Ni fydd angen i gymunedau pysgota ddewis rhwng apwyntiadau gwaith a iechyd mwyach, gyda gwiriadau deintyddol, ffisiotherapi a iechyd am ddim bellach yn cael eu darparu mewn harbyrau ledled Cymru.
Mae'r prosiect Cryfach ar y Môr, rhan o'r fenter SeaFit, yn dod â thriniaeth ddeintyddol, gwiriadau iechyd, cymorth iechyd meddwl a ffisiotherapi yn uniongyrchol i leoliadau mewn harbyrau.
Mae gwasanaethau yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac nid oes angen apwyntiad.
Wrth ymweld â digwyddiad Cryfach ar y Môr yn Abertawe heddiw, gwelodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, sut mae Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru Llywodraeth Cymru yn helpu Pysgotwyr a'u teuluoedd i dderbyn gofal iechyd am ddim yn eu harbwr lleol.
Mae'r gwasanaeth yn dileu'r angen am deithio hir ac amserlennu anodd sydd wedi atal llawer rhag cael mynediad at wasanaethau hanfodol ers amser maith.
Mae patrymau gweithio heriol ac anrhagweladwy y diwydiant pysgota wedi ei gwneud hi'n anodd i weithwyr fynychu lleoliadau gofal iechyd traddodiadol. Mae gadael yn gynnar yn y bore, amserlenni sy'n dibynnu ar y tywydd a lleoliadau ar harbyrau anghysbell yn creu rhwystrau sylweddol i gael mynediad at ofal arferol.
Trwy ddarparu gwasanaethau ar lan y cei, mae'r prosiect yn cwrdd â physgotwyr lle maen nhw'n gweithio. Mae'r fenter yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru, gan weithio ar y cyd â’r Fishermen's Mission a'r Seafarers Hospital Society.
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn porthladdoedd ledled Cymru drwy gydol mis Chwefror a Mawrth
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Mae'n wych gweld yr ystod o wasanaethau sydd ar gael yn nigwyddiad SeaFit Abertawe heddiw. Mae ein cymunedau pysgota yn gweithio'n galed mewn amodau heriol, ac mae'r bartneriaeth hon yn dod â gofal iechyd hanfodol yn uniongyrchol i ble mae pysgotwyr yn gweithio. Mae atal a gofal cynnar yn hanfodol i gadw pobl yn iach ac mewn gwaith, ac rwy'n falch iawn o weld y dull hwn yn cyrraedd y rhai sydd wedi ei chael hi'n anoddaf i gael mynediad at wasanaethau."
Dywedodd Carol Elliott, Rheolwr SeaFit:
"Rydym yn falch iawn o weld SeaFit Wales yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cymunedau pysgota. Trwy ddod â gofal iechyd yn uniongyrchol i'r cei, rydym yn sicrhau bod pysgotwyr a'u teuluoedd yn cael y gofal sydd ei angen arnynt heb orfod aberthu amser gwerthfawr ar y môr. Mae'r bartneriaeth hon yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gwrando ar anghenion ein cymunedau arfordirol ac yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi eu lles."
Meddai Jim Evans, MBE, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru "Mae'r WFA-CPC yn ddiolchgar am yr holl gymorth a chefnogaeth a gafwyd i ddod â'r prosiect pwysig hwn o'r dudalen yn fyw!
"Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb arbenigedd a rhwydweithiau gofal iechyd ein ffrindiau a'n cydweithwyr yn SeaFit, y Seafarers hospital Society, y Fishermens Mission, a'r cyllid prosiect hollbwysig a sicrhawyd drwy Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.
"Mae iechyd a diogelwch ar y môr wedi bod yn flaenoriaeth i WFA-CPC erioed, prosiect SeaFit Cymru – 'Cryfach ar y Môr' yw'r cyntaf o'i fath a'i faint yng Nghymru imi wybod amdano sydd wedi'i anelu at anghenion lles meddyliol, corfforol a gofal iechyd meddygol pysgotwyr sy'n gweithio neu wedi ymddeol yng Nghymru a'u teuluoedd.
"Ar ôl bod yn bysgotwr fy hun, rwy'n ymwybodol iawn o'r anhawster i gadw apwyntiadau deintyddol a gofal iechyd pan fydd eich gwaith yn cael ei ddylanwadu gan y tywydd a'r llanw.
"O ystyried natur gorfforol a meddyliol heriol pysgota fel bywoliaeth, byddwn yn annog pob pysgotwr yng Nghymru i roi eu hiechyd yn gyntaf a mynd i un o ddigwyddiadau Seafit mewn porthladd yn agos atoch chi."
