Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb gweithredol

Ym mis Tachwedd 2025, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad cyflym allanol o uniondeb a llywodraethiant data mewn perthynas â’r ystadegau Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (RTT) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd hyn yn dilyn atal dros dro yr ystadegau RTT a oedd wedi’u cyhoeddi ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ganlyniad i amryfusedd ac anghysondebau yn y data rhestrau aros yr adroddwyd arnynt.

Ymchwiliodd yr adolygiad i lywodraethiant, prosesau technegol, materion codio a mecanweithiau sicrwydd ar draws y sefydliad a’r system genedlaethol yn ehangach.

Mae’r adolygiad yn cadarnhau bod y modd yr ymdriniwyd â chod data penodol wedi arwain at anghysondebau wrth adrodd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach wedi cryfhau ei fframwaith llywodraethiant misol, wedi cyflwyno trefniadau cysoni a chymeradwyo gwell ac wedi cywiro achosion data hanesyddol yn ôl hyd at fis Ebrill 2025.

Mae’r adolygiad hefyd yn cadarnhau bod hepgor cod data penodol wrth lunio adroddiadau cyfanredol wedi arwain at danadrodd yn yr ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, pan gafodd y cod hwn ei gynnwys wedi hynny, arweiniodd hyn at ychydig o oradrodd i ddechrau. Mae’r bwrdd iechyd bellach wedi cywiro data hanesyddol yn ôl hyd at fis Ebrill 2025. Gwnaed gwelliannau hefyd i’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd a chymeradwyo rheolaidd, ac mae ei fframwaith llywodraethiant misol wedi’i gryfhau.

Mae’r adolygiad yn cynnig cyfle i edrych ar ba fath o drefniadau ddylai fod ar lefel Cymru gyfan o ran codau llwybrau nad ymgynghorydd sy’n arwain arnynt. Nid oes cysylltiad rhwng hyn a’r rheswm sylfaenol dros y materion data diweddar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ond dylid bwrw ati i bennu trefniadau cenedlaethol er mwyn rhoi hyder bod safonau data yn cael eu cymhwyso’n gyson ledled Cymru.

Erbyn 19 Rhagfyr 2025, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyflwyno ffeiliau RTT diwygiedig ar gyfer misoedd Ebrill-Tachwedd 2025 i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW). Cafodd y ffeiliau diwygiedig eu llwytho drwy systemau cenedlaethol, ac fe’u hadolygwyd gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) Llywodraeth Cymru cyn yr amserlenni ar gyfer eu cyhoeddi. Proseswyd y data gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer cyhoeddi data diwygiedig, wedi’u diweddaru, cyn gynted â phosibl, yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) wedi cymeradwyo’r camau a gymerwyd mewn ymateb i’r materion data. O ganlyniad, mae wedi bod yn bosibl i adroddiadau cywir a dibynadwy gael eu cyhoeddi ar 13 Ionawr 2026.

Cofnodwyd gweithgarwch cleifion yn gywir ar y Rhestr Triniaethau Cleifion (PTL) bob amser, heb unrhyw effaith ar y driniaeth i gleifion. Mae camau i gryfhau’r broses gysoni, fel sy’n ofynnol, ar gyfer adroddiadau a gynhyrchir o’r PTLs wythnosol a misol wedi cael eu rhoi ar waith. At hynny, mae’r mater a’r prosesau wedi’u rhannu â darparwyr eraill a’r tîm cenedlaethol i gryfhau cywirdeb yr adroddiadau ar berfformiad yn gyffredinol ar draws GIG Cymru.

Gwneir argymhellion clir i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i GIG Cymru ar gyfer cryfhau prosesau.

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau’r adolygiad cyflym allanol a gomisiynwyd i ddeall materion sy’n effeithio ar gywirdeb a llywodraethiant adroddiadau RTT ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a mynd i’r afael â hwy. Mae’n tynnu ar ddogfennaeth, dadansoddiadau technegol a thri chyfarfod adolygu ffurfiol a gynhaliwyd rhwng y tîm adolygu a’r bwrdd iechyd.

