Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal rhaglen ymchwil i lywio’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio’r dreth gyngor er mwyn sicrhau system decach a mwy graddoledig.

Mae ymchwil flaenorol wedi nodi nad yw lefelau ymwybyddiaeth o drethi lleol nac agweddau tuag atynt yn glir ac mai anaml y cânt eu mesur. Am y rheswm hwn, mae’r ymchwil hon wedi cynnwys ystyried dealltwriaeth y cyhoedd o system y dreth gyngor yng Nghymru ac a ydynt yn ei derbyn.

Diben yr ymchwil hon yw ystyried canfyddiadau’r cyhoedd o degwch y dreth gyngor. Mae hyn yn cynnwys y ffordd y mae’r dreth yn cael ei llunio a’i gweinyddu yn ogystal â’r ffordd y caiff refeniw ei ddefnyddio a’i fuddsoddi mewn cymunedau. Mae hefyd yn ystyried y gydberthynas rhwng y lefel o wybodaeth a dealltwriaeth o’r dreth gyngor a chanfyddiadau o ran ei thegwch ac yn casglu safbwyntiau ynghylch a ddylid diwygio’r dreth yn y dyfodol. Mae set ychwanegol o gwestiynau a gynhwyswyd ers arolwg 2023 yn ystyried sut mae gwybodaeth am y dreth gyngor yn cael ei chyrchu.

Methodoleg

Mae Arolwg Omnibws Cymru yn cynnwys cyfweliadau â sampl gwota sy’n cynnwys o leiaf 1,000 o oedolion 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru. A bod yn fanwl gywir, ni ellir pennu arwyddocâd ystadegol gwirioneddol ar gyfer samplu cwota; mae gwahaniaethau ‘arwyddocaol’ yn cyfeirio at wahaniaeth arwyddocaol ffug-ystadegol ar y lefel hyder o 95%.

Gwnaed gwaith maes ar gyfer cam mis Mawrth 2025 rhwng 3 Mawrth a 23 Mawrth 2025, a chynhaliwyd cam mis Medi 2025 rhwng 22 Medi a 12 Hydref 2025. Cwblhawyd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau ym mhob cam.

Canfyddiadau: Mawrth 2025

Cyfrifoldeb am dalu’r dreth gyngor

Nododd y mwyafrif o’r ymatebwyr (92%) eu bod nhw neu rywun yn eu cartref yn talu’r dreth gyngor. Band D oedd y band a nodwyd amlaf.

Ymhlith y rhai a oedd yn talu’r dreth gyngor, roedd gan 48% gyfrifoldeb llwyr, roedd gan 45% gyd-gyfrifoldeb, ac nid oedd 8% yn gyfrifol am fod rhywun arall ar yr aelwyd yn talu. Roedd y rhan fwyaf o aelwydydd yn talu eu treth gyngor mewn rhandaliadau misol, gyda 53% yn talu dros 10 mis a 32% yn talu dros 12 mis. Yr ystod gwerthoedd fwyaf cyffredin ar gyfer taliadau misol oedd rhwng £151 a £200. Roedd traean o’r ymatebwyr (33%) yn cael un disgownt, eithriad neu ostyngiad neu fwy. Y disgownt person sengl oedd yr un mwyaf cyffredin.

Ymhlith y rhai nad oeddent yn talu’r dreth gyngor, y prif reswm dros beidio â thalu oedd eu bod ar incwm isel ac yn cael gostyngiad llawn yn y Dreth Gyngor (71%).

Gwybodaeth am system bresennol y dreth gyngor ac agweddau tuag ati

Roedd yr ymatebwyr wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y rhai a oedd yn teimlo eu bod yn gwybod eithaf tipyn am y dreth gyngor (43%) a’r rhai a oedd ond yn gwybod ychydig iawn (42%). Dim ond 9% a ddywedodd eu bod yn gwybod llawer iawn, ond roedd hyn dipyn yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol (o gymharu â 6% yn 2024, 5% yn 2023 a 5% yn 2022). 

Pan ofynnwyd i ymatebwyr enwi gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, y gwasanaethau a nodwyd amlaf oedd casglu sbwriel (46%), plismona (38%) a ffyrdd neu gynnal a chadw ffyrdd (28%). 

