Y Bil Lles Plant ac Ysgolion ac addysg ddewisol yn y cartref
Gwybodaeth glir, ffeithiol am Fil Lles Plant ac Ysgolion a beth mae'n ei olygu i blant, teuluoedd ac addysg gartref ddewisol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Bil llywodraeth y DU sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer Cymru mewn perthynas â phlant nad ydynt yn yr ysgol, cyflogaeth plant, a rhai mesurau gwasanaethau cymdeithasol.
Cefndir
Cyflwynwyd y Bil Lles Plant ac Ysgolion yn Nhŷ'r Cyffredin ar 17 Rhagfyr 2024. Mae'r Bil yn cwmpasu ystod eang o wahanol feysydd ond i Loegr yn unig y mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn berthnasol . Ym mis Mawrth 2025 cyflwynwyd gwelliannau i gynnwys Cymru yn rhai o ddarpariaethau'r Bil. Y darpariaethau sy'n gymwys i Gymru yw'r rhai sy'n ymwneud â:
- Plant nad ydynt yn yr ysgol
- Cyflogaeth plant
- cam-drin ac esgeuluso'n fwriadol plant dan 18 oed
- plant sy'n byw mewn llety dros dro
- Hysbysiadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
Mae rhagor o wybodaeth am y Bil ar gael yn Children’s Wellbeing and Schools Bill: Parliamentary Bills ar wefan Senedd y DU.
Cynnwys Cymru mewn bil llywodraeth y DU
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar y Bil ers hydref 2024. Er bod addysg wedi'i ddatganoli yng Nghymru, mae'r heriau ynghylch addysg ddewisol yn y cartref (a'r pwysau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu) yn debyg iawn i'r rhai yn Lloegr. Mae hefyd fframwaith cyffredin ar draws Cymru a Lloegr sy'n golygu y bydd rhai elfennau sy'n croesi i faes 'diogelu' yn dod o dan ddeddfwriaeth a pholisi yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd. Yn ogystal, bydd y newidiadau yn y Bil yn diweddaru'r gyfraith addysg yn y cartref bresennol sydd yn Neddf Addysg 1996. Mae'r Ddeddf Addysg yn berthnasol i Gymru a Lloegr.
Nid ydym wedi cymryd agwedd ‘derbyn popeth’ at y Bil. Rydym wedi gofyn am ein cynnwys yn y rhannau o'r Bil sy'n cyd-fynd yn llwyr â'n nodau polisi a'n huchelgeisiau ein hunain ar gyfer Cymru. Mae rhai o'r darpariaethau yr ydym wedi gofyn amdanynt yn angenrheidiol i fynd i'r afael â bylchau presennol mewn deddfwriaeth, ac eraill yn mynd i'r afael â phroblemau polisi hir sefydlog. Mae'r holl ddarpariaethau y gofynnwyd amdanynt ar gyfer Cymru wedi'u hystyried yn unigol.
Mae pecyn datblygu polisi Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref wedi bod ar y gweill ers 2018. Cytunwyd y byddai is-ddeddfwriaeth yn cael ei dreialu yn gyntaf, cyn i ni ystyried deddfwriaeth sylfaenol. Ers hynny rydym wedi cynnal sawl ymgynghoriad cyhoeddus i lywio ein sefyllfa yng Nghymru, a'r camau nesaf posibl.
Plant nad ydynt yn yr ysgol
Mae 'plant nad ydynt yn yr ysgol' yn cynnwys plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, plant o dan drefniadau addysg hyblyg y cytunwyd arnynt a phlant yn narpariaeth addysg awdurdodau lleol (EOTAS).
Mae'r mesurau ynghylch plant nad ydynt yn yr ysgol yn helpu i sicrhau eu bod yn derbyn addysg addas a'u bod yn ddiogel. O dan y mesurau, bydd yn rhaid i rieni roi gwybod i’w hawdurdod lleol os yw eu plentyn o oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt ar gofrestr ysgol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid yw'n ofynnol i rieni wneud hyn sy'n golygu nad yw awdurdodau lleol yn ymwybodol o blant sy'n byw yn eu hardaloedd.
Ar hyn o bryd, dylai rhieni hysbysu ysgol eu plentyn eu bod yn dymuno tynnu eu plentyn allan i'w addysgu heblaw yn yr ysgol (addysgu yn y cartref). Nid oes angen i rieni roi cyfnod o rybudd i'r ysgol cyn tynnu eu plentyn allan ac nid oes angen cymeradwyaeth gan yr ysgol na'r awdurdod lleol arnynt.