Diben yr adolygiad oedd:

  • Asesu cywirdeb, cyflawnrwydd a llywodraethiant y data RTT a gyflwynir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • nodi’r achosion technegol a gweithdrefnol sylfaenol sydd y tu ôl i’r anghysondebau data
  • sicrhau cydymffurfiaeth â safonau adrodd RTT cenedlaethol
  • adfer hyder mewn ystadegau swyddogol
  • argymell gwelliannau yn lleol ac yn genedlaethol

Cafodd yr adolygiad ei arwain gan Lywodraeth Cymru gyda chynrychiolaeth o:

  • Dîm Cyflawni a Pherfformiad y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar: sicrhau perfformiad
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DCHW): dilysu technegol a phrosesu ffeiliau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) Llywodraeth Cymru: uniondeb y data a hyder y cyhoedd mewn ystadegau
  • Perfformiad a Gwella GIG Cymru: sicrwydd systemau a meincnodi
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (cynrychiolydd cymheiriaid): meithrin dealltwriaeth well drwy gymharu a gosod her weithredol

Darparodd DHCW a KAS hefyd sicrwydd ar lefel system o ran llwytho ffeiliau, gwiriadau dilysu a phrosesau cymharu tueddiadau cenedlaethol.

Crynodeb o’r digwyddiad

Fel rhan o fenter genedlaethol i wella mynediad at apwyntiadau cyntaf fel claf allanol, roedd trefniadau wedi’u gwneud i niferoedd uchel o gleifion gael eu gweld ym mis Medi 2025 gan ddarparwr allanol. Fel ffordd o nodi cleifion i gael eu gweld o dan y fenter hon, newidiodd y bwrdd iechyd god clinigydd y llwybr yn god generig (CONSG) a ddefnyddir pan nad yw’n hysbys eto pwy fydd y clinigydd arweiniol ar gyfer llwybr gofal.

Roedd cleifion sy’n aros am driniaeth wedi’u cynnwys yn gywir yn yr wybodaeth reoli ddyddiol a’r adroddiadau wythnosol ar gyfer y cleifion hyn. Fodd bynnag, roeddent wedi’u hepgor o ddata RTT ddiwedd y mis o ganlyniad i wall yn y broses adrodd a oedd yn eithrio’r cod CONSG.

Tynnodd y niferoedd anarferol o uchel o gleifion a drosglwyddwyd i’r cod CONSG, ac a eithriwyd wedi hynny, sylw’r Tîm Data, Gwybodaeth a Dealltwriaeth at y gwahaniaeth rhwng yr adroddiadau wythnosol a’r sefyllfa ddiwedd y mis ym mis Medi 2025.

Cuddiwyd y gwall o bosibl o ganlyniad i’r disgwyliadau y byddai lleihad sylweddol yn y niferoedd oedd yn aros ym mis Medi oherwydd bod mwy o weithgarwch wedi’i gynnal, ac yn sgil diffyg triongli wrth ymgymryd â’r broses gysoni. Nid oedd y gweithdrefnau i gysoni adroddiadau wythnosol a misol ar berfformiad yn genedlaethol wedi amlygu’r mater.

Gwnaed cywiriad i broses adrodd y bwrdd iechyd i sicrhau bod yr holl lwybrau wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau ddiwedd y mis ar gyfer mis Hydref. Er bod cyflwyniad data mis Hydref wedi’i wneud ar amser ac roedd yn cynnwys y cleifion hyn yn gywir, ar lefel genedlaethol, rhybuddiwyd bod y symudiad a fu rhwng mis Medi a mis Hydref 2025 yn anghysondeb data gan fod niferoedd y cleifion oedd yn aros wedi cynyddu’n gyffredinol.

Y prif faterion a nodwyd

Bylchau o ran llywodraethiant a sicrwydd

Mae tystiolaeth o ymateb y bwrdd iechyd yn cadarnhau bod angen gwiriadau llywodraethiant gwell a llwybrau uwchgyfeirio clir ar brosesau cynharach.