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (83%) yn cytuno bod talu’r dreth gyngor yn broses syml, roedd (65%) yn ymwybodol o’r cymorth a all fod ar gael, byddai (71%) yn gwybod â phwy y dylid cysylltu pe bai ganddynt broblem gyda’r dreth gyngor ac nid oedd (64%) yn meddwl bod eu treth gyngor yn anodd i’w deall. Fodd bynnag, roedd 60% yn anghytuno bod system y dreth gyngor yn deg, nid oedd 63% wedi gweld budd o refeniw’r dreth gyngor yn cael ei fuddsoddi yn eu cymuned leol, ac roedd 56% yn teimlo nad oedd yn glir sut mae’r dreth gyngor yn cael ei gwario. 

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (62%) yn teimlo bod swm y dreth gyngor roedd disgwyl iddynt ei dalu yn ‘rhy uchel’, a dim ond 27% a ddywedodd ei fod ‘yn agos at ei le’. Ar ôl cael gwybodaeth am y gwasanaethau a ariennir drwy’r dreth gyngor, gostyngodd y gyfran a ddywedodd fod eu bil yn ‘rhy uchel’ i 53%, a chynyddodd y rhai a ddywedodd ei fod ‘yn agos at ei le’ i 32%.

Agweddau tuag at newid

Pan holwyd am newidiadau posibl i system y dreth gyngor, roedd 42% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid disodli’r dreth gyngor â system drethiant leol wahanol, roedd 18% yn anghytuno, ac roedd 40% yn ansicr. Gwelwyd cynnydd sylweddol yng nghanran yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno y dylid disodli’r dreth gyngor â system drethiant leol wahanol rhwng mis Mawrth 2024 (14%) a mis Mawrth 2025 (18%). 

Pan ofynnwyd i ymatebwyr roi mesurau amgen ar gyfer trethi lleol yn eu trefn, y canfyddiad oedd mai system seiliedig ar incwm oedd y mesur tecaf (41%). Nodwyd mai system lle mae pawb yn talu’r un swm oedd y mesur lleiaf teg (53%). 

Nododd ymatebwyr hefyd mai’r nod pwysicaf ar gyfer unrhyw system drethiant leol newydd yw bod trethi lleol yn glir ac yn syml i’w deall (nododd 30% fod hynny’n ‘gwbl hanfodol’), ond nid oedd fawr ddim amrywiad yn y cyfartaledd cymedrig rhwng y chwe nod a gyflwynwyd.

Cael gwybodaeth am y dreth gyngor

Y dull mwyaf cyffredin o gael gwybodaeth am y dreth gyngor oedd drwy wefan y cyngor lleol (43%), ond roedd 20% yn defnyddio gwefan Llywodraeth Cymru. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (80%) a oedd yn defnyddio gwefan eu cyngor lleol yn teimlo ei bod yn hawdd cael gwybodaeth a nododd lefelau tebyg (72%) hynny ar gyfer gwefan Llywodraeth Cymru.

Pan holwyd am y dulliau o gael gwybodaeth a ffafriwyd ganddynt, y dewisiadau mwyaf poblogaidd oedd drwy’r post (42%) a thrwy e-bost (40%).

Y math o wybodaeth a geisiwyd amlaf oedd gwybodaeth am yr hyn y mae’r dreth gyngor yn talu amdano (77%).

Canfyddiadau: Medi 2025

Cyfrifoldeb am dalu’r dreth gyngor

Nododd y mwyafrif o’r ymatebwyr (88%) eu bod nhw neu rywun yn eu cartref yn talu’r dreth gyngor. Band D oedd y band a nodwyd amlaf o hyd. 

Ymhlith y rhai a oedd yn talu’r dreth gyngor, roedd gan 45% gyfrifoldeb llwyr, roedd gan 44% gyd-gyfrifoldeb, ac nid oedd 11% yn gyfrifol am fod rhywun arall ar yr aelwyd yn talu. Roedd y rhan fwyaf o aelwydydd yn talu eu treth gyngor mewn rhandaliadau misol, gyda 53% yn talu dros 10 mis a 31% yn talu dros 12 mis. Yr ystod gwerthoedd fwyaf cyffredin ar gyfer taliadau misol oedd rhwng £151 a £200. Roedd tua chwarter yr ymatebwyr (24%) yn cael un disgownt, eithriad neu ostyngiad neu fwy, sef gostyngiad o 5% o gymharu â chamau mis Mawrth (mae hyn yn cyfeirio at gyfanswm y camau canlynol: Mawrth 2022, Mawrth 2023, Mawrth 2024 a Mawrth 2025). Y disgownt person sengl oedd yr un mwyaf cyffredin.

