Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

I gydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, dyma roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith gynhwysfawr yr ydym wedi ei rhoi ar waith i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru. Yr wythnos hon, rwy'n galw ar y byrddau iechyd i wella mynediad at driniaeth amserol ac i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, gan ein bod yn gwybod bod cael cymorth a chefnogaeth yn gynharach yn gallu cael effaith gadarnhaol ar bobl sy'n byw gydag anhwylder bwyta. 


Ym mis Ebrill, lansiais ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol, sy'n nodi ein hymrwymiad trawslywodraethol i wella iechyd meddwl a llesiant meddyliol yng Nghymru. Yn bwysig, mae'r strategaeth wedi'i hadeiladu ar fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl, gyda ffocws ar atal ac ar ymyrraeth gynharach. Mae'r dull hwn yn hanfodol, yn enwedig yng nghyd-destun anhwylderau bwyta, sy'n cynnwys ffactorau amrywiol - rhai biolegol, seicolegol a chymdeithasol. Mae dull trawslywodraethol yn allweddol i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â materion sylfaenol a all arwain at anhwylder bwyta. Felly, mae'n briodol mai thema Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta eleni yw Cymuned.

Mae ein canllawiau statudol i ysgolion ar y dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol yn cydnabod bod angen i uwch-dimau arwain mewn ysgolion gefnogi iechyd a llesiant eu holl ddysgwyr drwy amgylcheddau llesiant cadarnhaol, perthynas dda rhwng dysgwyr a staff, ac ymyriadau cyffredinol a rhai wedi'u targedu. Mae hefyd yn cydnabod bod rhai patrymau ymddygiad yn golygu y bydd angen i'r plentyn neu'r person ifanc gael cymorth mwy penodol a dwys, gan gynnwys y plant a'r bobl ifanc hynny sy'n profi anhwylderau bwyta a hunanymdeimlad corfforol gwael.  Mae gwybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, ym mis Chwefror 2026, bod 96% o ysgolion, gan gynnwys pob ysgol uwchradd, bellach yn cynllunio'n weithredol i ddiwallu eu hanghenion llesiant.

Ochr yn ochr â'r gwaith i fynd i'r afael â'r ffactorau ehangach sy'n effeithio ar iechyd meddwl, rydym wedi bwrw ymlaen â dull parhaus i gefnogi pobl i gael mynediad at gymorth pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Fe wnaethom lansio ein hymgyrch Ceisio Cymorth Nawr sy'n tynnu sylw at y ffaith fod anhwylderau bwyta yn effeithio ar fwy na 1.25 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig, ond mai dim ond tua thraean sy'n ceisio cymorth yn ffurfiol. Nod yr ymgyrch Ceisio Cymorth Nawr yw annog pobl i chwilio am gymorth a chefnogaeth yn gynnar ar gyfer anhwylderau bwyta, yn ogystal â darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael a sut i gael gafael arno. Mae'r wybodaeth hon ar gael am ddim yn rhan o becyn cymorth ymgyrchu i'w ddefnyddio mewn gofal iechyd, addysg a'r trydydd sector, gan godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwneud i bobl deimlo'n fwy cyfforddus wrth siarad am eu hanhwylder bwyta.

Fe wnaethom ddatblygu a lansio cwrs e-ddysgu Lefel Sylfaen newydd sydd â'r nod o sicrhau bod gan holl staff gofal iechyd y sgiliau i adnabod ac ymateb i anhwylderau bwyta yn effeithiol ac yn sensitif. Mae'r e-ddysgu, a gyhoeddwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth gan staff ers iddo gael ei gyhoeddi y llynedd. 

Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn ystod o gymorth haen 0/1 i ddarparu mynediad cynnar at gymorth a chyngor. Dyma'r gwasanaethau cyffredinol a all gael effaith enfawr drwy atal mwy o angen. Bydd y rhain yn chwarae rhan bwysig o fewn y model mynediad agored a gyhoeddais ochr yn ochr â'r strategaeth newydd. Yr egwyddor o fynediad agored yw bod pobl yn cael mynediad at y gofal y mae arnynt ei angen, pan fydd arnynt ei angen. Mae'n cydnabod nad oes un dull sy'n gweithio i bawb, a bod rhaid cael ystod amrywiol o opsiynau gofal hygyrch. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad parhaus yn llinell gymorth BEAT Cymru a gwasanaethau y gwnaethom ddarparu dros £110,000 iddynt eto yn 2025 i ehangu'r cymorth sydd ar gael yng Nghymru. Mae hyn nid yn unig yn helpu i ddarparu mynediad a chyngor cynnar, ond hefyd yn cefnogi llawer o bobl sy'n aros i gael eu gweld gan glinigwyr. 

