Adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gynllunio gwlad a thref: ymateb Llywodraeth Cymru
Ein hymateb i'r argymhellion a wnaethpwyd yn adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cynhyrchodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg adroddiad annibynnol ar Gynllunio Gwlad a Thref yn 2025.
Pwrpas a chyd-destun
Yn ei adroddiad, cyflwynodd y Comisiwn argymhellion gyda'r nod o integreiddio'r Gymraeg yn y system gynllunio, gan sicrhau bod polisi cynllunio yn cefnogi hyfywedd hirdymor y Gymraeg fel iaith cymuned. Mae wedi ceisio ymateb i'r heriau strwythurol sy'n wynebu ardaloedd Cymraeg a chynnig ffyrdd y gallai polisi cynllunio helpu i gynnal y cymunedau hyn, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol.
Cyhoeddwyd yr adroddiad cynllunio gyda rhestr fanwl o argymhellion sy'n canolbwyntio ar:
- Cynyddu amlygrwydd iaith wrth wneud penderfyniadau cynllunio.
- Sicrhau bod cynlluniau datblygu yn ystyried effeithiau ieithyddol.
- Cryfhau'r gofyn am dystiolaeth ar gyfer ystyried y Gymraeg.
- Hyfforddi cynllunwyr i ddeall deinameg ieithyddol.
- Adolygu dogfennau polisi fel bod y Gymraeg yn cael ei thrin fel ystyriaeth berthnasol mewn ffordd gyson ar draws y system gynllunio.
Ymateb i'r argymhellion
Argymhelliad 1
Argymhelliad 1: Dylid darparu fframwaith clir ar gyfer asesu effeithiau cais cynllunio ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn yr un modd ag a wneir ar gyfer asesu effeithiau cais cynllunio ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn mewn deddfwriaeth. Os nad yw hyn yn ddichonadwy, dylid diwygio Polisi Cynllunio Cymru i gynnwys y fframwaith newydd.
Ymateb i argymhelliad 1: Derbyn mewn egwyddor
Mae cysylltiad cryf rhwng Argymhelliad 1 a'r themâu ym mhrif adroddiad y Comisiwn sy'n argymell yr angen i ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Elfen graidd creu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch fyddai caniatáu i fframweithiau polisi roi mwy o ystyriaeth i'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Argymhelliad 2 o'r prif adroddiad yw "Dylai Llywodraeth Cymru ddynodi 'ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch' yng Nghymru." Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod dynodi ardaloedd o ‘ddwysedd uwch o arwyddocâd ieithyddol’ yn bwysig er mwyn diogelu cymunedau Cymraeg eu hiaith rhag shifft ieithyddol pellach.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi ystyriaeth bellach a manwl i ddeall sut gallai’r dynodiad weithio’n ymarferol (Argymhelliad 3-8), ac a yw’n briodol ac yn angenrheidiol rhoi sail statudol i ‘ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’. Bydd dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn gyfrwng pwysig i reoli, adolygu, diwygio neu lunio polisïau a all ddiogelu a chreu amodau ffafriol i’r iaith ffynnu.
Mae'r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol a diwylliannol Cymru ac mae ei lles yn y dyfodol yn ddibynnol ar ystod eang o ffactorau, yn enwedig addysg, newid demograffig, gweithgareddau cymunedol, a sylfaen economaidd gadarn i gynnal cymunedau a lleoedd cynaliadwy ffyniannus.
Rydym yn croesawu argymhelliad y Comisiwn (argymhelliad 1) o ran egwyddor cael fframwaith clir i fynd i'r afael ag ystyriaethau ieithyddol. Bydd creu un fethodoleg asesu statudol sy'n cwmpasu pob maes gwneud penderfyniadau a allai effeithio ar feysydd ieithyddol sensitif yn fwy buddiol na chreu dull pwrpasol sy'n cwmpasu cynllunio.
Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd y mae'r Comisiwn yn ei roi ar sicrhau bod penderfyniadau cynllunio mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn cael eu gwneud trwy ddull cynllunio clir a chyson.
Rydym yn nodi y byddai cyflwyno methodoleg asesu statudol newydd trwy fframwaith canolog yn golygu goblygiadau i bolisi cenedlaethol a phrosesau awdurdodau cynllunio lleol. Byddai newid o'r fath yn gofyn am archwilio opsiynau deddfwriaethol yn ofalus, gan gynnwys sut y byddai mecanwaith asesu effaith ieithyddol statudol yn alinio â deddfwriaeth arall.
