Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwnes gyfarfod â Phrif Weinidog Llywodraeth y DU yr wythnos ddiwethaf a gwnes bwysleisio’r angen brys i Lywodraeth y DU weithredu o ran datblygiadau polisi a fydd yn cefnogi ein diwydiant dur a’r gweithwyr yma yng Nghymru. 

Fel diwydiant sylfaen, mae dur yn hollbwysig i sectorau ag iddynt bwysigrwydd economaidd fel adeiladu a gweithgynhyrchu. Mae'n hanfodol i brosiectau seilwaith, ar gyfer adeiladau, trafnidiaeth, cyfleustodau a systemau cyfathrebu a hefyd lawer o'n cynhyrchion ar gyfer defnyddwyr.  Mae Cymru’n gartref i gyfran sylweddol o allu dur y DU ac rydym yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i eirioli'n gryf dros y sector a'i ddyfodol. Mae'r broses o drawsnewid Tata Steel yn gwmni sy'n gwneud dur arc trydan eisoes ar waith ac mae ffatri 7 Steel wrthi'n cael ei ddatblygu. Mae'n hanfodol bod gan y sector a'i gadwyni cyflenwi amgylchedd gweithredu cefnogol.

Mae'r heriau y mae sector dur y DU yn eu hwynebu yn amrywiol. Maent yn cynnwys prisiau ynni, gorgapasiti byd-eang a rhwystrau masnach a thariffau. Rydym yn gwybod bod yr ansicrwydd presennol ynghylch mesurau masnach yn achosi cryn bryder i'r gweithlu, ein gweithgynhyrchwyr a'n cadwyni cyflenwi. Clywodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn uniongyrchol gan yr undebau dur yr wythnos ddiwethaf am eu pryderon ynghylch y sector. 

Gallai mesurau masnach yr UE arwain at ganlyniadau difrifol a sylweddol i'r sector dur yng Nghymru ar adeg pan fo'r sector eisoes o dan bwysau masnachu enfawr oherwydd tariffau'r Unol Daleithiau a gorgapasiti byd-eang.  Yr UE yw ein partner masnachu agosaf a chryfaf o ran dur, ac rydym wedi pwysleisio’r angen i Lywodraeth y DU fynd ati ar frys i gyflwyno achos cryf i'r UE o ran gwarchod ein trefniadau presennol, yn enwedig ar adeg pan fo ein sector yn trosglwyddo i sero net. 

Rydym wedi pwysleisio na all Cymru a’r DU wynebu sefyllfa lle mae ein holl brif bartneriaid yn gweithredu atebion i amddiffyn eu sector dur, gan ein gadael ar eu hôl. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a minnau wedi pwysleisio'r pwynt hwn i Lywodraeth y DU ar sawl achlysur.

Rydym hefyd wedi pwysleisio'r angen hanfodol i'r DU gael mesurau dur cadarn i ddisodli mesurau diogelu dur y DU ar ôl Mehefin 2026.  Mae mesurau dur cadarn yn hanfodol i warchod y diwydiant dur yng Nghymru a'r DU, yn enwedig wrth ystyried gorgapasiti byd-eang dur, a thariffau dur cynyddol sy'n cael eu gyrru'n bennaf gan dariffau'r Unol Daleithiau ar y sector. Er gwaethaf yr heriau, mae'r Unol Daleithiau yn parhau i fod yn farchnad bwysig ar gyfer dur Cymru, ac rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ateb gyda'r Unol Daleithiau sy'n cefnogi ein sector dur. Rydym yn deall nad oes gan ddyfarniad diweddar Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau unrhyw effaith ar ddur ac felly mae angen i Lywodraeth y DU gytuno ar gwota di-dariff ar gyfer dur y DU a'i weithredu gyda'r UD fel y cytunwyd o dan y cytundeb ffyniant economaidd rhwng y DU a'r UD, tra'n ystyried anghenion unigryw sector dur Cymru o ran trosglwyddo.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn deall bod y sector eisiau gweld strwythur prisio trydan gwirioneddol gystadleuol, mwy o drosoledd ar gyfer defnyddio dur y DU trwy gaffael cyhoeddus, rhwymedïau masnach cadarn ac amddiffyniad rhag gollyngiadau carbon.

Rydym yn cefnogi'r sector drwy weithio gyda Llywodraeth y DU, cwmnïau dur, undebau llafur. Mae gennym sedd ar Gyngor Dur y DU ac rydym wedi cyfrannu at y gwaith o sefydlu Strategaeth Ddur arfaethedig i’r DU a fydd yn ystyried y gwahanol faterion polisi a’r materion allanol sy’n wynebu’r sector yn ogystal â nodi meysydd ar gyfer buddsoddi. 

Mae Strategaeth Ddur arfaethedig Llywodraeth y DU yn ddogfen bwysig sy'n edrych ar y problemau polisi y mae ein sector dur domestig yn parhau i’w hwynebu ac sydd hefyd yn ystyried y cyfleoedd gorau ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf. Mae'r diwydiant dur wedi nodi sawl blaenoriaeth y maent yn dymuno eu gweld yn y Strategaeth sydd eu hangen i gefnogi gwneud dur  mewn modd cynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogaeth barhaus i ddatgarboneiddio, costau ynni, cyflenwi dur sgrap o safon, caffael dur cyhoeddus ac wrth gwrs faterion sy'n effeithio ar fasnach dur. 

Mae’n bwysig bod y Strategaeth Ddur nid yn unig yn diwallu anghenion heddiw ond hefyd yfory ac mae ymchwil a datblygu yn hanfodol i sicrhau bod ein sector yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn flaengar. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i bwysleisio pwysigrwydd y materion hyn i'r sector. 

Rydym yn deall bod disgwyl i Strategaeth Ddur y DU gael ei chyhoeddi ym mis Mawth. Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod y strategaeth yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth uchel a’i bod yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo’n bosibl. Mae angen eglurder ar y diwydiant ac mae angen tryloywder a hyder ar ein gweithlu dur.