Ymhlith y rhai nad oeddent yn talu’r dreth gyngor, y prif reswm dros beidio â thalu oedd eu bod ar incwm isel ac yn cael Gostyngiad llawn yn y Dreth Gyngor (77%), sef cynnydd o 8% o gymharu â chamau mis Mawrth.

Gwybodaeth am system bresennol y dreth gyngor ac agweddau tuag ati

Roedd ymatebwyr wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y rhai a oedd yn teimlo eu bod yn gwybod eithaf tipyn am y dreth gyngor (45%) a’r rhai a oedd ond yn gwybod ychydig iawn (39%), a nododd 7% eu bod yn gwybod llawer iawn. Gwelwyd gostyngiad o 4% yng nghanran yr ymatebwyr a nododd eu bod ond yn gwybod ychydig iawn am y dreth gyngor o gymharu â chamau mis Mawrth. 

Pan ofynnwyd i ymatebwyr enwi gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, y gwasanaethau a nodwyd amlaf oedd casglu sbwriel (48%), plismona (40%) a ffyrdd neu gynnal a chadw ffyrdd (28%). 

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (80%) yn cytuno bod talu’r dreth gyngor yn broses syml, roedd (57%) yn ymwybodol o’r cymorth a all fod ar gael, byddai (69%) yn gwybod â phwy y dylid cysylltu pe bai ganddynt broblem gyda’r dreth gyngor ac nid oedd (62%) yn meddwl bod eu treth gyngor yn anodd i’w deall. Fodd bynnag, roedd 55% yn anghytuno bod system y dreth gyngor yn deg, nid oedd 56% wedi gweld budd o refeniw’r dreth gyngor yn cael ei fuddsoddi yn eu cymuned leol, ac roedd 56% yn teimlo nad oedd yn glir sut mae’r dreth gyngor yn cael ei gwario. 

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (59%) yn teimlo bod swm y dreth gyngor roedd disgwyl iddynt ei dalu yn ‘rhy uchel’, gyda 25% yn dweud ei fod ‘yn agos at ei le’. Ar ôl cael gwybodaeth am y gwasanaethau a ariennir drwy’r dreth gyngor, gostyngodd y gyfran a ddywedodd fod eu bil yn ‘rhy uchel’ i 50%, a chynyddodd y rhai a ddywedodd ei fod ‘yn agos at ei le’ i 29%.

Agweddau tuag at newid

Pan holwyd am newidiadau posibl i system y dreth gyngor, roedd 39% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid disodli’r dreth gyngor â system drethiant leol wahanol, roedd 17% yn anghytuno, ac roedd 44% yn ansicr—gostyngiad bach o blaid newid a chynnydd mewn ansicrwydd o gymharu â chamau mis Mawrth.

Pan ofynnwyd i ymatebwyr roi mesurau amgen ar gyfer trethi lleol yn eu trefn, y canfyddiad oedd mai system seiliedig ar incwm oedd y mesur tecaf (38%). Nodwyd mai system lle mae pawb yn talu’r un swm oedd y mesur lleiaf teg (49%). 

Nododd ymatebwyr hefyd mai’r nod pwysicaf ar gyfer unrhyw system drethiant leol newydd yw bod trethi lleol yn glir ac yn syml i’w deall (nododd 44% fod hynny’n ‘gwbl hanfodol’), ond nid oedd fawr ddim amrywiad yn y cyfartaledd cymedrig rhwng y chwe nod a gyflwynwyd.

Cael gwybodaeth am y dreth gyngor

Y dull mwyaf cyffredin o gael gwybodaeth am y dreth gyngor oedd drwy wefan y cyngor lleol (42%), ond roedd 19% yn defnyddio gwefan Llywodraeth Cymru. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (82%) a oedd yn defnyddio gwefan eu cyngor lleol yn teimlo ei bod yn hawdd cael gwybodaeth a nododd lefelau tebyg (77%) hynny ar gyfer gwefan Llywodraeth Cymru.

Pan holwyd am y dulliau o gael gwybodaeth a ffafriwyd ganddynt, y dewisiadau mwyaf poblogaidd oedd drwy e-bost (42%) a thrwy’r post (37%).

Y math o wybodaeth a geisiwyd amlaf oedd gwybodaeth am yr hyn y mae’r dreth gyngor yn talu amdano (79%).

