o fywyd bob dydd.
- Bydd pobl (yn enwedig pobl ifanc) yn cael eu hannog a'u cefnogi i wirfoddoli mewn ffyrdd sydd o fudd i bawb.
- Bydd sefydliadau ledled Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi gwirfoddolwyr.
Bydd gwirfoddoli yn helpu i feithrin perthynas rhwng dinasyddion, cymunedau a'r llywodraeth.
Y nodau ar gyfer gwneud y newid
Dros y flwyddyn i'r ddwy flynedd nesaf, byddwn yn gwneud y canlynol:
- annog sefydliadau perthnasol i fabwysiadu'r weledigaeth newydd
- cefnogi newid mewn agweddau at wirfoddoli
- creu adnoddau a dulliau ymarferol i helpu sefydliadau i gefnogi gwirfoddolwyr
- gwneud gwirfoddoli yn fwy cynhwysol ac amrywiol
- sefydlu Cymunedau Ymarfer i rannu'r hyn a ddysgwyd
Mewn pum i ddeng mlynedd, rydym yn disgwyl y bydd:
- gwirfoddoli yn cael ei ystyried yn rhywbeth modern a hygyrch
- yr amgylchedd yn ddiogel a chefnogol i wirfoddolwyr
- ystod ehangach o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael
- gwell cydbwysedd yn y berthynas rhwng gwirfoddolwyr, cymunedau, sefydliadau a'r llywodraeth
- cynnydd clir tuag at feithrin gwirfoddoli gydol oes cyllida chymorth cyfreithiol cryf
Sut y byddwn yn cyflawni’r newid
Mae'r weledigaeth wedi'i llunio gan wirfoddolwyr, sefydliadau a phartneriaid ledled Cymru. Er mwyn i'r weledigaeth gael ei gwireddu , bydd angen mabwysiadu dull "Tîm Cymru" o weithio.
I lwyddo, mae angen inni sicrhau'r canlynol:
- cyfeiriad polisi clir
- esboniad cryf o pam mae angen newid
- cynlluniau ymarferol ar gyfer beth i'w wneud
- dulliau gweithredu, cymorth ac arweinyddiaeth dda
Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau:
- Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn parhau, gan gynnwys gweithdai i archwilio gwirfoddoli mewn meysydd polisi penodol.
- Mae ieuenctid ac addysg wedi bod yn flaenoriaeth, gan adlewyrchu pwysigrwydd adeiladu'r genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr.
- Mae chwaraeon a hamdden hefyd wedi bod yn ffocws, ochr yn ochr â'r amgylchedd, gwirfoddoli ar lawr gwlad a gweithredu cymunedol.
- Mae gwaith ar y gweill gydag awdurdodau lleol i edrych ar y berthynas rhwng gwirfoddoli a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
- Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chynghorau Gwirfoddol Sirol wedi cysoni eu ffocws ar wirfoddoli â'r Dull Newydd.
- Mae cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yn datblygu cynlluniau i gryfhau eu rôl ym maes gwirfoddoli.
Bydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn parhau i arwain yn hyn o beth.
Model ar gyfer cyflawni'r weledigaeth: dull gweithredu sy'n gadael i bawb wneud gwahaniaeth
Mae'r model yn dangos sut mae'r galluogwyr iawn yn ei gwneud hi'n bosibl cyflawni amcanion canolig, sydd yn ei dro yn arwain at y weledigaeth hirdymor. Gellir addasu'r model i wahanol sefydliadau, meysydd polisi ac amgylchiadau lleol
Tasg gynnar yw asesu pa alluogwyr sydd eisoes ar waith a pha rai sydd angen eu datblygu ymhellach.
Dylid cyflawni amcanion canolig dros gyfnod o ddwy flynedd i dair blynedd. Dylai cynnydd mesuradwy tuag at gyflawni'r weledigaeth ddilyn o fewn tair blynedd i bum mlynedd.
Galluogwyr
- Arweinyddiaeth ar bob lefel;
- Seilwaith ac adnoddau cryf.
- Cynlluniau cyflawni clir.
- Amcanion sy'n canolbwyntio ar weithredu.
- Dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar wirfoddolwyr:
- Parch at ddiwylliant, cymdeithas ac iaith Cymru.
- Ymgysylltu â grwpiau, yn enwedig pobl ifanc.
- Cyfathrebu cryf.
Amcanion canolig
- Gwirfoddoli sy'n cyd-fynd â bywyd modern.
- Gwirfoddoli sy'n cael mwy o werth ac effaith.
- Gwell profiadau gwirfoddoli.
- Systemau cymorth cryfach.
- Cyfleoedd mwy amrywiol a hygyrch.
- Gwirfoddoli sy'n cefnogi diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg.
- Cyfleoedd sy'n diwallu anghenion y gymuned.
- Ffocws ar feysydd blaenoriaeth.
Gwireddu’r weledigaeth
- Mae gwirfoddoli yn dod yn ffordd o fyw.
- Gwell lles i unigolion a chymunedau.
- Gwirfoddoli diogel, sy'n cael ei gefnogi ac sy'n parhau.
- Cyfleoedd sy'n adlewyrchu diwylliant, iaith ac amrywiaeth Cymru.
Amcanion
Mae gennym bum amcan ar gyfer y flwyddyn i'r ddwy flynedd nesaf:
- Gweithredu ar y weledigaeth: adeiladu ar y dull "Tîm Cymru" gydag o leiaf 50 o sefydliadau yn mabwysiadu'r weledigaeth erbyn haf 2026.
- Cydnabod gwerth gwirfoddoli: cefnogi newid cenedlaethol mewn agweddau trwy asesiadau gwaelodlin a dilynol‑.
- Rhannu gwybodaeth a phrofiad: creu cymunedau ymarfer gweithredol
- Darparu'r dulliau gweithredu iawn: gwella a chysylltu'r dulliau a'r cymorth sydd ar gael i wirfoddolwyr a sefydliadau.
- Asesu cynnydd: adeiladu dangosfwrdd cynaliadwy o fesurau, gan gynnwys amrywiaeth a chynhwysiant, erbyn haf 2026.
Adnoddau
Mae cyflawni'r Weledigaeth yn gofyn am ymrwymiad a buddsoddiad parhaus. Bydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn gweithredu i ysgogi adnoddau ehangach ar draws sectorau.
Mae angen buddsoddiad i ddarparu cymorth, arweiniad a chydlyniad i alluogi newid a datgloi'r capasiti presennol.
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Bydd strategaeth gyfathrebu newydd yn helpu pobl i ddeall, cefnogi a chymryd rhan yn y Weledigaeth. Bydd yn defnyddio offer digidol a chyfryngau traddodiadol, gan ymgysylltu â'r gymuned i gyrraedd pobl ledled Cymru.
Adolygu a diwygio
Bydd y cynllun gweithredu ar gyfer y Dull Newydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Bydd hyn yn cynnwys:
- Casglu data sylfaenol
- Deall y maes gwirfoddoli
- creu mesurau a dangosfyrddau clir
- defnyddio ymchwil i lywio penderfyniadau
- cynnal gwerthusiad annibynnol bob pedair blynedd i bum mlynedd
