Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun grant arbed ynni wedi buddsoddi dros £5.4 miliwn i helpu clybiau chwaraeon ledled Cymru i wneud gwelliannau sy'n lleihau costau ynni ac yn gwneud eu hadeiladau'n fwy effeithlon.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

O gadw clybiau chwaraeon yn glyd yn y gaeaf i baneli solar sy'n torri biliau trydan, mae mwy a mwy o glybiau wedi gallu gwneud uwchraddiadau craff er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni ac arbed arian diolch i'r cynllun Grantiau Arbed Ynni, sy'n cael ei redeg gan Chwaraeon Cymru ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r chwaraeon y dyfarnwyd cyllid iddynt yn amrywio o fowlio a bocsio, i feicio, sglefrfyrddio a chriced, ac maent yn cwmpasu pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Ers ei lansio yn 2023, mae clybiau wedi gallu gwneud cais am hyd at £25,000 i ariannu ystod o welliannau arbed ynni. Hyd yn hyn, bu 307 o ddyfarniadau sy'n dod i gyfanswm o tua £5.4 miliwn i 280 o wahanol glybiau. Eleni yn unig, dyfarnwyd 120 o wobrau gwerth tua £2.1 miliwn.

Ar gyfartaledd, mae pob clwb yn arbed tua £3,000 ac yn gwrthbwyso 3.3 tunnell o garbon, amcangyfrifir fod hynny yn gwrthbwyso dros 840 tunnell o garbon y flwyddyn, gydag arbediad ynni amcangyfrifedig o tua £840,000 ar gyfer pob clwb gyda'i gilydd.

Mae'r mathau o brosiectau a gefnogwyd yn y gorffennol yn cynnwys y canlynol:

  • Goleuadau LED (ac eithrio goleuadau at ddibenion chwarae)
  • Paneli solar (a storio batris)
  • Ffabrigau inswleiddio/adeiladu (gwaith anstrwythurol ar doeon)
  • Ffynonellau gwresogi/dŵr poeth
  • Cyrchu dŵr cynaliadwy

Ymwelodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant, â Sefydliad Lles Glowyr Llai yn Wrecsam, lle mae Clwb Pêl-droed Lles Glowyr Llai sydd wedi ei sefydlu ers 95 mlynedd yn chwarae.

Maent wedi derbyn £25,000 yn y gorffennol ar gyfer paneli solar a system wresogi newydd. Mae'r Sefydliad yn adeilad rhestredig Gradd 2 ond oherwydd rheoliadau cadwraeth a chynllunio, mae gwneud y lle yn fwy effeithlon o ran ynni wedi bod yn bell o fod yn syml ond mae'r gwaith uwchraddio bellach wedi'i gwblhau ac yn gweithio'n dda.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Chwaraeon:

Mae chwaraeon yn dod â chymunedau at ei gilydd ac mae'n hanfodol y gall ein clybiau barhau i wneud hynny am genedlaethau i ddod. Mae'r cyllid hwn yn helpu sefydliadau ledled Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy, lleihau eu costau rhedeg a chanolbwyntio ar yr hyn maen nhw'n ei wneud orau - denu pobl allan i fod yn egnïol.

Wrth ymweld â Glowyr Llai roedd yn wych gweld sut mae'r grantiau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. O baneli solar i systemau gwresogi modern, mae clybiau yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o leihau eu biliau ynni tra'n gwneud eu rhan dros yr amgylchedd.

Mae'r ffigurau o ran arbedion a gwrthbwyso carbon yn siarad drostynt eu hunain. Byddwn yn annog unrhyw glwb sy'n meddwl am wneud gwelliannau arbed ynni i wneud cais pan fydd y cynllun yn ailagor ym mis Mai.

Dywedodd Kerri Crewe, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Sefydliad Lles Glowyr Llai:

Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y grant hwn, sydd wedi ein galluogi i osod paneli solar ar y prif sefydliad a gosod system wresogi newydd yn y pafiliwn. Mae'r ddau adeilad yn asedau cymunedol hanfodol, ond fel cyfleusterau mawr maent yn ddrud i'w rhedeg. Roedd ein boeler blaenorol yn y pafiliwn yn annibynadwy ac yn torri i lawr yn aml, gan greu costau annisgwyl ac aflonyddwch. 

Mae'r cyllid hwn wedi gwneud gwahaniaeth trawsnewidiol - mae wedi lleihau ein biliau ynni, gwella dibynadwyedd, a helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'r ddau adeilad.

Enghraifft arall o glwb i elwa o'r cynllun grant yw Clwb Criced Gorseinon yn Abertawe. Maent wedi cael eu cefnogi i gynaeafu dŵr glaw i leihau eu gorbenion, tra'n storio dŵr. Mae hefyd yn golygu yn hytrach na defnyddio dŵr tap i ddyfrhau eu caeau, sy'n aml yn cynnwys fflworid a chlorin, y gallant nawr anelu at fod yn rhydd o gemegau ac yn fwy cyfrifol yn amgylcheddol.

Meddai Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru:

Rydym yn falch o helpu clybiau i ddiogelu eu dyfodol wrth i filiau ynni barhau i godi. Mae hynny'n caniatáu iddynt barhau i fod yn ganolog i fywydau pobl, gan arwain at fwynhad gydol oes o chwaraeon.

Bydd y grantiau a roddir i glybiau yng Nghymru i wella eu mesurau cynaliadwyedd hefyd yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd. 

Mae clybiau ledled Cymru yn elwa o Grantiau Arbed Ynni, drwy leihau costau ynni a lleihau allyriadau carbon, fel bod yr arbedion yn cael eu hail-fuddsoddi mewn chwaraeon lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae ceisiadau yn ailagor ar gyfer Grantiau Arbed Ynni ddiwedd mis Mai a gellir gwneud cais amdanynt ar wefan Chwaraeon Cymru.