Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr ar lein y Cambrian yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda mwy o bobl leol a thwristiaid fel ei gilydd yn defnyddio'r gwasanaeth ers y gwelliannau a wnaed iddo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ffigurau diweddar yn dangos cynnydd yn nifer y teithwyr ar lein y Cambrian ym mhob mis rhwng mis Ionawr a mis Tachwedd 2025 o'u cymharu â ffigurau'r misoedd hynny yn 2024.

Mae'r lein wedi gweld tua 150,000 yn fwy o deithiau o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol - sy'n cyfateb i gynnydd o 13%.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS:

Mae'r cynnydd yn nifer y teithwyr ar lein y Cambrian yn newyddion ardderchog ac yn dangos bod pobl yn gweld dros eu hunain ein hymdrechion i wella'r gwasanaeth.

"Y llynedd fe wnaethom gynyddu nifer y trenau sy'n rhedeg ar lein y Cambrian a darparu mwy o staff ar fwrdd y trenau yn ystod misoedd prysuraf yr haf, felly mae'n wych bod mwy o deithwyr wedi sylwi ar y gwelliannau hyn.

Daw'r ffigurau hyn wrth i'r paratoadau barhau ar gyfer cyflwyno trenau newydd sbon o fis Medi ymlaen, gan roi hwb pellach i wasanaethau ar lein y Cambrian.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Gyda pherfformiad yn gwella, galw cynyddol a threnau newydd sbon ar y ffordd, mae ein buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn talu ar ei ganfed i deithwyr ar lein y Cambrian.