Mae deddfwriaeth cynefinoedd yn un model posibl y gellid ei archwilio wrth ddatblygu methodoleg asesu statudol. Mae Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd (HRAs) yn deillio o Ran 6 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017/1012 ("y Rheoliadau Cynefinoedd") (a roddai'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd ar waith) o effeithiau cynlluniau neu brosiectau ar safleoedd Ewropeaidd (sy'n cynnwys ardaloedd cadwraeth arbennig ("ACA")). Mae rheoliad 63 o'r Rheoliadau Cynefinoedd yn gosod dyletswydd ar awdurdod cymwys i wneud asesiad priodol o oblygiadau cynllun neu brosiect sy'n debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd gan ystyried amcanion cadwraeth y safle cyn penderfynu cynnal y prosiect neu'r cynllun hwnnw, neu roi cydsyniad, caniatâd, neu awdurdodiad arall iddo.
I gyd-fynd ag unrhyw gynnig i greu methodoleg asesu statudol, rhaid hefyd wrth newidiadau i Polisi Cynllunio Cymru a TAN 20 i ddarparu polisi ac arweiniad ar gyfer ei gymhwyso i gynllunio. Byddai hyn yn debyg o ran ei ddiben i Polisi Cynllunio Cymru a TAN5 sy'n esbonio sut i gymhwyso'r Rheoliadau Cynefinoedd i gynllunio.
Dylai'r awgrym i ddiwygio Polisi Cynllunio Cymru ddilyn sefydlu'r fethodoleg asesu statudol y cyfeirir ati yn argymhelliad 1. Byddai'n rhoi cyfarwyddyd manylach ar ddefnyddio'r fethodoleg asesu statudol i asesu effeithiau ceisiadau cynllunio mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Fodd bynnag, ni ystyrir y byddai diwygio Polisi Cynllunio Cymru ar ei ben ei hun yn cyflawni uchelgais yr argymhelliad hwn heb ddiffinio 'ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch' o fewn polisi neu ddeddfwriaeth ehangach Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 2
Argymhelliad 2: Dylid diwygio Nodyn Cyngor Technegol 20 i roi arweiniad manwl ar sut i ddarparu asesiad cynhwysfawr o effeithiau cais cynllunio ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, a’r mathau o gamau a all liniaru effeithiau andwyol yn effeithiol.
Ymateb i argymhelliad 2: Derbyn mewn egwyddor
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwneud y canllawiau sy'n ymwneud â'r Gymraeg o fewn y system gynllunio yn fwy eglur a chyson.
Dylai'r awgrym i newid Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20: Cynllunio a'r Gymraeg ddilyn sefydlu'r fethodoleg asesu statudol ganolog y cyfeirir ati yn argymhelliad 1. Ystyrir y byddai fframwaith canolog yn rhoi cyfeiriad polisi mwy integredig ar ddefnyddio methodoleg asesu statudol i asesu effeithiau datblygiad arfaethedig sy'n cael ei ystyried mewn cynllun datblygu lleol neu gais cynllunio mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Fodd bynnag, ni ystyrir y byddai diwygio TAN 20 ar ei ben ei hun yn cyflawni uchelgais yr argymhelliad hwn heb fabwysiadu diffiniad o 'ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch' o fewn polisi neu ddeddfwriaeth ehangach Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 3
Argymhelliad 3: Dylai deddfwriaeth neu Polisi Cynllunio Cymru ddatgan fod angen i ddatblygwr ddarparu asesiad annibynnol o effeithiau ei gais cynllunio ar y Gymraeg os yw’r awdurdod cynllunio o’r farn wedi proses sgrinio ei bod yn debygol y bydd y cais yn cael effaith arwyddocaol ar y Gymraeg y tu allan i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
Ymateb i argymhelliad 3: Derbyn mewn egwyddor
Rydym yn cydnabod dymuniad y Comisiwn i’w gwneud yn gliriach bod disgwyl i ddatblygwyr gynnal asesiadau annibynnol o’r effeithiau ar y Gymraeg pan fydd proses sgrinio yn nodi bod potensial y ceir effaith sylweddol ar y Gymraeg y tu allan i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
Rydym yn cydnabod y gallai ceisiadau y tu allan i ardaloedd ieithyddol dwysedd uwch fod â goblygiadau i'r Gymraeg o hyd ac rydym yn cytuno y gall tystiolaeth ddibynadwy helpu awdurdodau cynllunio i ddeall yr effeithiau hynny'n llawn.
