Bydd gwasanaeth triniaeth arbenigol a llinell gymorth newydd y GIG ar gyfer ymdrin â niwed gamblo yn cael eu lansio yng Nghymru o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Disgrifiwyd hyn gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, fel ‘carreg filltir’, a byddant yn darparu cymorth i ddegau o filoedd o bobl a allai fod yn wynebu risg o niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
Bydd Llinell Gymorth Gamblo Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r rhai yr effeithir arnynt gan niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, gan gynnwys aelodau o’u teuluoedd ac eraill. Os oes angen, bydd y llinell gymorth hefyd yn atgyfeirio pobl at wasanaethau triniaeth.
Bydd triniaeth ar gyfer niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ar gael drwy blatfform ar-lein diogel, gan sicrhau bod cymorth yn gallu cael ei ddarparu o bell.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael cyllid gwerth £1.3 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru i ddarparu’r gwasanaeth triniaeth a’r llinell gymorth. Daw’r cyllid o’r arian sydd wedi’i godi o ardoll gamblo y DU gyfan.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy
Mae hon yn garreg filltir sy’n nodi’r tro cyntaf i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ddarparu gwasanaethau triniaeth a gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer niwed gamblo.
Bydd y llinell gymorth yn gymorth mynediad agored a fydd ar gael i bobl sydd ei angen fwyaf ac mae’n cyd-fynd ag uchelgeisiau ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.
Wedi’i arwain gan y dystiolaeth, rydyn ni’n hyderus mai’r dull gweithredu hwn yw’r ffordd fwyaf effeithiol o roi cymorth hanfodol o safbwynt atal a thriniaeth.
Dywedodd arweinydd clinigol gwasanaethau triniaeth ar gyfer niwed gamblo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Faye Graver:
Rydyn ni’n sefydlu gwasanaeth triniaeth arbenigol ar gyfer ymdrin â niwed gamblo a Llinell Gymorth Gamblo Cymru i roi cymorth mawr ei angen i bobl sy’n wynebu trafferthion o ran bod yn gaeth i gamblo.
Byddan nhw’n rhoi’r cymorth, y cyngor a’r wybodaeth angenrheidiol, nid yn unig i bobl sy’n wynebu niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, ond hefyd i aelodau o’u teuluoedd ac eraill y mae gamblo yn effeithio arnyn nhw.
Mae ymchwil yn dangos bod degau o filoedd o bobl yng Nghymru angen cymorth ar gyfer niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Bydd y gwasanaeth triniaeth hwn yn rhoi’r cymorth o’r cam atgyfeirio a brysbennu hyd at ôl-ofal.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes yn gweithredu sawl llinell gymorth genedlaethol, er enghraifft, llinell gymorth cyffuriau ac alcohol DAN 24/7 a llinell gymorth iechyd meddwl CALL. Mae’r rhain yn darparu seilwaith sydd wedi’i sefydlu yn Gymraeg a Saesneg er mwyn cynnal a chyflawni’r gwasanaethau newydd hyn.
Daeth ardoll y diwydiant gamblo i rym ym mis Ebrill 2025. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, mae oddeutu £120 miliwn wedi’i godi ar gyfer cynnal ymchwil, gweithgarwch atal a thriniaethau ym Mhrydain Fawr a hynny i geisio gostwng niweidiau sy’n gysylltiedig â gamblo.
Mae’r ardoll yn sicrhau bod mynd i’r afael â niwed gamblo yn cael ei ariannu’n gynaliadwy ac yn annibynnol ar y diwydiant gamblo.
Er mwyn hybu’r gwaith o weithredu’r ardoll yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y cydgysylltydd arweiniol ar gyfer gweithgarwch atal a Perfformiad a Gwella GIG Cymru fel y cydgysylltydd arweiniol ar gyfer triniaethau.
Ym mis Ebrill, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio cynllun grant a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag atal gamblo.
Yn rhan o’i waith i ehangu’r llwybr triniaeth ar gyfer niwed gamblo, bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd i archwilio cyfleoedd i’r sector menter gymdeithasol gymunedol wirfoddol fod yn rhan ohono.
