Bydd gorsaf newydd Parcffordd Glannau Dyfrdwy yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng Gogledd Ddwyrain Cymru, ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, a Lerpwl, gan wella mynediad i un o'r safleoedd cyflogaeth mwyaf yn Ewrop a helpu i leihau tagfeydd ar brif ffyrdd yr ardal.
Dyna oedd neges Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wrth iddo ymweld â safle'r orsaf arfaethedig.
Mae'r orsaf yn un o 7 sy'n cael eu datblygu yng Nghymru, gyda datblygiadau mwy cyffrous i ddod, yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi cynllun £14bn Trafnidiaeth Cymru ar gyfer rheilffyrdd.
Yn ystod ymweliad ag ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, dywedodd Ken Skates:
Mae hon yn foment ddigynsail i reilffyrdd yng Nghymru. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae gennym becyn gwerth £14bn o gynlluniau beiddgar, unwaith mewn cenhedlaeth, a fydd yn gweddnewid teithio, yn cysylltu cymunedau ac yn sbarduno'r economi.
"Fel rhan o hyn byddwn yn cyflwyno gorsaf Parcffordd Glannau Dyfrdwy a fydd yn hwb i'r rhanbarth a thu hwnt.
"Bydd y datblygiad hwn yn gwella mynediad rhwng Glannau Dyfrdwy, canolfannau cyflogaeth ac addysg Lerpwl, Porthladd Lerpwl, a Maes Awyr John Lennon Lerpwl. Bydd yn cefnogi cymudo trawsffiniol, symudedd sgiliau a mewnfuddsoddiad. Bydd hefyd yn cynnig dewis arall hyfyw i'r car.
"Fy ngobaith yw gweld yr orsaf newydd yng Nglannau Dyfrdwy yn cael ei chwblhau cyn gynted â phosibl, o bosibl yn 2027 sy'n uchelgeisiol iawn. Rwy'n gwthio'r diwydiant rheilffyrdd yn galed ar hyn, bydd mabwysiadu dull modiwlaidd yn golygu y gellir cyflawni’r orsaf yn gyflymach na'r dull traddodiadol.
"Mae'r cynllun £14bn ar gyfer rheilffyrdd yn ddatblygiadau cyffrous a digynsail ar gyfer y dyfodol ar draws Gogledd Cymru gyfan. Gyda Rhwydwaith y Gogledd rydym eisoes yn darparu mwy o wasanaethau rhwng Caer a Wrecsam, ac mae mwy o newid i ddod.
"Byddwn yn dechrau gweld y rhanbarth fel arweinydd o ran trafnidiaeth gynaliadwy a thrafnidiaeth integredig.
