Mae Cymru wedi cymryd cam enfawr arall ymlaen o ran mynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd ar ôl i'r Senedd basio deddfwriaeth amgylcheddol nodedig.
Mae Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer diogelu'r amgylchedd, gan greu corff gwarchod annibynnol a grymuso Gweinidogion Cymru i osod targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rwymol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
Mae hon yn foment bwysig i natur yng Nghymru. Drwy basio'r Bil hwn, rydym wedi anfon neges glir bod diogelu ein hamgylchedd naturiol yn flaenoriaeth genedlaethol.
Fel y mae'r gaeaf hwn wedi dangos, mae newid hinsawdd yn achosi mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol – gan roi pwysau ar ein hamgylchedd a bioamrywiaeth.
Gydag un o bob pum rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu a chymunedau ledled Cymru eisoes yn teimlo effeithiau llifogydd, tywydd poeth a thanau gwyllt amlach, mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi'r dulliau sydd eu hangen arnom i weithredu'n bendant.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn creu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru, corff annibynnol sy'n gyfrifol am ddwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif ar gyfraith amgylcheddol.
Mae hyn yn cynnwys craffu ar Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol.
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn galluogi ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion osod targedau uchelgeisiol, sy'n gyfreithiol rwymol i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth trwy gynyddu rhywogaethau brodorol, cryfhau gwydnwch ecosystemau a mynd i'r afael â'r prif ffactorau sy’n arwain at golli bioamrywiaeth.
