Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae’r ystadegau’n seiliedig ar y dychweliadau a gyflwynir gan awdurdodau lleol i gronfa ddata WasteDataFlow, a gaiff ei rheoli gan CNC. Er bod rhai’n cael eu cofnodi, nid yw’r ystadegau’n cwmpasu pob digwyddiad o dipio anghyfreithlon ar dir preifat, ac ni fydd pob digwyddiad o dipio anghyfreithlon yn cael ei adrodd i’r awdurdod lleol. Gall tueddiadau fod yn anwadal o flwyddyn i flwyddyn oherwydd newidiadau mewn dulliau adrodd.

Gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.

Prif bwyntiau

  • Cafodd 48,367 o achosion tipio anghyfreithlon eu cofnodi yng Nghymru, 15% yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. 
  • Adroddodd 18 awdurdod lleol gynnydd yn nifer yr achosion rhwng 2023 i 2024 a 2024 i 2025, ac adroddodd 4 awdurdod lleol ostyngiad.
  • Gwelwyd y cynnydd blynyddol mwyaf yn nifer yr achosion tipio anghyfreithlon ag adroddwyd yn Sir Ddinbych (230%); yn bennaf oherwydd gwelliannau yn y ffordd y caiff data ei gasglu, gan eu galluogi i gofnodi mwy o achosion. 
  • Cafodd achosion eraill o gynnydd blynyddol mawr yn nifer yr achosion tipio anghyfreithlon yn y Fro Morgannwg (100%), Merthyr Tudful (68%) a Chaerffili (63%).
  • Gwelwyd y gostyngiadau blynyddol mwyaf mewn achosion tipio anghyfreithlon yng Ngwynedd (22%), Pen-y-bont ar Ogwr (11%) a Chasnweydd (10%).
  • Roedd 71% o'r digwyddiadau'n ymwneud â gwastraff cartref (bag du neu wastraff cartref arall), yn debyg i flynyddoedd blaenorol.
  • Cafodd 27,749 o gamau gorfodi eu cymryd yng Nghymru, 9% yn fwy na'r blwyddyn blaenorol.
  • O’r 27,749 camau gorfodi, ymchwiliadau oedd 22,924 ohonynt (83%).
  • O'r 70 canlyniad i erlyniad, fe wnaeth 80% arwain at ddirwy.

Ar gyfer cyfresi amser hanesyddol a dadansoddiadau o ddigwyddiadau yn ôl math, tir, maint, camau gorfodi a chanlyniadau erlyniad, ewch i StatsCymru.

Gwnaed rhai diwygiadau i ddata hanesyddol. Nid yw’r rhain yn effeithio ar y prif ganlyniadau. Gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r ffigurau hyn oherwydd newidiadau parhaus a gwelliannau i fecanweithiau adrodd data a chanllawiau, a all amrywio rhwng awdurdodau lleol. 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad ansawdd.

Costau clirio

Nid yw costau clirio cyfartalog ar gyfer digwyddiadau tipio anghyfreithlon o bob maint heblaw llwyth lori dipio a llwythi sylweddol/niferus yn cael eu cyhoeddi bellach. Yn hanesyddol, cyfrifwyd y costau hyn gan ddefnyddio model a ddatblygwyd yn 2003, yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan ddetholiad o awdurdodau lleol. Er i’r dull hwn wasanaethu ei ddiben ar y pryd, nid yw’r model bellach yn adlewyrchu costau gwirioneddol clirio tipio anghyfreithlon heddiw.

Manylion cyswllt

Ystadegau Materion Gwledig a'r Amgylchedd
E-bost: ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099