Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig o effeithiau tebygol Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 ar bobl, cymunedau, a gwasanaethau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1. Pa Gamau Gweithredu y mae mae Llywodraeth Cymru yn eu hystried a pham?
Mae’r asesiad hwn yn ymwneud â diwygio, mewn perthynas â Chymru, Atodlen 2 i Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 i ychwanegu magnesiwm L-threonad monohydrad at y rhestr o sylweddau a ganiateir i’w defnyddio mewn atchwanegiad bwyd ac i osod ei feini prawf purdeb. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd yng Nghymru.
Prif ddiben y cynnig rheoleiddiol hwn yw ymateb i gais gan fusnes i’r Awdurdod Safonau Bwyd i ddefnyddio magnesiwm L-threonad monohydrad fel bwyd newydd mewn atchwanegiadau bwyd. Fel rhan o’r ystyriaeth o’r cais hwn, cynhaliwyd asesiad diogelwch, argymhelliad rheoli risg ac ymgynghoriad cyhoeddus dilynol. Mae’r sylwedd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru fel bwyd newydd yn unol â Rheoliad (EU) 2015/2283 ar fwydydd newydd yn ddarostyngedig i’r telerau awdurdodi.
Newid bach yw hwn a bydd yn effeithio ar un busnes bwyd (y ceisydd) yn unig am y 5 mlynedd cyntaf ar ôl yr awdurdodiad. Mae hyn oherwydd y byddant yn cadw hawliau neilltuol am gyfnod o bum mlynedd mewn perthynas â chyflenwi a gwerthu’r cynnyrch oni bai bod ceisydd dilynol yn cael awdurdodiad ar gyfer y bwyd newydd heb gyfeirio at y dystiolaeth wyddonol neu’r data perchnogol a ddiogelir fel rhan o’r awdurdodiad hwn. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd yr awdurdodiad yn rhoi’r opsiwn i fusnesau gynhyrchu a gwerthu’r sylwedd yn unol â thelerau awdurdodi’r bwyd newydd. Ni fydd y newid yn rhoi unrhyw faich newydd ar fusnesau, a bydd yn ddewisol i fusnesau roi’r cynnyrch ar y farchnad yn unol â’r gyfraith. Mae’r sylwedd eisoes wedi ei awdurdodi fel bwyd newydd ac fel atchwanegiad bwyd yn yr UE.
Y tymor hir
Ni nodwyd unrhyw effeithiau.
Atal
Ni nodwyd unrhyw effeithiau.
Integreiddio
Gan ystyried natur y cynnig rheoleiddiol, rydym yn rhagweld mai ychydig iawn o effeithiau fydd ar feysydd polisi eraill. Fodd bynnag, bydd y cynnig yn cefnogi busnesau i gynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr o fewn y farchnad atchwanegiadau bwyd yng Nghymru, gan sicrhau hefyd fod yr holl gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu yn ddiogel. Nid ydym wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol posibl mewn perthynas â saith Nod Llesiant Llywodraeth Cymru. Mae’n gefnogol yn fwyaf uniongyrchol i ‘Cymru iachach’.
Cydweithredu
Mae’r cynnig hwn yn dod o dan Fframwaith Labelu, Cyfansoddiad a Safonau Maeth y 4 gwlad ac felly fe’i datblygwyd mewn ymgynghoriad â Llywodraeth y DU, Food Standards Scotland a’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal â’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru.
Cyfranogiad
Gwahoddwyd busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid, awdurdodau iechyd lleol ac awdurdodau iechyd porthladd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid i rannu eu barn ar y cynnig hwn drwy ymgynghoriad yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Roedd yr ymgynghoriad yn agored i bob ymatebydd, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae’n debygol nad yw’r newid rheoleiddiol hwn yn sylweddol berthnasol i’r cyhoedd yn gyffredinol, nac o ddiddordeb mawr iddynt. Nid aed ati i ymgysylltu ymhellach â’r cyhoedd am y rheswm hwn.
Effaith
Fel rhan o’r broses asesu risg, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi asesu’r effeithiau posibl a fyddai’n deillio o awdurdodi’r bwyd newydd hwn. Ni nodwyd unrhyw effeithiau arwyddocaol. Roedd yr effeithiau a ystyriwyd yn cynnwys y rhai a nodwyd yn fwyaf rheolaidd fel effeithiau posibl wrth gyflwyno neu ddiwygio cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid (h.y. buddiannau amgylcheddol, masnach a’r defnyddiwr). Dylai awdurdodi’r cynnyrch hwn arwain at ragor o gystadleuaeth yn y farchnad, gan gefnogi twf ac arloesi yn y sector.
