Cyfarfod y Cabinet: 12 Ionawr 2026
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 12 Ionawr 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Julie James AS
- Dawn Bowden AS
- Sarah Murphy AS
- Jack Sargeant AS
Ymddiheuriadau
- Vikki Howells AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr, Swyddfa'r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tal Michael, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Jacqueline Totterdell, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys (eitem 6)
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (eitem 6)
Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 15 Rhagfyr 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
Ymweliadau â Chatalwnia a Gwlad y Basg
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei bod wedi ymweld â Chatalwnia a Gwlad y Basg yr wythnos flaenorol, gan lofnodi memoranda cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraethau'r ddwy.
Cyfarfod o'r Cabinet yn y Gogledd
2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal yn y Gogledd ddydd Llun 23 Chwefror.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi y byddai'r Senedd yn ystyried bil brys mewn perthynas â Thribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru. Y bwriad oedd cyflwyno'r Bil a'i gytuno yr wythnos honno, gan dybio bod y Senedd yn cytuno i ddeddfu. Felly, roedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 8:05pm ddydd Mawrth a thua 9:05pm ddydd Mercher.
3.2 Fodd bynnag, roedd y Bil yn eithaf byr, ac roedd yr amseru'n dibynnu ar nifer y gwelliannau a gyflwynwyd yng nghyfnod 2 a 3, ac felly efallai na fyddai angen yr amser a oedd wedi ei neilltuo ar hyn o bryd.
Eitem 4: Diweddariad llafar – Gwydnwch gaeaf y GIG
4.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiweddariad i'r Cabinet ar Wydnwch Gaeaf y GIG, cyn y datganiad i'r Senedd y diwrnod canlynol.
4.2 Roedd y gwaith o gynllunio a pharatoi ar gyfer y gaeaf wedi dechrau ym mis Mawrth y flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau gwydnwch rhanbarthol a gweithredol, gyda ffocws cryf ar gael pobl i fanteisio ar gyfleoedd brechu, capasiti cymunedol, gofal brys ac argyfwng, a llif cleifion drwy'r system.
4.3 Roedd y cyfnod ymyrraeth pythefnos o hyd cyn y Nadolig, a elwir yn 'Sbrint y Gaeaf', yn fenter allweddol a gynlluniwyd i wella cynhyrchiant mewn perthynas â rhyddhau, a chefnogi'r broses o ryddhau'n fwy diogel ac yn gynharach. Cafodd hyn effaith gadarnhaol trwy gynyddu cyfran y cleifion sy'n cael eu rhyddhau cyn hanner dydd, a lleihau gofal a ddarperir mewn coridorau.
4.4 Yn ôl y disgwyl, roedd y galw wedi cynyddu ar adegau yn ystod y pythefnos diwethaf, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau ambiwlans ac argyfwng. Roedd salwch tymhorol, megis y ffliw, ac amodau tywydd newidiol wedi ychwanegu at y pwysau.
4.5 Er gwaethaf hyn, roedd y system yn gyffredinol wedi parhau i fod yn wydn. Roedd amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans wedi gwella ar gyfer yr achosion mwyaf critigol wrth i fis Rhagfyr fynd rhagddo, gyda chymorth y perfformiad gwell o ran trosglwyddo cleifion, ac roedd 50% yn llai o oriau wedi'u colli o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd Adrannau Argyfwng wedi trin mwy o gleifion sâl iawn, ond roedd staff yn blaenoriaethu achosion argyfwng a'r angen i gynnal gofal diogel.
4.6 Roedd gwasanaethau Gofal Cymdeithasol hefyd wedi chwarae rôl hanfodol, gan weithio mewn partneriaeth i gefnogi unigolion agored i niwed, er gwaethaf y pwysau ar y capasiti.