O dan y mesurau newydd, bydd yn rhaid i rieni a gofalwyr ddarparu gwybodaeth i'w hawdurdod lleol i roi gwybod iddynt os ydynt yn addysgu eu plentyn yn y cartref a darparu gwybodaeth ar gyfer y cofrestrau, fel y byddent yn ei wneud pe baent yn cofrestru ar gyfer ysgol. Yn ogystal, gan fod y rhiant yn darparu'r addysg i'r plentyn, bydd angen iddynt ddweud wrth yr awdurdod lleol am yr addysg honno.
Mae’r mesurau yn cynnwys:
- dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu cofrestr o’r plant nad ydynt yn yr ysgol yn eu hardal
- dyletswydd ar rieni a gofalwyr i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y cofrestrau os nad yw eu plentyn yn mynd i ysgol
- dyletswydd ar leoliadau penodol addysg y tu allan i'r ysgol i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol os ydynt yn darparu addysg i blant nad ydynt mewn ysgol
- newidiadau i'r broses Gorchymyn Presenoldeb Ysgol (SAO) i'w gwneud yn fwy effeithlon
- gofyniad i awdurdodau lleol gydsynio cyn y gellir tynnu plant sydd ar gynlluniau amddiffyn plant, neu sy'n ddarostyngedig i ymholiadau amddiffyn plant adran 47, o'r ysgol i gael eu haddysgu yn y cartref (lle mae plant sy'n ddarostyngedig i rai prosesau amddiffyn plant eisoes yn cael eu haddysgu yn y cartref, bydd yr awdurdod lleol yn gallu ei gwneud yn ofynnol iddynt fynychu ysgol)
- Wrth ystyried y cais, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried yr amgylchedd cartref ac amgylcheddau dysgu eraill wrth benderfynu a ddylid ei gwneud yn ofynnol i blant fynychu ysgol
Bydd y rhan fwyaf o fanylion ynghylch y plant nad ydynt mewn darpariaeth ysgol yn cael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth (rheoliadau) a chanllawiau. Bydd y rhain yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cyn i'r mesurau ddod i rym yng Nghymru.
Rhesymau dros ofyn am y mesurau ar gyfer plant nad ydynt yn yr ysgol
Mae awdurdodau lleol a phartneriaid diogelu wedi codi pryderon bod y system bresennol yn ei gwneud hi'n hawdd i blant agored i niwed lithro o olwg y gweithwyr proffesiynol sydd yno i'w diogelu. Yn ogystal â'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gadw cofrestrau o blant nad ydynt yn yr ysgol, byddai'r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion wirio gyda'r awdurdod lleol a ellir tynnu'r plentyn oddi ar gofrestr yr ysgol ar unwaith, neu a yw'r plentyn yn dod i un o'r categorïau sy'n ei gwneud yn ofynnol i rieni gael caniatâd awdurdod lleol cyn y gellir eu tynnu oddi ar gofrestr ysgol i gael eu haddysgu yn y cartref.
Os yw'r rhai sy'n addysgu yn y cartref yn defnyddio lleoliadau gwahanol i ddarparu addysg i'w plentyn, bydd angen gwybodaeth am y lleoliadau hyn os ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cofrestru. Bydd y meini prawf yn cael eu nodi mewn rheoliadau ac mewn canllawiau.
Bydd awdurdodau lleol hefyd yn gallu gofyn am gwrdd â'r teulu a gweld a siarad â'r plentyn. Mae hyn er mwyn mynd i'r afael â'r broblem bresennol lle na all awdurdodau lleol ddweud a yw plant yn derbyn addysg addas.
Ar hyn o bryd nid oes angen i rieni yng Nghymru a Lloegr hysbysu eu hawdurdod lleol yn gyfreithiol eu bod yn addysgu yn y cartref. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r holl blant sy'n byw yn eu hardaloedd, ond oni bai bod plant wedi mynychu ysgol o'r blaen, neu fod rhiant wedi dweud wrth yr awdurdod lleol o'i wirfodd, ni fydd awdurdod lleol yn gwybod am blentyn. Yna maent dan ddyletswydd i geisio nodi'r plant hynny fel y gallant fod yn sicr eu bod yn cael addysg.
Os yw awdurdod lleol yn gwybod am blentyn a addysgwyd gartref, maent yn wynebu rhwystrau ychwanegol oherwydd ar hyn o bryd gall rhieni wrthod cwrdd â nhw. Heb gwrdd â'r rhiant a'r plentyn, ni all awdurdodau lleol bob amser benderfynu a yw'r plentyn yn derbyn addysg addas. Mae hyn wedi dod yn fwy o broblem yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod rhai grwpiau cymorth ar gyfer addysgu yn y cartref yng Nghymru yn mynd ati i gynghori addysgwyr yn y cartref i beidio â chwrdd â'u hawdurdod lleol.
Mae awdurdodau lleol yn cadw cofrestrau o'r plant y maent yn ymwybodol eu bod yn cael eu haddysgu yn y cartref, ond mae'r rhain yn anghyflawn oherwydd nad ydynt yn gwybod am bob plentyn.