Ystyrir ei bod yn bwysig sicrhau bod fframwaith canolog fel a argymhellir yn adroddiad gwreiddiol y Comisiwn (argymhellion 2-8) lle diffinnir ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, yn cael ei ddatblygu yn gyntaf i lywio sut y dylid nodi a diffinio effeithiau ieithyddol, a darparu tystiolaeth ohonynt, ar draws holl feysydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y system gynllunio.
Argymhellion 4 a 5
Argymhelliad 4: Dylai deddfwriaeth neu Polisi Cynllunio Cymru ddatgan fod angen i’r sawl sy’n penderfynu cais cynllunio roi sylw arbennig i bwysigrwydd ffyniant y Gymraeg wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar y Gymraeg y tu allan i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
Argymhelliad 5: Dylid diwygio Nodyn Cyngor Technegol 20 er mwyn cynnig arweiniad manwl ar yr hyn sy’n ofynnol er mwyn rhoi ‘sylw arbennig’ i bwysigrwydd ffyniant y Gymraeg y tu allan i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn Argymhelliad 4.
Yr ymateb i argymhellion 4 a 5: Derbyn mewn egwyddor
Rydym yn cydnabod argymhelliad y Comisiwn y dylai rhai penderfyniadau roi sylw arbennig i bwysigrwydd y Gymraeg wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio sydd ag effeithiau arwyddocaol posibl ar yr iaith y tu allan i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
Dywed Polisi Cynllunio Cymru y dylai awdurdodau cynllunio sicrhau bod buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau a'u bod yn cael eu hasesu yn unol â'r pum ffordd o weithio i sicrhau bod asesiad cytbwys yn cael ei gynnal i weithredu'r Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy. Mae paragraff 3.25 o Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai'r system cynllunio defnydd tir ystyried yr amodau sy'n hanfodol i'r Gymraeg a thrwy hynny sy’n cyfrannu at ei defnyddio ac at y nod llesiant bod y Gymraeg yn Ffynnu ym mhob ardal yng Nghymru, waeth beth fo'i harwyddocâd ieithyddol.
Rydym yn cytuno â'r egwyddor sylfaenol y dylai penderfyniadau cynllunio gael eu llywio gan ddealltwriaeth o'u goblygiadau, gan gynnwys yr effaith y gall datblygiad ei chael ar y Gymraeg.
Fodd bynnag, cyn penderfynu a yw newid polisi a chanllawiau'n gam priodol, ystyrir ei bod yn bwysig sefydlu fframwaith canolog clir ac ystyrlon sy'n diffinio sut mae arwyddocâd ieithyddol yn cael ei asesu a'i ddiffinio ar draws Llywodraeth Cymru. Ystyrir y byddai fframwaith strwythuredig yn cefnogi disgwyliadau cliriach ac yn caniatáu adeiladu unrhyw newidiadau i bolisi yn y dyfodol ar seiliau sefydlog, sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Cyn ystyried diwygiadau manwl i TAN 20, byddai'n hanfodol sefydlu fframwaith canolog cyffredinol yn gyntaf i grisialu'r egwyddorion, y trothwyon a'r prosesau sy'n sail i feysydd o fewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch a'r tu allan iddynt. Heb fframwaith o'r fath, ceir risg wrth ddatblygu canllawiau manwl y bydd awdurdodau'n eu dehongli mewn ffordd anghyson gan ei gwneud yn anodd iddynt gymhwyso disgwyliadau mewn ffordd gymesur a chyson ar draws pob sector. Byddai sefydlu strwythur cydlynol fyddai'n cwmpasu'r system gyfan yn gosod y sylfaen angenrheidiol ar gyfer datblygu'n briodol adolygiad o bolisi a chanllawiau cynllunio yn y dyfodol.
Yng ngoleuni hyn, byddai'n rhaid wrth ystyriaeth ymhellach i ddeall sut y gallai unrhyw ganllawiau ychwanegol o fewn TAN 20 ryngweithio â mecanweithiau polisi presennol, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a'r broses rheoli datblygu ehangach. Felly, rydym yn croesawu cyfraniad y Comisiwn at y drafodaeth hon a byddwn yn parhau i feddwl sut orau i gefnogi dulliau clir ac ymarferol o ymdrin â'r Gymraeg o fewn y system gynllunio, gan sicrhau bod unrhyw gamau yn y dyfodol yn seiliedig ar fframwaith cadarn a chydlynol.