Mae'r holl fyrddau iechyd wedi ehangu eu gwasanaethau anhwylderau bwyta, ac rydym wedi buddsoddi mwy na £2m yn Perfformiad a Gwella'r GIG i sefydlu rhaglen strategol ar gyfer iechyd meddwl i wella mynediad, ansawdd a chanlyniadau ein gwasanaethau iechyd meddwl.

Yn 2025 cynhaliodd Perfformiad a Gwella'r GIG a'r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl ymarfer i fapio gwasanaethau anhwylderau bwyta oedolion ledled Cymru. Cynigiodd yr ymarfer hwn nifer o argymhellion sy'n cael eu datblygu gan y Rhaglen Strategol a'r Gymuned Ymarfer i ddatblygu a gwella gwasanaethau ym mhob bwrdd iechyd. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae'r rhaglen strategol yn gweithio gyda byrddau iechyd i gytuno ar fanyleb gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau anhwylder bwyta ymyrraeth gynnar. Bydd hyn yn cynnwys safonau craidd yn seiliedig ar fodel Ymyrraeth Gynnar Gyflym ar gyfer Anhwylderau Bwyta (FREED) ond bydd hefyd yn galluogi'r byrddau iechyd i addasu'r model i ddiwallu anghenion lleol, a fydd yn lleihau amrywiadau rhwng byrddau iechyd. 

Er bod y mwyafrif o bobl ag anhwylder bwyta yn cael eu trin yn y gymuned, rydym yn cydnabod mewn bod angen gofal fel claf mewnol mewn rhai achosion. Ym mis Chwefror 2024 fe wnaethom gyhoeddi ein bod wedi sicrhau wyth gwely anhwylderau bwyta i oedolion yng Nghymru i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad at gymorth arbenigol yn agosach at adref. Er mwyn sicrhau bod gennym fodel gofal yn y dyfodol i ddiwallu anghenion, mae Cyd-bwyllgor Comisiynu'r GIG yn gweithio gyda BEAT a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ar ddichonoldeb darparu gwasanaethau triniaeth ddydd dwys. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda BEAT ar arolwg o brofiadau mewn gwasanaethau cymunedol a dydd dwys, a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'r ymarfer modelu. Mae'r ymarfer modelu hwn yn cael ei gynnal i asesu capasiti a galw ledled Cymru, gan ystyried hefyd fodelau gwasanaeth mwy newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg. Rwy'n disgwyl canlyniad y gwaith hwn yn y gwanwyn.

O fewn y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl, rydym hefyd wedi datblygu Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth. Nod hyn yw sicrhau bod atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu hymgorffori wrth ddarparu gwasanaethau, a bod canlyniadau'n gwella. Rydym am sicrhau bod gennym ddiwylliant a system ddysgu sydd wedi'u cydgynhyrchu a'u cydberchnogi gan yr holl randdeiliaid allweddol. Byddant hwythau wedyn yn gallu manteisio arnynt wrth ddefnyddio gwybodaeth newydd i gyflawni canlyniadau gwell yn ein gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys gwasanaethau anhwylderau bwyta. 

Er mwyn adeiladu ar y gwaith hwn, rwyf wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd i ofyn iddynt barhau â'r momentwm hwn drwy arweinyddiaeth ar lefel Weithredol, i gefnogi datblygiad gwasanaethau anhwylder bwyta; i leihau amseroedd aros; ac ymrwymo i weithredu'r fanyleb gwasanaeth ymyrraeth gynnar pan fydd ar gael. Mae'r holl fyrddau iechyd wedi cadarnhau eu hymrwymiad i'r rhaglen waith hon, gan nodi'r flaenoriaeth sy'n cael ei roi i wasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.