Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y materion cyflenwi diweddar sydd wedi effeithio ar sment esgyrn, a ddefnyddir mewn rhai llawdriniaethau orthopedig, fel gosod clun a phen-glin newydd.
Yn gynharach y mis hwn, arweiniodd problem weithgynhyrchu a effeithiodd ar gyflenwr o'r Almaen at brinder byd-eang o sment esgyrn, na chynlluniwyd ar ei gyfer. O ganlyniad roedd rhaid oedi rhai llawdriniaethau orthopedig a gynlluniwyd am gyfnod byr yn sefydliadau GIG y DU, gan gynnwys byrddau iechyd Cymru, i sicrhau cadw stociau presennol ar gyfer llawdriniaethau brys ac argyfwng. Ar ôl cael gwybod am y prinder, gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos gyda chlinigwyr a Byrddau Iechyd i sicrhau bod y capasiti a grëwyd ar restrau llawdriniaeth ddewisol yn cael ei ddefnyddio'n llawn ar gyfer cleifion nad oes angen sment arnynt fel rhan o'u triniaeth.
Rwy'n falch o gadarnhau bod cyflenwr newydd o sment esgyrn wedi'i sicrhau, a bod arbenigwyr clinigol wedi gwirio a chytuno bod y cynnyrch yn ddiogel i'w ddefnyddio. Mae hyn yn golygu y bydd pob llawdriniaeth orthopedig sy'n defnyddio'r cynnyrch hwn yn gallu ailgychwyn fel arfer o 2 Mawrth.
Bydd byrddau iechyd yn cysylltu â phawb y bu'n rhaid gohirio eu llawdriniaeth yr wythnos diwethaf i aildrefnu eu hapwyntiadau.
Hoffwn ddiolch i bawb am eu hamynedd ac estyn fy niolch diffuant i holl staff y GIG sydd wedi gweithio'n gyflym ac yn broffesiynol i gadw pobl yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn.
Mae gwaith ar y gweill i ddeall yr effaith y mae'r problemau cyflenwi wedi'u cael ar amseroedd aros orthopedig. Byddaf yn cyhoeddi diweddariad pan fydd y gwaith dadansoddi wedi'i gwblhau.
Ein blaenoriaeth fel bob amser oedd diogelu gofal brys, cadw cleifion yn ddiogel, ac adfer gwasanaethau arferol cyn gynted â phosibl. Diolch i gamau cyflym timau ac arweinwyr clinigol GIG Cymru, gallwn symud ymlaen yn hyderus.