Argymhelliad 6
Argymhelliad 6: Dylid cryfhau Polisi Cynllunio Cymru o safbwynt y Gymraeg drwy gynnwys arweiniad mwy clir a manwl ar y testun ‘Y Gymraeg a Chreu Lleoedd’. Ymhlith y newidiadau a argymhellir gan y Comisiwn, dylid cynnwys ffyniant y Gymraeg fel un o’r Egwyddorion Cynllunio Allweddol ac esbonio sut y dylai’r system gynllunio gwlad a thref weithredu’r egwyddorion cynllunio ieithyddol yn strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.
Ymateb i argymhelliad 6: Gwrthod
Mae Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 yn glir wrth nodi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a phwysleisio ein huchelgais i'r Gymraeg gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ogystal â chynyddu canran y bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd 10% erbyn 2050.
Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi bod yr iaith yn ystyriaeth sydd wedi'i hymgorffori yn strategaeth ofodol pob cynllun datblygu. Os mai'r Gymraeg yw iaith bob dydd y gymuned, caiff gwaith datblygu ei reoli er mwyn sicrhau bod swyddi a chartrefi ar gael fel y gall yr iaith barhau'n ganolog i hunaniaeth y cymunedau hynny. Mewn mannau eraill bydd gwaith datblygu yn rym cadarnhaol i annog creu seilwaith addysgol a chymdeithasol er mwyn i’r iaith allu datblygu fel rhan naturiol, ffyniannus o gymunedau.
Nodir mai dim ond os ydynt yn ymwneud â defnyddio neu ddatblygu tir y mae ystyriaethau Cymraeg yng nghyd-destun cynllunio yn berthnasol. Ystyrir ei bod yn bwysig sicrhau bod fframwaith canolog fel a argymhellir yn adroddiad gwreiddiol y Comisiwn (argymhellion 2-8), yn cael ei ddatblygu yn gyntaf i lywio sut y dylid nodi a diffinio effeithiau ieithyddol, a darparu tystiolaeth ohonynt, ar draws holl feysydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y system gynllunio.
Mae polisi cynllunio Llywodraeth Cymru yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Mae Cymru’r Dyfodol yn cael ei adolygu bob pum mlynedd, a dechreuodd yr adolygiad diweddaraf yn 2026. Lluniwyd Cymru'r Dyfodol drwy raglen helaeth o ymgysylltu, ymgynghori, asesu, casglu tystiolaeth a chraffu. Felly, byddai angen i unrhyw ddiwygiadau posibl a nodir fel rhan o'r broses adolygu ddilyn yr un rhaglen helaeth. Nodir y bydd strategaeth Cymraeg 2050 yn cael ei hystyried fel rhan o unrhyw adolygiad yn y dyfodol.
Mae'r System Gynllunio yn rheoli'r ffordd y caiff tir ei datblygu a'i ddefnyddio er budd y cyhoedd, gan flaenoriaethu budd cyfunol hirdymor a chymodi buddiannau gwahanol. Eir ati yn y ddogfen Polisi Cynllunio Cymru (PPW) i amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gynllunio defnydd tir. Ategir Polisi Cynllunio Cymru gan Nodiadau Cynghori Technegol.
Prif amcan Polisi Cynllunio Cymru yw sicrhau bod y system gynllunio’n cyfrannu at
ddatblygu cynaliadwy ac yn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn unol â gofyn Deddf Gynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth allweddol arall a dyletswyddau canlyniadol fel y Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol. Mae system gynllunio sy’n gweithio’n dda yn hanfodol i ddatblygu cynaliadwy ac i sicrhau lleoedd cynaliadwy.
Nid yw'r awgrym i ddiwygio Polisi Cynllunio Cymru i gynnwys arweiniad cliriach a manylach ar y pwnc 'Y Gymraeg a Gwneud Lleoedd' yn cael ei gefnogi ar ei ben ei hun. Ni ddylid ystyried newid Polisi Cynllunio Cymru tan ar ôl sefydlu methodoleg asesu statudol ganolog y cyfeirir ati yn argymhelliad 1. Ystyrir y byddai fframwaith canolog yn rhoi cyfeiriad polisi mwy integredig ar ddefnyddio methodoleg asesu statudol i i asesu effeithiau datblygiad arfaethedig sy'n cael ei ystyried mewn cynllun datblygu lleol neu gais cynllunio mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. Fodd bynnag, ni ystyrir y byddai diwygio Polisi Cynllunio Cymru ar ei ben ei hun yn cyflawni uchelgais yr argymhelliad hwn heb fabwysiadu diffiniad o 'ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch' o fewn polisi neu ddeddfwriaeth ehangach Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 7
Argymhelliad 7: Dylai’r fframwaith newydd ar gyfer darparu asesiad o effeithiau arwyddocaol cais cynllunio ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch gael ei ddefnyddio ar gyfer pob cais cynllunio sy’n debygol o gael effeithiau arwyddocaol o’r fath. Ni ddylid cyfyngu’r fframwaith newydd i geisiadau cynllunio am ddatblygiadau mawr na ddyrannwyd mewn cynllun datblygu.