Yn 2018 i 2019 roedd 2,517 o blant y gwyddai'r awdurdodau eu bod yn cael eu haddysgu yn y cartref yng Nghymru. Erbyn 2024 i 2025 roedd y nifer hwn wedi codi i 7,176. Nid yw nifer y plant a addysgir yn y cartref yn hysbys ac nid oes unrhyw oruchwyliaeth o'r addysg y mae'r plant hyn yn ei chael na phwy sy'n ei darparu.
Nid yw'r mesurau am blant nad ydynt yn yr ysgol yn atal rhieni rhag dewis addysgu yn y cartref, ond byddant yn ei gwneud yn ofynnol i rieni ddweud wrth eu hawdurdod lleol eu bod yn addysgu yn y cartref. Mae'r mesurau hefyd yn golygu na ellir symud plant sy'n destun ymholiadau amddiffyn plant o'r ysgol heb ganiatâd yr awdurdod lleol. Ar hyn o bryd gall rhiant ddadgofrestru eu plentyn o ysgol a gynhelir yng Nghymru ar unrhyw adeg.
Plant nad ydynt yn yr ysgol a diogelu
I'r rhan fwyaf o blant, nid yw addysgu yn y cartref yn fater diogelu. Fodd bynnag, bu achosion yng Nghymru a Lloegr lle mae addysgu yn y cartref wedi bod yn ffactor ym marwolaeth plentyn. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn helpu i sicrhau nad yw'r plant mwyaf agored i niwed yn llithro o olwg y gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau diogelu.
Mae Comisiynydd Plant Cymru a Bwrdd Diogelu CYSUR wedi galw am ddeddfwriaeth sylfaenol yng Nghymru yn dilyn adolygiadau ar wahân i arfer mewn perthynas â phlant yn dilyn marwolaethau dau blentyn a addysgwyd yn y cartref yng Nghymru. Yn yr achosion hyn, nid fod y plant yn 'anhysbys' i staff yr awdurdodau lleol oedd y broblem, ond eu bod yn cael eu cadw allan o olwg gweithwyr proffesiynol. O dan y ddeddfwriaeth bresennol ar addysgu yn y cartref nid oes gan awdurdodau lleol bwerau i weld a siarad â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref. Yn ei adroddiad, nododd CYSUR fod rhiant wedi gwrthod, cyn marwolaeth y plentyn, â chwrdd â thîm addysgu yn y cartref yr awdurdod lleol yng Nghymru a'i bod wedi cyflwyno tystiolaeth o addysg ei phlant yn ysgrifenedig. Bydd y Bil yn galluogi awdurdodau lleol i ofyn am 'weld' y plentyn yn yr amgylchedd dysgu fel rhan o'r asesiad addasrwydd.
Addysg ddewisol yn y cartref
Nid yw'r rhannau o'r Bil ynghylch 'Plant nad ydynt yn yr ysgol' yn atal rhieni rhag addysgu yn y cartref, ond maent yn ychwanegu mwy o oruchwyliaeth. Nod y Bil yw gwella amddiffyniad plant, olrhain plant nad ydynt yn yr ysgol, a chymryd camau os nad yw plant yn derbyn addysg addas.
Nid yw'r mesurau ynghylch plant nad ydynt yn yr ysgol yn newid hyblygrwydd addysgu yn y cartref na'r hyn y mae rhieni yn gallu ei ddarparu i'w plentyn. Nid yw'r mesurau yn atal rhieni rhag darparu addysg yn ôl eu hathroniaeth neu eu credoau eu hunain, ac nid yw'n ofynnol i addysgwyr cartref ddilyn y cwricwlwm na gosod amserlenni.
Mae'r rhannau o'r Bil sy'n ymwneud ag addysgu yn y cartref yn rhoi amddiffyniad cyfartal i blant yng Nghymru ac yn helpu awdurdodau lleol a phartneriaid i gyflawni eu dyletswyddau presennol ynghylch addysg a diogelu mewn perthynas â'r plant hynny.
Mae cyngor ac arweiniad i addysgwyr cartref yng Nghymru ar gael yn llawlyfr rhieni addysgu yn y cartref Llywodraeth Cymru. Mae'r llawlyfr yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan awdurdodau lleol ac mae'n nodi cyfrifoldebau rhieni ac awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysgu yn y cartref, a hawliau'r plentyn.
