Neidio i'r prif gynnwy

Mae nwyddau mislif am ddim a sgyrsiau agored am iechyd mislif bellach ar gael i deuluoedd ledled Cymru, gyda chyllid yn helpu i gael gwared ar stigma a mynd i'r afael â thlodi mislif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, sy'n dod i gyfanswm o dros £3.45 miliwn, yn darparu nwyddau am ddim ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru, ac mewn cannoedd o leoliadau eraill, gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, banciau bwyd, canolfannau ieuenctid a chlybiau chwaraeon. Mae'r cyllid hwn yn helpu i gael gwared ar rwystrau mewn perthynas â'r mislif a sicrhau bod neb yn methu'u haddysg, gwaith neu weithgareddau bywyd bob dydd oherwydd nad ydynt yn gallu cael gafael ar y nwyddau sydd eu hangen arnynt.

Un enghraifft o'r gwahaniaeth y gall y cyllid hwn ei wneud yw'r Prosiect Positifrwydd Mislif a arweinir gan wirfoddolwyr yng Nghlwb FOOD Family Action yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed yng Nghaerdydd. Mae'r prosiect yn darparu nwyddau ac adnoddau addysgol am ddim, gan greu mannau diogel i siarad am iechyd mislif. Mae tua 30 o bobl yn mynd i sesiynau bob wythnos, ac mae'r prosiect yn blaenoriaethu nwyddau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd lle bynnag y bo modd.

Dywedodd Cydgysylltydd Clwb FOOD, Steve Glavin:

"Pan ofynnon ni pa gefnogaeth arall oedd ei angen ar ein haelodau, nwyddau mislif am ddim oedd yr ateb mwyaf cyffredin, felly roeddem yn falch iawn o dderbyn Grant Urddas Mislif i lansio ein Prosiect Positifrwydd Mislif.

"Mae ein haelodau yn dweud wrthym ei fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, nid yn unig o ran lleddfu'r pwysau ar gyllidebau teuluoedd ond hefyd o ran creu lle diogel i siarad yn agored a chael gwared ar stigma ynghylch y pwnc. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'n hysgol i ddarparu nwyddau mislif ac adnoddau addysgol i ymgysylltu â'r myfyrwyr ar y mater pwysig hwn."

Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, â'r prosiect yr wythnos hon.  Dywedodd:

"Roedd yn wych gweld y prosiect ar waith yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed. Roeddwn yn gallu gweld sut mae'n helpu teuluoedd a phobl ifanc i gael gafael ar nwyddau a siarad yn agored am y mislif mewn amgylchedd cefnogol. Mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylent fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd eu hangen. Trwy'r Grant Urddas Mislif, rydym yn ariannu prosiectau ledled Cymru sy'n helpu i ddileu tlodi mislif a sicrhau bod modd rheoli'r mislif gydag urddas."

Mae iechyd mislif yn un o'r meysydd blaenoriaeth yng Nghynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru. Ers 2018, mae'r Gronfa Urddas Mislif wedi cefnogi cannoedd o brosiectau ledled Cymru, gan helpu mentrau lleol i roi'r hyder i bobl drafod a rheoli'r mislif yn ddiogel, yn hyderus a heb gywilydd.