Mae'r tocynnau am ddim ar gael i rai o'r llefydd mwyaf eiconig ledled y wlad ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.
O gestyll syfrdanol i safleoedd crefyddol heddychlon a safleoedd diwydiannol mawr a foldiodd y chwyldro diwydiannol, bydd mynediad i 17 o leoedd hanesyddol yng ngofal Cadw, sydd fel arfer yn codi tâl am fynediad, yn rhad ac am ddim y Dydd Gŵyl Dewi hwn.
Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gofalu am rai o leoedd mwyaf poblogaidd Cymru sy'n llawn hanes sydd wedi llunio'r genedl.
Yn hytrach na thalu i gael mynediad i'r safleoedd hyn, mae Cadw yn gofyn i ymwelwyr ystyried rhodd wirfoddol i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r elusen sy'n gwasanaethu Cymru gyfan yn darparu gofal critigol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i'r rhai sydd angen cymorth brys. Mae cyfrannu'n gwbl wirfoddol, ond gall y rhai sy'n dymuno gwneud hynny gyfrannu yma.
Er mwyn mwynhau mynediad am ddim i un o'r lleoedd hanesyddol hyn y Dydd Gŵyl Dewi hwn, rhaid i ymwelwyr archebu eu tocynnau am ddim ar-lein ymlaen llaw.
Yn ogystal, er mwyn osgoi siom, cynghorir y bobl sy'n dymuno ymweld â Phlas Mawr a Chastell Coch i archebu eu tocynnau cyn gynted â phosibl, gan fod cyfyngiad llym ar faint o docynnau sydd ar gael ar gyfer pob un o'r safleoedd hyn.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle mor bwysig i ddathlu popeth sy'n gwneud Cymru'n genedl arbennig gyda'n hunaniaeth a'n diwylliant unigryw.
Ochr yn ochr â'n cronfa gwerth £1 miliwn ar gyfer digwyddiadau a dathliadau cymunedol Dydd Gŵyl Dewi ledled Cymru eleni, mae'n wych bod pobl yn cael y cyfle i ymweld â rhai o'n lleoedd hanesyddol anhygoel ar 1 Mawrth.
Mae ymweld â safle Cadw yn ffordd wych o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a dysgu mwy am hanes anhygoel Cymru.
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant:
Rydw i mor falch y bydd Cadw, unwaith eto, yn rhoi tocynnau mynediad am ddim ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Mae ymweld ag un o'r lleoedd arbennig hyn sy'n llawn hanes yn ffordd wych o ddathlu'r hyn sy'n gwneud Cymru yn unigryw. Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i archebu eu tocynnau cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi colli allan.
Rydyn ni'n gobeithio y bydd ymwelwyr hefyd yn cefnogi'r elusen rydyn ni wedi'i dewis, Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n gwneud gwaith anhygoel ledled y wlad.
Dywedodd Abi Pearce, Rheolwr Partneriaeth Corfforaethol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De Cymru:
Gall pobl fwynhau ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan wybod eu bod yn helpu i achub bywydau! Rydyn ni'n hynod o ddiolchgar y bydd pob ymwelydd â safleoedd Cadw yn cael mynediad am ddim ac rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n cyfrannu at ein gwasanaeth achub bywydau.
Ers ein lansio yn 2001, rydyn ni wedi gwneud dros 55,000 o deithiau. Ni allen ni fod wedi gwneud hynny heb gefnogaeth pobl Cymru, a byddwn bob amser yno iddyn nhw, ble bynnag, a phryd bynnag, y bydd ein hangen arnyn nhw.
Sut i hawlio eich tocynnau am ddim:
- Ewch i dudalen Cadw 'I ble hoffech chi fynd?' a dewiswch y lle hanesyddol yr hoffech ymweld ag ef
- Cliciwch 'Archebu Tocynnau' a dewiswch y math o docyn (er enghraifft, oedolyn, teulu, neu berson hŷn)
- Dewiswch 'Dydd Sul 1 Mawrth' a slot amser
- Ychwanegwch eich tocynnau am ddim i'r fasged ac ewch i'r ddesg dalu
- Bydd eich tocynnau am ddim yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost rydych chi'n ei nodi wrth y ddesg dalu
Dewch â phrawf eich bod wedi archebu tocynnau ar ddiwrnod eich ymweliad.