Argymhelliad rheoli risg yr Awdurdod Safonau Bwyd yw bod magnesiwm L-threonad monohydrad yn ddiogel ac, ar y crynodiadau y bwriedir eu defnyddio, nid yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac iechyd pobl.
Costau ac Arbedion
Ni ddisgwylir i’r newid arwain at unrhyw gost ychwanegol sylweddol i Lywodraeth Cymru neu reoleiddwyr gan nad oes disgwyl iddynt orfodi unrhyw gost ychwanegol ar fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru neu yn y DU yn ehangach. Drwy ei gwneud yn bosibl i fagnesiwm L-threonad monohydrad gael ei ddefnyddio, darperir ffurf arall ar fagnesiwm i fusnesau bwyd ei defnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ond bydd ei defnyddio yn ddewisol. Rhagwelir na fydd cynhyrchwyr yn defnyddio magnesiwm L-threonad ond pan fyddant yn canfod bod budd cynnyrch neu bris i’w busnes.
Drwy awdurdodi magnesiwm L-threonad monohydrad, ceir y potensial i annog rhagor o gystadleuaeth yn y farchnad, gan gefnogi twf ac arloesi yn y sector atchwanegiadau bwyd.
Dull gweithredu
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) wedi ei gwblhau ar gyfer y cynnig hwn. Ni nodwyd unrhyw effeithiau arwyddocaol drwy’r asesiad hwn. Bydd y newid yn hwyluso busnes, yn ddewisol ac felly dylai unrhyw effeithiau ariannol fod yn fach iawn. Bydd yr RIA yn cael ei gyhoeddi fel rhan o’r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Rheoliadau.
Adran 8. Casgliadau
Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi eu cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?
Gwahoddwyd busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid, awdurdodau iechyd lleol ac awdurdodau iechyd porthladd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid i rannu eu barn ar y cynnig hwn drwy ymgynghoriad yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Roedd yr ymgynghoriad yn agored i bob ymatebydd, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae’n debygol nad yw’r newid rheoleiddiol hwn yn sylweddol berthnasol i’r cyhoedd yn gyffredinol, nac o ddiddordeb mawr iddynt. Nid aed ati i ymgysylltu ymhellach â’r cyhoedd am y rheswm hwn.
Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn rhai cadarnhaol a negyddol?
O ran effeithiau, rydym wedi nodi dim/niwtral neu ychydig iawn o effeithiau ym mhob maes, gan gynnwys mewn perthynas â’r Gymraeg, economi ac amgylchedd Cymru, pobl a diwylliant.
Ar gyfer y busnes a wnaeth y cais am awdurdodi’r sylwedd i’w ddefnyddio ar y farchnad atchwanegiadau bwyd y bydd yr effaith gadarnhaol fwyaf arwyddocaol. Ar ôl i’r cyfnod o bum mlynedd o hawliau neilltuol y cyfeirir ato yn adran 1 ddirwyn i ben, bydd effaith gadarnhaol ar fusnesau eraill sy’n dymuno defnyddio’r sylwedd mewn atchwanegiad bwyd. Ni fydd y Rheoliadau yn rhoi unrhyw faich newydd ar fusnesau felly effeithiau cadarnhaol yn unig a nodwyd yn y maes hwn. Nid ydym wedi nodi effeithiau negyddol mewn unrhyw faes arall yn ystod ein hasesiadau.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
- yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
- yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Nodau cyffredinol y cynnig yw cefnogi twf busnes a dewis y defnyddiwr o fewn y farchnad atchwanegiadau bwyd, gan sicrhau hefyd fod y sylwedd i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd yn ddiogel. Er mai cyfyngedig yw’r cyfle, gan ystyried natur y cynnig, i sicrhau ei fod yn cyfrannu cymaint â phosibl at gyflawni’r amcanion llesiant a’r saith nod llesiant, rydym o’r farn bod nodau’r cynnig yn cefnogi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru o dan y polisïau hyn. Am y rheswm hwn, nid ydym wedi ystyried ei bod yn angenrheidiol rhoi unrhyw fesurau ar waith i osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol.
Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?
Bydd adolygiad ar ôl gweithredu o’r Offeryn Statudol arfaethedig yn cael ei gynnal yn 2029, 3 blynedd ar ôl gweithredu.
