Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cynrychiolais Lywodraeth Cymru yng nghyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2026.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Gwir Anrhydeddus Darren Jones AS, Prif Ysgrifennydd Prif Weinidog y DU, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a'r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol. Bydd cyd-hysbysiad, a fydd yn cynnwys manylion llawn y rhai eraill a oedd yn bresennol, yn cael ei gyhoeddi maes o law yma (Saesneg yn unig). Roedd diogelwch etholiadol a Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19 ymhlith yr eitemau a drafodwyd.
Croesewais y dull cydweithredol ar gyfer ymdrin â diogelwch etholiadol, gan gynnwys estyn amddiffyniadau Operation Ford i holl Aelodau'r Senedd a phob ymgeisydd i'r Senedd. Gan nodi ein cyfraniad at y Tasglu Amddiffyn Democratiaeth, y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip yn bresennol ynddo ym mis Mawrth, cyfeiriais hefyd at y gwaith o gysoni ein strwythurau gwydnwch â threfniadau'r DU.
Tynnwyd sylw hefyd at ein gwaith agos gyda'r Comisiwn Etholiadol, partneriaid plismona a Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru cyn yr etholiadau ym mis Mai. Croesewais adolygiad Philip Rycroft o ymyrraeth dramor a chyhoeddi Bil Cynrychiolaeth y Bobl ar 12 Chwefror, gan gynnwys y darpariaethau arfaethedig i fynd i'r afael ag ymyrraeth dramor ac achosion o gam-drin ymgeiswyr a staff etholiadol. Eglurais fod gwaith ar y gweill ar gymhwyso'r Bil i Gymru a'r gofynion cysylltiedig o ran sicrhau cydsyniad deddfwriaeth. Pwysleisiais hefyd bwysigrwydd bod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymwybodol o amseriad diddymu'r Senedd.
O ran Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19, nodais fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi ei hymateb ar 16 Mawrth, cyn yr etholiadau i'r Senedd. Wrth fynd i'r afael â'r argymhellion ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol, amlinellais mai ein nod yw sicrhau cydweithio effeithiol rhwng y pedair cenedl, gan hefyd barchu'r setliadau datganoli yn llawn. Mae hyn yn gofyn am strwythurau gwneud penderfyniadau sy'n galluogi trafodaethau priodol a chonsensws pan fo hynny'n briodol, gan hefyd sicrhau bod penderfyniadau ar faterion datganoledig yn aros yn nwylo llywodraethau datganoledig.
Oherwydd cyfyngiadau amser, ni chafodd yr eitem ar yr agenda ynghylch cydsyniad deddfwriaethol a'r gwaith o lunio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar Gonfensiwn Sewel ei thrafod yn ystod y cyfarfod. Felly, ysgrifennais yn ddiweddarach at Lywodraeth y DU i nodi safbwynt sefydledig Llywodraeth Cymru, sef y byddai sail statudol a chryfhau'r Confensiwn yn cynnig mesurau diogelu hanfodol ar gyfer datganoli. Wrth wneud hynny, nodais y gallai ymrwymiad maniffesto Llywodraeth y DU i gryfhau Confensiwn Sewel drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth fod yn gam adeiladol i'r cyfeiriad cywir.
Yn fy ngohebiaeth, rwyf wedi gofyn am sicrwydd ynghylch dull gweithredu Llywodraeth y DU o ran Araith y Brenin sydd ar ddod, yn enwedig i sicrhau bod amseru'r etholiad i'r Senedd a'r cyfnod o seibiant a diddymu cyn hynny yn cael eu hystyried. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Confensiwn Sewel yn cael ei barchu wrth i raglen ddeddfwriaethol gyfredol y DU gael ei chwblhau, a phwysigrwydd cynllunio gofalus a rhannu gwybodaeth yn gynnar i alluogi ymgysylltu priodol cyn Araith y Brenin ac ar ôl hynny.
Disgwylir i gyfarfod nesaf o'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol gael ei gynnal yn ystod haf 2026 dan gadeiryddiaeth Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.