4.7 Bu anawsterau mewn perthynas â nifer yr achosion o salwch anadlol, cwympiadau, a phwysau staffio. Yn ogystal â hynny, roedd yr eira wedi achosi problemau trafnidiaeth. Roedd yr holl ffactorau hyn wedi effeithio ar y llif cleifion, ac wedi creu risgiau ychwanegol ar draws safleoedd ysbytai.
4.8 Er mwyn lliniaru'r heriau, roedd y Byrddau Iechyd wedi agor gwelyau ysbyty ychwanegol, ail-leoli staff i fannau lle'r oedd yr angen mwyaf, a chynyddu'r defnydd o wasanaethau cymunedol. Bu buddsoddiad hefyd mewn capasiti cludo ychwanegol ar gyfer achosion nad ydynt yn argyfwng, er mwyn helpu i ryddhau cleifion yn gynharach, ac mewn dulliau arloesol, megis desg cydgysylltu 999 ar gyfer cwympiadau fel rhan o newidiadau i fodel ymateb clinigol y gwasanaeth ambiwlans. Roedd monitro dyddiol a chynllunio'n rhagweithiol ar gyfer ymchwydd wedi parhau.
4.9 Er mwyn helpu i reoli pwysau ar gyfer gweddill y tymor, byddai'r ail Sbrint Gaeaf yn cael ei gynnal rhwng 21 Ionawr a 4 Chwefror, er mwyn cadw'r ffocws ar gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion, capasiti cymunedol, a gwydnwch gweithredol, ac ar yr un pryd monitro risgiau sy'n ymwneud â staffio a'r tywydd.
4.10 Roedd cynllunio cynnar ac ymyriadau wedi'u targedu wedi helpu i ddarparu gofal diogel ac amserol i'r mwyafrif helaeth o gleifion, ac mae'r system wedi dangos mwy o wydnwch nag yn y blynyddoedd blaenorol.
4.11 Nododd y Cabinet y diweddariad.
Eitem 5: Diweddariad llafar - Economi Cymru
5.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ddiweddariad ar Economi Cymru, cyn y datganiad i'r Senedd y diwrnod canlynol.
5.2 Byddai'r datganiad yn canolbwyntio ar ddau fater, gan arddangos yr hyn a oedd wedi ei gyflawni o dan amgylchiadau hynod heriol yn ystod y Senedd bresennol, ac ar yr un pryd yn darparu syniad clir o'r cynnydd a wnaed tuag at economi fwy modern a chystadleuol.
5.3 Er gwaethaf Brexit, COVID-19, a blynyddoedd o gyni, roedd y genhadaeth economaidd wedi canolbwyntio ar dwf, gwydnwch, a thegwch, ac ar yr un pryd roedd wedi darparu swyddi o ansawdd da. Byddai'r datganiad hefyd yn glir am gyfleoedd o fewn yr economi, gan gydnabod y symud parhaus tuag at ffocws cliriach ar gynhyrchiant a'r angen i adeiladu ar y seilwaith a'r partneriaethau sydd eisoes wedi'u sefydlu.
5.4 Roedd cynnydd wedi'i wneud ar draws y pedwar maes blaenoriaeth. O ran Ffyniant Gwyrdd, bu buddsoddiad sylweddol mewn ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio, gan sicrhau safle Cymru fel arweinydd ym maes ynni gwynt ar y môr ac economi gylchol. Roedd y Warant i Bobl Ifanc, prentisiaethau, a chymorth wedi'i dargedu at y rheini sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur wedi helpu i gyflawni Sgiliau a Gwaith Teg.
5.5 Roedd Parthau Buddsoddi a Phorthladdoedd Rhydd, sy'n gyrru gweithgynhyrchu uwch, ynni glân, ac arloesedd ar flaen y gad o ran cyflawni Cryfder Rhanbarthol, ac roedd Busnes Cymru, y Banc Datblygu, a'r Strategaeth Arloesi, ynghyd â chefnogi ymchwil a datblygu ac entrepreneuriaeth, wedi helpu i gyflawni Arloesi a Thwf.
