Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel llywodraeth rydym wedi ei gwneud yn glir ein bod yn rhoi ein sylw parhaus i godi safonau yn ein hysgolion a'n colegau; ar ehangu cyfleoedd i ddysgwyr; ar gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar addysg a hyfforddiant trydyddol; ac ar gefnogi ymrwymiad gwirioneddol i annog pobl o bob oed i fanteisio ar ddysgu. 

Mae ymroddiad ac ymrwymiad cyson ein gweithlu addysg drydyddol yn hanfodol i gyflawni'r nodau hyn. Mae mynd ati i fynnu proffesiynoldeb y gweithlu trydyddol, yn ogystal â sicrhau cydraddoldeb, gan gydnabod rolau addysgu amrywiol y sector, yn hanfodol inni lunio Fframwaith ar gyfer Gweithlu Addysg Drydyddol cadarn sy'n edrych i'r dyfodol. 

Ar 21 Ionawr cyhoeddais bapur tystiolaeth Dyfodol addysg drydyddol yng Nghymru , sy'n nodi'r heriau sy'n wynebu addysg bellach ac uwch yng Nghymru, ac yn galw ar randdeiliaid i gyflwyno tystiolaeth. Mae'n gwahodd y sector addysg ôl-16 i helpu i adeiladu'r sylfaen dystiolaeth a fydd yn llywio ac yn mynd i'r afael â phum her allweddol. Mae gan yr heriau hyn oblygiadau i'r gweithlu, ac rwy'n croesawu ymatebion i'r cwestiynau a ofynnir gan gyflogwyr, y gweithlu addysg drydyddol a'i gyrff cynrychioladol.

Mae'n bwysicach nag erioed, bod y sector yn dod at ei gilydd i helpu i recriwtio a chadw unigolion medrus, hyblyg ac ymroddedig iawn i ymuno â'r gweithlu ôl-orfodol, ac mewn partneriaeth â Medr, ein rhanddeiliaid a'n cyflogwyr byddwn yn datblygu proffesiynoldeb y gweithlu trydyddol ymhellach. 

Y gwanwyn diwethaf gofynnais i swyddogion sefydlu Grŵp Cynghori Arbenigol Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, dan gadeiryddiaeth Dafydd Evans, cyn Bennaeth Grŵp Llandrillo Menai. 

Tasg y Grŵp hwnnw, â'i aelodaeth o'n sefydliadau partner, oedd datblygu gwaith a wnaed eisoes i archwilio'r cyfleoedd a'r heriau sy'n ymwneud â chyflawni nodau addysg gychwynnol i athrawon. Mae hyn yn cynnwys datblygu gweledigaeth unedig ar ddyfodol addysg gychwynnol i athrawon ar gyfer y sector ôl-orfodol, gan gynnwys edrych ar sut y gellid darparu cymorth gwell ar gyfer athrawon dan hyfforddiant sy'n ymuno â'r proffesiwn yn ystod eu hyfforddiant ac yn ystod eu blynyddoedd cynnar o addysgu. 

Mae'r Grŵp Cynghori wedi rhannu ei ganfyddiadau gyda mi. A heddiw croesawais y cyfle i gwrdd ag aelodau i glywed eu sylwadau yn uniongyrchol ar ba ddatblygiad polisi yn y dyfodol y gallai fod ei angen i alluogi'r newid sydd ei angen i gyflawni nodau addysg gychwynnol i athrawon – er mwyn sicrhau dull cydlynol a reolir i gefnogi'r gweithlu. 

Mae'r themâu cyffredin sy'n dod i'r amlwg o waith y Grŵp a'i is-grwpiau yn cynnwys datblygu gweledigaeth unedig ar gyfer cyflawni nodau addysg gychwynnol i athrawon; datblygu cwricwlwm craidd cyffredin, trwy rwydwaith ffurfiol i gydgysylltu'r maes, sy'n adlewyrchu newid cymdeithasol yn well ac sy'n cydnabod y materion cyfoes y mae athrawon yn eu hwynebu wrth addysgu a dysgu heddiw; ac archwilio a dadansoddi'r cymorth sefydlu a mentora sydd eu hangen ar athrawon newydd gymhwyso, ynghyd â hyfforddiant ar gyfer staff sy'n mentora. 

Er bod y gwaith hwn ar gam cynnar yn ei ddatblygiad, mae dull gweithredu graddol yn cael ei ddatblygu i gyflwyno'r newidiadau er mwyn sicrhau ac ymgorffori gwelliannau ystyrlon ar gyfer y tymor hir. 

Bydd y Grŵp Cynghori yn parhau i ddarparu cyngor i helpu i lywio penderfyniadau polisi'r Llywodraeth yn y dyfodol i gefnogi gwaith recriwtio a chadw athrawon newydd ac ategu'r gwaith i gynllunio fframwaith strategol ar gyfer gweithlu addysg drydyddol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu trwy ymgynghoriad llawn ac agored â Medr a'n rhanddeiliaid partner, gan ddefnyddio dull pragmatig cholegol. 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r Grŵp Cynghori am eu cyfraniad hyd yma. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.