Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Bedair blynedd yn ôl i heddiw cychwynnodd yr Arlywydd Putin y rhyfel yn erbyn Wcráin. Dyma gyfle felly i ailddatgan bod Cymru yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd â phobl Wcráin, i anrhydeddu eu gwydnwch yn wyneb ymosodiadau creulon, ac i gydnabod y tosturi eithriadol a ddangoswyd gan gymunedau ledled Cymru.
Mae Cymru wedi croesawu tua 8,000 o bobl sydd wedi'u dadleoli gan y rhyfel drwy Gynllun Teuluoedd o Wcráin Teuluoedd Wcráin a Chynllun Noddi Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys bron 3,400 a gyrhaeddodd yma'n ddiogel ar lwybr Uwch Noddwyr Llywodraeth Cymru. Rwyf am fynegi fy niolch diffuant i'r miloedd o letywyr, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol sydd wedi dangos haelioni er mwyn gwneud diogelwch, sefydlogrwydd a pherthyn yn realiti. Mae eu hymrwymiad yn adlewyrchu'r gorau o Gymru ac yn rhoi gwir ystyr i'n gweledigaeth o greu Cymru sy'n Genedl Noddfa.
Mae Wcreiniaid yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr ledled Cymru, yn ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein hysgolion a'n cymunedau. Mae plant a phobl ifanc o Wcráin yn setlo'n dda i fywyd yn yr ysgol, gan ddatblygu eu hyder yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan rannu eu hieithoedd, eu diwylliant a'u traddodiadau eu hunain ar yr un pryd. Mae Wcreiniaid yn dod ag arbenigedd i'n gweithlu, yn gwirfoddoli'n lleol, ac yn sefydlu busnesau llwyddiannus sy'n cryfhau'r economïau lleol. Mae eu gwydnwch, eu gobaith a'u penderfyniad yn amlwg ac mae Cymru yn wlad gryfach oherwydd bod llawer ohonynt, bellach, yn galw ein gwlad yn gartref iddynt.
Mae busnesau Cymru wedi chwarae rhan bwysig, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u arloesedd i gyfrannu at wydnwch Wcráin ac ymdrechion dyngarol ehangach. O weithgynhyrchu arbenigol i dechnolegau uwch a ddatblygwyd yma yng Nghymru, mae cwmnïau ledled ein cenedl yn parhau i ddarparu cymorth uniongyrchol a thrwy’r gadwyn gyflenwi sy'n cryfhau gallu Wcráin i wrthsefyll yr ymosodiadau parhaus y mae'n eu hwynebu.Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sefydliadau cymunedol a gwirfoddolwyr di-ri i sicrhau bod pobl sy'n cyrraedd o Wcráin yn ddiogel, yn cael cefnogaeth ac yn gallu ailadeiladu eu bywydau gydag urddas. Mae'r gyd-ymdrech hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gynnig croeso cynnes Cymreig i'r rhai sy'n chwilio am noddfa. Er mai ychydig iawn o Wcreiniaid sy'n cyrraedd Cymru erbyn hyn, mae ein hymrwymiad yn parhau i fod yn glir: dylid croesawu a chefnogi pawb sy'n chwilio am noddfa, o ble bynnag y maen nhw'n dod, a hynny o'r diwrnod cyntaf y maent yn cyrraedd yma.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor i'r rhai sy'n dewis ymgartrefu yng Nghymru. Y llynedd, buddsoddwyd £53,000 i sefydlu Gwasanaeth Cyngor Mewnfudo i Bobl Wcráin trwy ein partneriaid, gan sicrhau bod rhai o'n Wcreiniaid mwyaf bregus yn gallu cael mynediad at gyngor cyfreithiol o ansawdd uchel wrth i'w fisas presennol ddod i ben. Rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ymestyn y cyfnod ymgeisio ar gyfer Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin o 28 diwrnod i 90 diwrnod, gan roi mwy o sicrwydd a hyblygrwydd i Wcreiniaid wrth adnewyddu eu caniatâd i aros.
Wrth i ni nodi'r garreg filltir drist hon, rydyn ni, yma yng Nghymru, yn benderfynol o ddangos undod â phobl Wcráin a phawb sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel hwn. Byddwn yn parhau i wneud hynny tra bo angen.