5.6 O ran datblygiad yn y dyfodol, byddai'r datganiad llafar yn canolbwyntio ar y Strategaeth Ddiwydiannol a'r sectorau a amlygwyd yn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi.
5.7 Byddai'r datganiad yn amlinellu cryfderau'r sector, a oedd yn cynnwys ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu uwch, AI, ac amddiffyn. Byddai hefyd yn tynnu sylw at feysydd megis y warant i bobl ifanc, prentisiaethau a'r economi gylchol, lle y cafwyd effaith sylweddol.
5.8 O ran y manylion, roedd £2m wedi'i glustnodi i gefnogi busnesau bach a chanolig i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI), a byddai Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn galluogi Undebau Llafur i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y gweithlu, gyda phwyslais arbennig ar gael gwared ar rwystrau i bobl nad ydynt yn ddysgwyr traddodiadol. Yn ogystal, bu newidiadau i'r system gynllunio.
5.9 Byddai'r datganiad hefyd yn ei gwneud yn glir bod y Llywodraeth yn adeiladu economi sy'n deg, yn wydn, ac yn gystadleuol ar lefel fyd-eang.
5.10 Nododd y Cabinet y diweddariad.
Eitem 6: Pecyn Cyllideb Derfynol 2026-2027
6.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo pecyn Cyllideb Derfynol 2026-2027 i'w gyhoeddi ar 20 Ionawr, gan gynnwys dyraniadau lefel MEG. Gofynnwyd i'r Cabinet hefyd nodi'r sefyllfa mewn perthynas â'r trethi datganoledig a'r camau nesaf ar gyfer cwblhau'r ddogfennaeth.
6.2 Ni fyddai unrhyw newidiadau i Gyfraddau Treth Incwm Cymru na'r Dreth Trafodiadau Tir. Fodd bynnag, byddai Gyfradd Safonol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei huwchraddio'n unol â'r chwyddiant mynegai prisiau manwerthu diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, a byddai'r Gyfradd Is yn cael ei chynyddu i gyd-fynd â'r Gyfradd Is yn Lloegr (er mwyn lleihau'r risg o symudiadau gwastraff trawsffiniol).
6.3 O ran y newidiadau ers cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft ym mis Hydref, cytunwyd gyda Phlaid Cymru ym mis Rhagfyr i sicrhau y byddai'r gyllideb yn cael ei phasio'n ddiogel drwy'r Senedd. Arweiniodd hyn at gyllid adnoddau ychwanegol o £112.8m ar gyfer Llywodraeth Leol, i ddarparu cynnydd cyfartalog o 4.5%, gyda phob Cyngor yn derbyn cynnydd o 4% o leiaf. Byddai £180m o gyllid adnoddau hefyd ar gyfer y MEG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n gyfystyr â chynnydd o 3.6% yn gyffredinol, yn bennaf i gefnogi'r GIG. Fel rhan o'r cytundeb, byddai £120m o gyfalaf yn cael ei adael heb ei ddyrannu, fel y byddai ar gael i'r Llywodraeth nesaf.
6.4 Canlyniad hyn oedd bod swm bach o gyllid ar gael i'w ddyrannu.
6.5 Fodd bynnag, roedd rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn ag effaith y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU ar newidiadau i Ardrethi Annomestig ar letygarwch, ac ar dafarndai yn benodol. Nid oedd Trysorlys y DU wedi darparu unrhyw fanylion am y cyhoeddiad eto nac wedi nodi a fyddai unrhyw gyllid canlyniadol. Byddai'n rhy hwyr i wneud unrhyw newidiadau i'r Gyllideb Derfynol, ond byddai unrhyw welliannau yn cael eu hadlewyrchu yng Nghyllideb Atodol Gyntaf 2026-2027.
6.6 Croesawodd y Cabinet y papur.
6.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2026