Casgliadau

Mae canfyddiadau’r arolwg yn tynnu sylw at y ffaith bod y mwyafrif o’r ymatebwyr wedi nodi eu bod nhw, neu rywun arall ar eu haelwyd, yn talu’r dreth gyngor. Roedd yr ymatebwyr wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng cyfrifoldeb llwyr a chyd-gyfrifoldeb am dalu’r dreth gyngor. Y band treth gyngor mwyaf cyffredin a nodwyd oedd Band D. Nododd traean o’r ymatebwyr ym mis Mawrth 2025 a thua chwarter ym mis Medi 2025 eu bod yn cael un disgownt, eithriad, neu ostyngiad neu fwy. Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn talu eu treth gyngor mewn rhandaliadau misol, naill ai dros 10 neu 12 mis, ond, ym mis Mawrth 2025 a mis Medi 2025, cafwyd y ganran isaf a oedd yn ateb eu bod yn defnyddio’r dull 10 mis ers i’r arolwg ddechrau. 

O ran gwybodaeth ac agweddau, roedd yr ymatebwyr wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y rhai a oedd yn gwybod eithaf tipyn am y dreth gyngor a’r rhai a oedd ond yn gwybod ychydig iawn. Mae’n werth nodi bod canran uwch ym mis Mawrth 2025 wedi nodi eu bod yn gwybod ‘llawer iawn’ am y dreth gyngor o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Pan ofynnwyd i ymatebwyr enwi gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor, yr ymatebion mwyaf cyffredin oedd ailgylchu a chasglu gwastraff, a ffyrdd neu gynnal a chadw ffyrdd–mae’r rhain wedi bod ymhlith y tri a enwyd amlaf yn gyson ers i’r arolwg ddechrau yn 2022. 

Canfu’r arolwg fod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi mynegi’r agweddau cadarnhaol canlynol tuag at system bresennol y dreth gyngor: dywedodd ymatebwyr fod talu’r dreth gyngor yn broses syml, eu bod yn ymwybodol o’r cymorth a all fod ar gael, eu bod yn gwybod â phwy y dylid cysylltu pe bai ganddynt broblem gyda’r dreth gyngor, ac nad oedd eu bil yn anodd i’w ddeall. Fodd bynnag, nododd y mwyafrif hefyd yr agweddau negyddol canlynol: nid oeddent wedi gweld budd o refeniw y dreth gyngor yn cael ei fuddsoddi yn eu cymuned leol, roeddent yn teimlo nad oedd y system yn deg, ac roedd yn aneglur iddynt sut mae’r dreth gyngor yn cael ei gwario. Nododd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr hefyd fod swm y dreth gyngor y mae disgwyl iddynt ei dalu ‘yn rhy uchel’, ond roedd y ganran hon wedi gostwng pan gafodd ymatebwyr wybodaeth am y gwasanaethau a ariennir gan y dreth gyngor. 

Pan holwyd am ddiwygio, roedd tua dau o bob pum ymatebydd yn cytuno y dylid disodli’r dreth gyngor â system drethiant leol wahanol, ond nododd canran debyg nad oeddent yn gwybod. Roedd cynnydd nodedig yng nghanran yr ymatebwyr a oedd yn anghytuno y dylid disodli’r dreth gyngor â system arall rhwng mis Mawrth 2024 a mis Mawrth 2025. Pan holwyd ymatebwyr am opsiynau eraill, ystyriwyd mai system seiliedig ar incwm oedd y system decaf. Nododd yr ymatebwyr mai sicrhau bod trethi lleol yn glir ac yn hawdd i’w deall yw’r nod pwysicaf ar gyfer system drethiant leol newydd.

O ran mynediad at wybodaeth am y dreth gyngor, y dull mwyaf cyffredin oedd gwefan cyngor lleol ac roedd y rhan fwyaf yn ystyried ei bod yn hawdd i’w defnyddio. Pan ofynnwyd i ymatebwyr nodi pa ddulliau o gael gwybodaeth a ffafriwyd ganddynt, y ddau ymateb mwyaf cyffredin oedd e-bost a thrwy’r post. Y math mwyaf cyffredin o wybodaeth roedd ymatebwyr am ei chael oedd gwybodaeth am yr hyn y mae’r dreth gyngor yn talu amdano.

Manylion cyswllt

Awduron: Maddison Wright

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: Ymchwil.GwasanaethauCyhoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 34/2026
ISBN digidol 978-1-83745-171-5

Image
GSR logo