Ymateb i argymhelliad 7: Derbyn mewn egwyddor
Rydym yn croesawu argymhelliad y Comisiwn o ran yr egwyddor o ddarparu fframwaith clir i fynd i'r afael ag ystyriaethau ieithyddol o fewn y system gynllunio.
Trwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 daeth y Gymraeg, am y tro cyntaf, yn ystyriaeth mewn deddfwriaeth gynllunio a grëwyd yng Nghymru. Mae TAN 20 yn nodi y dylai asesiad o'r effaith ar y Gymraeg fod yn rhan o brosesau Arfarnu Cynaliadwyedd sy'n ganolog i baratoi cynllun datblygu lleol. Mae hyn yn hanfodol gan fod deddfwriaeth gynllunio yn ei gwneud yn ofynnol penderfynu ar geisiadau cynllunio yn unol â'r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn awgrymu fel arall.
Bydd dyfodol yr iaith ledled Cymru yn dibynnu ar ystod eang o ffactorau y tu hwnt i'r system gynllunio gwlad a thref, yn enwedig addysg, newid demograffig, gweithgareddau cymunedol a sylfaen economaidd gadarn i gynnal cymunedau cynaliadwy ffyniannus. Gall y system gynllunio barhau i gyfrannu at les y Gymraeg yn y dyfodol yn seiliedig ar y fframwaith canolog newydd ar ôl ei sefydlu.
Argymhellion 8 a 9
Argymhelliad 8: Os yw’r awdurdod cynllunio o’r farn wedi proses sgrinio ei bod yn debygol y bydd cais cynllunio yn cael effeithiau arwyddocaol ar y Gymraeg y tu allan i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch, dylai’r datblygwr baratoi asesiad o’r effeithiau hynny. Ni ddylai Polisi Cynllunio Cymru ddatgan fod yr angen am asesiad wedi ei gyfyngu i geisiadau ar gyfer hap-safleoedd.
Argymhelliad 9: Dylid adolygu a diwygio Nodyn Cyngor Technegol 20 yn ei gyfanrwydd er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad mwy penodol ar sut i baratoi asesiadau effaith ar y Gymraeg ar gyfer mathau gwahanol o ddatblygiadau. Dylai’r cyngor hwn hefyd roi arweiniad penodol ar gamau lliniaru a gwella wedi eu teilwra ar gyfer datblygiadau o fathau gwahanol.
Yr ymateb i argymhellion 8 a 9: Derbyn yn rhannol
Mae TAN 20 yn rhoi cyfle i awdurdodau cynllunio lleol nodi ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn arbennig o sensitif neu'n arwyddocaol, ac yn eu tro datblygu polisïau cynllunio i helpu'r iaith yn yr ardaloedd hynny. Mae cynlluniau datblygu lleol yn cael cynnwys polisïau lliniaru i sicrhau bod datblygiad yn cael ei roi ar waith yn briodol ac yn mynd i'r afael â materion Cymraeg penodol, fel arwyddion.
Mae TAN 20 yn rhoi cyngor manwl ar weithredu'r gyfraith gynllunio, gan gynnwys Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, er mwyn i awdurdodau cynllunio allu gwneud penderfyniadau cyfreithlon ar geisiadau cynllunio. Y cyngor yn TAN 20 yw y dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar bolisïau'r cynllun datblygu lleol yn y lle cyntaf - yn unol â’r hyn a sefydlir mewn deddfwriaeth. Mae TAN 20 yn datgan mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw trwy ddefnyddio'r fframwaith polisi, y bydd yr Arfarniad Cynaliadwyedd yn dylanwadu ar ei luniad.
