Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Lansiwyd y cynllun peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2022 gan ddarparu incwm o £1,600 y mis (cyn treth) i garfan o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru am 24 mis ar ôl iddynt droi'n 18 oed. Roedd y defnydd o'r cynllun peilot yn uchel iawn, gyda 97% o'r garfan gymwys (644 o unigolion) yn dewis cymryd rhan ynddo.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddysgu am y profiad o fod yn rhan o'r fenter arloesol hon, o safbwynt y rhai oedd yn derbyn yr arian a'r rhai a fu'n gweithio i lunio, cyflwyno a gweithredu'r polisi. 

Er bod y cynllun peilot wedi dod i ben yn 2025, mae'r gwaith  gwerthuso cynhwysfawr yn parhau hyd at 2027. Mae'r gwerthusiad yn cael ei arwain gan ganolfan ymchwil CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â chydweithwyr yng Ngholeg y Brenin Llundain, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Efrog a Phrifysgol Northumbria.

Mae'r gwerthusiad o'r cynllun peilot bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, a heddiw, rydym yn cyhoeddi'r trydydd adroddiad gwerthuso, Gwerthusiad y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru, Adroddiad Blynyddol 2025 – 2026. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ansoddol o gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl ifanc, gan gofnodi eu profiadau a'u sylwadau yng nghanol y cynllun peilot ac ar ei ddiwedd. Mae hefyd yn cynnig sylwadau gan weithwyr proffesiynol ar drefniadau'r cynllun peilot a'u canfyddiadau ynghylch ei effaith ar y bobl ifanc y maent yn eu cefnogi. Yn ogystal, mae'r gwerthuswyr wedi adolygu model theori y rhaglen, gan ddefnyddio data a gasglwyd trwy gydol y broses werthuso, i wella ein dealltwriaeth o sut a pham y gall incwm sylfaenol gyfrannu at ganlyniadau cadarnhaol. Mae crynodeb o'r canfyddiadau hefyd ar gael. 

Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd adroddiad blynyddol pellach yn dilyn yn gynnar yn 2027 gyda disgwyl i'r adroddiad gwerthuso terfynol gael ei ryddhau yn haf 2027. Bydd yr adroddiadau hyn yn asesu effaith derbyn incwm sylfaenol o'i gymharu â charfan debyg nad oedd yn derbyn yr incwm sylfaenol. Bydd y gwerthusiad economaidd, a ddisgwylir hefyd yn 2027, yn ystyried a yw'r cynllun peilot yn cynnig gwerth am arian. Mae fframwaith gwerthuso tymor hwy gan ddefnyddio data gweinyddol hefyd yn cael ei ddatblygu i alluogi'r gymuned ymchwil ehangach i ddeall effaith y cynllun peilot y tu hwnt i 2027.

Hoffwn ddiolch i bawb, yn dderbynwyr ac yn ymarferwyr, sydd wedi rhoi eu hamser a'u sylwadau i'r y prosiect ymchwil hanfodol hwn.