Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cymru’n barod i fanteiso a’r bob cyfle sy’n deillio o gynhyrchu niwclear modern yn Wylfa yng Ngogledd Cymru.
Dyna’r neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, mewn araith i digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd gan y Gymdeithas Niwclear heddiw.
Tynnodd y digwyddiad sylw at flwyddyn hynod bwysig i’r diwydiant niwclear sifil yn y DU, ac fe’i cefnogwyd gan Fforwm Niwclear Cymru a’i noddi gan Rolls‑Royce SMR, sy’n dylunio’r tri adweithydd modiwlaidd bach (SMR) cyntaf yn y DU yn Wylfa.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Mae Llywodraeth Cymru a minnau wedi cefnogi niwclear newydd yn Wylfa ers blynyddoedd lawer – rydym yn ei hystyried yn brosiect seilwaith carbon isel o bwys ac yn gyfle diwydiannol hirdymor.
Rydym am i Gymru elwa ar yr holl fanteision y gall niwclear modern eu cynnig, ac rydym yn bwriadu i Gymru nid yn unig gynnal cynhyrchu niwclear, ond hefyd helpu i’w adeiladu, ei gynnal a’i gyflenwi am ddegawdau i ddod.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn y digwyddiad heddiw fod Llywodraeth Cymru yn paratoi cynnig i Rolls‑Royce SMR ddatblygu cyfleuster gweithgynhyrchu modiwlaidd yn Nheeside, Sir y Fflint.
Ychwanegodd:
Mae Deeside yn cael ei chydnabod fel clwstwr gweithgynhyrchu uwch gyda diwydiant trwm sefydledig, cysylltedd logisteg cadarn, gweithlu medrus a seilwaith ategol, sydd wedi’i gryfhau ymhellach gan ei ddynodiad o fewn parth buddsoddi gwerth £160 miliwn.
Ni fyddai ffatri SMR yn Nheeside yn cefnogi un safle yn unig – byddai’n angori rhaglen adeiladu ailadroddadwy a chadwyn gyflenwi hirdymor am ddegawdau lawer i ddod.
