Bydd y gost o deithio ar drenau TrC yn cael ei rewi ar gyfer y flwyddyn nesaf, o’r 1 Fawrth.
Wrth i Gymru ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi un o'r cynigion mwyaf hael ar brisiau rheilffyrdd ers dechrau datganoli. Bydd hyn yn cadw mwy o arian ym mhocedi teithwyr ac yn annog mwy o bobl i deithio ar y trên.
Bydd yr holl brisiau ar wasanaethau TrC yn cael eu rhewi am flwyddyn, gan gynnwys tocynnau sengl ymlaen llaw, tocynnau dychwelyd a ffordd ddiweddaraf a mwyaf poblogaidd TrC o deithio, sef talu wrth fynd drwy dapio i fewn thapio allan. TfW yw'r cwmni cyntaf y tu allan i Lundain i gyflwyno'r system hon. Mae eisoes wedi gostwng cost teithio i lawer o bobl yn Ne-ddwyrain Cymru ac mae TrC yn y broses o'i gyflwyno i fwy o ardaloedd yn y dyfodol agos.
Meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:
"Rwy'n falch iawn bod yr holl docynnau tren ar TrC yn mynd i aros ar eu pris presennol am y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i deithwyr ar adeg pan mae llawer yn cael trafferth gyda chostau byw.
"Mae mwy o bobl yn dewis teithio ar y trên yng Nghymru, mae gwasanaethau'n datblygu'n gyflymach ac maen nhw'n fwy dibynadwy.
"Mae hyn o ganlyniad i ni wario £1.1bn yn gwella Llinellau Craidd y Cymoedd a datblygu Metro De Cymru. Rydym hefyd wedi gwario £800m ar drenau newydd sy'n gallu cludo 80% yn fwy o deithwyr.
"Rhewi cost prisiau tocynnau yw ein cam diweddaraf i wneud teithio ar y trên yn fwy deniadol a rhatach.
"Rydym eisoes yn arwain y ffordd yn niwydiant rheilffyrdd y DU gyda TrC yn dod y cwmni trenau cyntaf y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr i gyflwyno'r system docynnau tapio i mewn a thapio allan symlach.
"Mae'r ffordd newydd o dalu eisoes wedi lleihau cost mwy na 3 miliwn o deithiau trên ar draws de-ddwyrain Cymru yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a gyda'r cyflwyniad ar draws gogledd Cymru rownd y gornel mae mwy o bobl ar fin elwa o brisiau rhatach."
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Dyma newyddion gwych i deithwyr. Ochr yn ochr â trenau newydd, gwell gwasanaethau a buddsoddiad i'r dyfodol yn rheilffyrdd Cymru, mae rhewi prisiau yn ategu ein camau i ddarparu tocynnau bysiau mwy fforddiadwy a chapio prisiau i bobl ifanc."