Byddai Asesiadau Effeithiau Iaith yng ngham y cais cynllunio yn dyblygu'r Arfarniad Cynaliadwyedd; felly mae TAN 20 ar hyn o bryd yn cynghori eu defnyddio dim ond mewn amgylchiadau penodol. Dim ond wrth ymdrin â datblygiad mawr ar hapsafle, mewn ardaloedd lle mae'r Awdurdod Cynllunio wedi nodi yn ei gynllun datblygu lleol y bydd yr iaith yn ystyriaeth allweddol, y dylid cynnal asesiadau effaith iaith yng ngham y cais cynllunio. Mewn unrhyw amgylchiadau eraill, dylai polisïau'r cynllun datblygu lleol ddarparu fframwaith llawn ar gyfer y penderfyniad. Caiff y sefyllfa o ran asesu effaith cais cynllunio ar y Gymraeg ei hystyried ymhellach yng ngoleuni cynhyrchu un fethodoleg asesu statudol (gweler argymhelliad 1).
Argymhellion 10 i 13
Argymhelliad 10: Dylai Llywodraeth Cymru adolygu Nodiadau Cyngor Technegol 3, 4, 6, 13, 18, 23 a 24 i sicrhau fod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi ynddynt i’r fframwaith polisi newydd ar gyfer ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
Argymhelliad 11: Dylid adolygu Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 yng ngoleuni dynodiad statudol newydd o ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch er mwyn rhoi ystyriaeth lawnach i ddosbarthiad gofodol siaradwyr y Gymraeg a goblygiadau hynny ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol.
Argymhelliad 12: Dylid ychwanegu cyfeiriad at y Gymraeg a chymunedau Cymraeg ym Mholisi 19 Cymru’r Dyfodol, a chynnwys arweiniad ar gyfer cydbwyllgorau corfforedig wrth iddynt ddarparu cynlluniau datblygu strategol o ran y polisïau a fyddai’n cyfrannu at ffyniant cymunedau Cymraeg.
Argymhelliad 13: Dylai Llywodraeth Cymru adolygu a diwygio cynnwys y Llawlyfr Cynlluniau Datblygu i gynnwys arweiniad llawer mwy manwl a chynhwysfawr ar yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg wrth lunio cynlluniau datblygu. Fel rhan o’r adolygiad hwn, dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau fod y llawlyfr diwygiedig yn rhoi sylw dyladwy i safonau llunio polisi’r Gymraeg ac yn rhoi arweiniad manwl ar sut i gydymffurfio â hwy wrth lunio, adolygu neu addasu polisïau mewn cynlluniau datblygu.
Yr ymateb i argymhellion 10 i 13: Derbyn mewn egwyddor
Rydym yn croesawu argymhelliad y Comisiwn o ran yr egwyddor o ddarparu fframwaith clir i fynd i'r afael ag ystyriaethau ieithyddol o fewn y system gynllunio. Unwaith y bydd polisi (neu ddeddfwriaeth) fframwaith canolog newydd yn ei le, byddai adolygiad o bolisi cynllunio a chanllawiau technegol yn cael ei gynnal i sicrhau bod y polisi yn adlewyrchu darpariaethau'r fframwaith.
Argymhelliad 14
Argymhelliad 14: Dylai Llywodraeth Cymru gydweithio gyda RTPI (Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol), cynllunwyr iaith a phrifysgolion i adolygu’r ddarpariaeth addysg uwch er mwyn sicrhau bod ymarferwyr, graddedigion a myfyrwyr yn meddu ar sgiliau priodol yn y maes cynllunio ieithyddol mewn perthynas â chynllunio defnydd tir.
Ymateb i argymhelliad 14: Derbyn
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn ac mae wedi ymrwymo i gydweithio ag RTPI Cymru, cynllunwyr iaith a phrifysgolion i gryfhau'r ddarpariaeth addysg uwch fel bod ymarferwyr, graddedigion a myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i allu cynllunio iaith yn effeithiol o fewn y system cynllunio defnydd tir.
Casgliad
Bydd dyfodol yr iaith ledled Cymru yn dibynnu ar ystod eang o ffactorau y tu hwnt i'r system gynllunio gwlad a thref, yn enwedig addysg, newid demograffig, gweithgareddau cymunedol a sylfaen economaidd gadarn i gynnal cymunedau cynaliadwy ffyniannus. Mae'r ddau adroddiad gan y Comisiwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymagwedd holistig at les y Gymraeg. Gall y system gynllunio gyfrannu at les y Gymraeg yn y dyfodol, drwy sefydlu'r amodau fydd yn caniatáu i gymunedau cynaliadwy ffynnu.
