Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r Adolygiad o Wariant a Datganiad yr Hydref, sy’n amlinellu’r cynlluniau ar gyfer gwariant cyhoeddus dros y pedair blynedd nesaf. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn cyflwyno ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i newid cwrs a defnyddio’r Adolygiad o Wariant fel cyfle i fuddsoddi mewn pobl, cymunedau a’r economi. Rydym yn anfodlon, felly, na fydd yr Adolygiad o Wariant yn gwneud llawer i wella cyfleoedd bywyd a bywoliaeth pobl yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae’r Canghellor wedi gwneud toriadau llym i gyllidebau. Er hynny, nid oes yna lawer o arwyddion o gynlluniau ar gyfer sicrhau y bydd y sector cyhoeddus yn gallu diwallu anghenion a disgwyliadau pobl yn wyneb y toriadau eithafol i’w hadnoddau. Mae toriadau’r Canghellor i gyllidebau iechyd y cyhoedd yn Lloegr yn wrth-gynhyrchiol, ac yn groes i’n hegwyddor ni o fuddsoddi er mwyn atal problemau.

Mae polisïau Llywodraeth y DU wedi cael effaith negyddol anghymesur ar y bobl a’r cymunedau mwyaf agored i niwed. Yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant blaenorol, ac yn sgil y gostyngiad o 8 y cant mewn termau real yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ers 2010, bu llai o gapasiti gennym i fuddsoddi yn yr economi ac mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac i gefnogi cymunedau difreintiedig.

Bydd cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru yn codi o £12,916 miliwn yn 2015-16 i £13,285 miliwn yn 2019-20 a bydd ein cyllideb gyfalaf yn codi o £1,461 miliwn yn 2015-16 i £1,648 miliwn yn 2019-20 yn sgil yr Adolygiad o Wariant. Mae hyn yn ostyngiad cyffredinol o 3.6% mewn termau real rhwng 2015-16 a 2019-20, sy’n cynnwys toriad o 4.5% mewn termau real o ran refeniw a chynnydd o 4.7% mewn termau real o ran cyfalaf. Nid oes gennym ddarlun cyflawn ar hyn o bryd o’r hyn sy’n cael ei dorri i ddarparu cyllid ychwanegol. Fodd bynnag, mae’n glir bod yr hwb i gyllid y GIG yn Lloegr yn cael ei ariannu’n rhannol gan rannau eraill o’r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ein barn ni, mae hyn yn dangos culni meddwl ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â’r pwysau sydd wedi bod ar y gwasanaethau iechyd ers amser bellach.

Roedd rhywfaint o newyddion da yn yr Adolygiad o Wariant. Rydym wedi cyflwyno’r ddadl ers tro am ragor o fuddsoddiad yn ein seilwaith, sy’n golygu cynyddu’r cyllidebau Cyfalaf, ac rwy’n falch bod hyn wedi ennyn cefnogaeth Llywodraeth y DU. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y byddwn yn buddsoddi’n effeithiol yn ein seilwaith cenedlaethol ledled Cymru trwy ein dull buddsoddi cyfalaf arloesol a’r cysylltiadau agosach rydym yn eu datblygu â Banc Buddsoddi Ewrop.

Rydym yn croesawu cadarnhad y bydd y llawr ariannu yn sicrhau na fydd gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol yn syrthio islaw 115 y cant o’r gwariant cyfatebol yn Lloegr. Fodd bynnag, mae’n dal yn aneglur sut y bydd hyn yn cael ei ddangos yn ymarferol, ac mae lle i’w ddehongli mewn gwahanol ffyrdd, a allai olygu y byddai Cymru ar ei cholled yn y dyfodol. Mae’n hanfodol cael cytundeb rhynglywodraethol ar y ffordd ymlaen mewn perthynas â’r mater hwn.

Mae’r newyddion y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud ymrwymiad cyfatebol i’n hymrwymiad ni i helpu i ariannu Bargen Ddinesig ar gyfer dinas-ranbarth Caerdydd yn cael ei groesawu hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol yn y De-ddwyrain i ddatblygu cynnig buddsoddi grymus. Edrychwn ymlaen at gael manylion yr hyn y bydd ymrwymiad Llywodraeth y DU yn ei olygu yn ymarferol.

Rydym hefyd yn falch iawn o’r sicrwydd rydym wedi’i gael gan Lywodraeth y DU y bydd buddsoddi yn rheilffordd HS2 yn arwain at ddarparu adnoddau ychwanegol yn y dyfodol ar gyfer y Gweinyddiaethau Datganoledig. Mae hyn yn fater y mae’r Gweinidogion Cyllid ym mhob un o’r Gweinyddiaethau Datganoledig wedi’i godi â Gweinidogion olynol y Trysorlys. Rwyf yn falch bod ein hachos wedi’i gydnabod.

Fodd bynnag, mewn ymgais i gyrraedd ei dargedau lleihau gwariant, mae’r Canghellor yn parhau gyda gostyngiadau enfawr mewn gwariant ar les cymdeithasol. Rydym yn parhau i wrthwynebu ymagwedd Llywodraeth y DU at ddiwygio lles. Mae ymchwil yn dangos y bydd newidiadau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU yn cymryd llawer mwy oddi wrth bobl ar incwm is na phobl o gartrefi mwy llewyrchus, ac mai teuluoedd â phlant fydd yn cael eu taro galetaf. Bydd y newidiadau arfaethedig i drethi a budd-daliadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yng Nghyllideb mis Gorffennaf a chyn hynny, ac a fydd yn cael eu cyflwyno rhwng 2015–16 a 2019–20, yn gostwng incwm aelwydydd Cymru o gyfanswm o tua £600 miliwn y flwyddyn. Bydd aelwydydd incwm is, yn arbennig y rhai â phlant, yn colli tipyn mwy ar gyfartaledd.

O ganlyniad bydd yn rhaid gwneud nifer o benderfyniadau anodd yn y Gyllideb Ddrafft y byddaf i’n ei gosod y mis nesaf. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith y cyni ar bobl Cymru a gweithlu’r sector cyhoeddus. Fodd bynnag, yn sgil cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer lefelau hanesyddol o isel o fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus, erbyn 2020 bydd darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus wedi newid yn sylweddol ers dechrau’r ddegawd.  

Mae’r diffyg symud ar ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr (APD) ac absenoldeb unrhyw ddiweddariad yn Natganiad y Canghellor ynghylch trydaneiddio rheilffyrdd yng Ngogledd a De Cymru, ac Ynni Llanw Bae Abertawe hefyd yn achosi pryder.

Mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r Adolygiad Gwariant hwn mor hwyr wedi arwain at heriau ymarferol i ni wrth ddatblygu’n cynlluniau cyllidebol ein hunain. Ar sail y setliad ariannol heddiw bydd  Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2016-17 yn cael ei chyhoeddi ar 8 Rhagfyr. Byddwn yn gosod ein cynlluniau ar gyfer y gyllideb yng nghyd-destun y nodau llesiant cenedlaethol y cytunwyd arnynt drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y nodau cenedlaethol, ynghyd â’r egwyddorion o atal, cyfranogi, integreiddio, cydweithio a chanolbwyntio ar y tymor hir wrth galon y ffordd y bydd Cymru’n ymateb i’r heriau a gyflwynwyd gan yr Adolygiad o Wariant heddiw.