Plant nad ydynt yn yr ysgol ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Gwyddom fod gan nifer fawr o blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref ADY. Nid yw'r darpariaethau yn y Bil yn dileu addysgu yn y cartref fel opsiwn i unrhyw blentyn ond byddant yn sicrhau gwell goruchwyliaeth gan awdurdodau lleol. Pan fydd awdurdodau lleol yn gwneud asesiad ar addasrwydd addysg, rhaid iddynt ystyried unrhyw ADY ac a yw'r addysg sy'n cael ei darparu yn addas i'r anghenion hynny. Nid yw'r Bil yn newid hyn, ond bydd yn galluogi awdurdodau lleol i gwrdd â'r teulu i ymgymryd â'r ddyletswydd honno.
Mae'r gofyniad i awdurdodau lleol gydsynio cyn i blant gael eu tynnu allan o'r ysgol yn berthnasol i blant sy'n destun ymholiadau amddiffyn plant neu orchymyn o dan adran 47 o Ddeddf Plant 1989. Mae caniatâd awdurdod lleol cyn y gellir dadgofrestru plentyn o ysgol arbennig eisoes yn ofyniad yng Nghymru. Nid yw'r mecanwaith cydsynio yn berthnasol i blant mewn ysgolion a gynhelir sydd â CDU.
Ymgynghori ac ymgysylltu â theuluoedd yng Nghymru
Roedd y Bil eisoes wedi'i ddatblygu'n helaeth pan ymunodd Cymru â'r darpariaethau. Fodd bynnag, rydym wedi cynnal ymgynghoriad helaeth ag addysgwyr cartref ar y polisi presennol ar addysgu dewisol yn y cartref ers 2018. Mae hyn yn cynnwys:
- 2018: Comisiwn ar gyfer cyfarfod cenedlaethol ar gyfer addysgwyr cartref dewisol a chynrychiolwyr awdurdodau lleol. Diben hyn oedd galluogi trafodaethau am brofiadau teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref a'u barn ar y math o gymorth y byddent yn ei weld yn ddefnyddiol.
- 2019: sesiynau rhanbarthol 'Sgwrs Fwrdd' ar gyfer addysgwyr cartref ar y canllawiau drafft ar addysgu yn y cartref.
- Gorffennaf 2019: ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar ganllawiau statudol drafft i awdurdodau lleol ar addysgu yn y cartref ynghyd â llawlyfr ar gyfer addysgwyr cartref.
- Ionawr 2020: ymgynghoriad ar gronfeydd data addysg awdurdodau lleol.
- Mai 2022: Cyfarfod Llywodraeth Cymru gyda Families First in Education.
- Mai 2022: Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn cyfarfod gydag 'Education Otherwise'.
- Mehefin 2023: sesiwn ymgysylltu ar-lein ar gyfer addysgwyr cartref wedi'i hwyluso gan Gomisiynydd Plant Cymru.
- Ionawr i Ebrill 2024: ymgynghoriad ar reoliadau’r gronfa ddata 'Plant sy'n Colli Addysg'.
- Mai 2024: sesiynau rhanbarthol sy'n gyfeillgar i blant ar gynigion cronfa ddata Plant sy'n Colli Addysg.
Mae'r holl adborth hwn wedi llywio'r dull rydyn ni'n ei ddefnyddio nawr.
Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gyfer yr holl is-ddeddfwriaeth a chanllawiau sy'n gysylltiedig â'r Bil Lles Plant ac Ysgolion, yn unol ag arfer safonol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn dibynnu ar gydsyniad y Senedd a'r Bil yn pasio drwy San Steffan, ond bydd pobl yng Nghymru yn cael cyfle clir arall i roi eu barn.
Asesiadau effaith
Gan mai Bil Llywodraeth y DU yw hwn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi asesiadau effaith ar wahân ar gyfer Cymru. Mae Asesiad Effaith a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU yn cynnwys asesiad o fesurau'r Bil mewn perthynas â Chymru, gan gynnwys costau amlinellol a gwybodaeth sy'n benodol i Gymru. Bydd asesiadau effaith llawn yn cael eu cyhoeddi ar gyfer yr holl is-ddeddfwriaeth a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r rhannau o'r Bil sy'n berthnasol i Gymru. Bydd yr asesiadau effaith yn cael eu cyhoeddi fel rhan o unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus.
Craffu a chydsyniad y Senedd
Ar 24 Mawrth 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd. Roedd hyn yn cynnwys y gwelliannau a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin i gynnwys Cymru yn rhai o'r darpariaethau.
Pryd bynnag y cynigiwyd newidiadau i'r meysydd o'r Bil sy'n effeithio ar Gymru, rydym wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol arall i alluogi'r Senedd i graffu arnynt. Mae'r Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol sydd wedi'u gosod a holl hanes y Bil yn y Senedd wedi'u cynnwys ar dudalen Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Plant ac Ysgolion ar wefan y Senedd.
Bydd y Senedd hefyd yn trafod meysydd y Bil sy'n effeithio ar Gymru. Cynhelir y ddadl ym mis Mawrth 2026.