Roedd y bylchau allweddol yn cynnwys:

  • triongli annigonol rhwng y timau gweithrediadau, gwybodaeth a pherfformiad
  • prosesau cysoni nad ydynt wedi’u datblygu’n llawn
  • sylwadau dilysu sy’n aml yn brin adeg y cam cyflwyno cenedlaethol
  • goruchwyliaeth gan y tîm gweithredol nad yw wedi’i hymwreiddio’n llawn yn y cylch adrodd adeg cyfnodau o wyliau blynyddol

Materion technegol (CONSG, EGU, SDEC, Trawma)

Defnyddir y cod CONSG gan y bwrdd iechyd i nodi carfanau o gleifion pan nad yw’n hysbys eto pa glinigydd fydd yn darparu’r gofal. Cafodd y cod hwn ei hepgor o’r adroddiadau cryno ddiwedd y mis o ganlyniad i wall wrth sefydlu’r cod ac wrth ei reoli fel rhan o’r prosesau adrodd. Cywirwyd y gwall ar gyfer adroddiadau mis Hydref i gynnwys yr holl lwybrau a gofnodwyd yn erbyn y cod hwn.

Canfu’r adolygiad, er bod y camdrafod a ddigwyddodd yn achos y cod CONSG wedi achosi tanadrodd anfwriadol i ddechrau o ran y llwybrau ar gyfer y misoedd o fis Ebrill i fis Medi, bu goradrodd hefyd yn sgil y cywiriad a wnaed ym mis Hydref. 

Cynhaliwyd dadansoddiad o’r holl lwybrau a gofnodwyd gyda’r cod CONSG a nodwyd bod goradrodd wedi digwydd mewn perthynas â thair carfan:

  • Asesu Beichiogrwydd Cynnar (EGU)
  • Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod (SDEC)
  • Clinigau trawma

Mae’r carfanau hyn yn gysylltiedig â llwybrau nas gynlluniwyd ac felly nid adroddir arnynt fel rhan o’r ystadegau RTT. Cafodd llwybrau eu dilysu a gwnaed cywiriadau â llaw fel yr oedd yn briodol. 

Roedd angen gwneud cywiriadau â llaw ar gyfer y misoedd o fis Ebrill-Tachwedd ac maen nhw bellach wedi’u cymhwyso gan dîm digidol y bwrdd iechyd.

Codau llwybrau nad ymgynghorydd sy’n arwain arnynt (NC)

Wrth asesu’r gydymffurfiaeth â safonau adrodd RTT, codwyd y cwestiwn gan yr adolygiad o sut y mae llwybrau priodol y mae ymgynghorydd yn arwain arnynt a rhai nad ymgynghorydd sy’n arwain arnynt yn cael eu diffinio a’u nodi ar gyfer adrodd arnynt. Cytunwyd ar y canlynol:

  • nid yw llwybrau NC, heblaw am rai eithriadau, o fewn cwmpas adrodd RTT
  • mae’r diffiniad o’r llwybrau sydd o fewn cwmpas adrodd RTT yn fater safonau data ehangach i Gymru gyfan, mater y mae’n ofynnol cynnal adolygiad cenedlaethol ohono
  • dylid bwrw ati ag unrhyw adolygiad i’r hyn a gwmpesir wrth adrodd ar RTT fel darn o waith ar wahân yn y dyfodol, ac ni fyddai’r mater hwn yn achosi oedi o ran amserlenni BIPBC ar gyfer ailgyflwyno neu gyhoeddi

Gwiriadau lefel system gyfan (DHCW a KAS)

Ar lefel system gyfan, cafwyd gwell dealltwriaeth mewn perthynas â’r pwyntiau allweddol canlynol: 

  • Mae DHCW yn perfformio gwiriadau llwyth (rheolau gwrthod ffeiliau) a gwiriadau rhybuddion dilysu
  • Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth y bwrdd iechyd ar gyfer rhybuddion dilysu; ychydig iawn o sylwadau a roddir yn aml
  • Mae KAS yn cynnal dadansoddiad o dueddiadau, cysondeb a dilysrwydd data:
    • nodwyd yr anghysondeb yn y pen draw drwy gymharu data misol swyddogol â gwybodaeth reoli wythnosol
    • nid oedd gwneud hyn yn rhan safonol o drefniadau sicrhau ansawdd rheolaidd KAS ond bydd y cam hwn yn cael ei gynnwys fel rhan o’r prosesau rheolaidd yn y dyfodol
  • bydd timau cenedlaethol yn cryfhau gwiriadau cymharu tueddiadau yn y dyfodol

Dangosyddion Dysgu Cymru Gyfan

Mae’r pwyntiau dysgu i Gymru Gyfan yn cynnwys:

  • Mae patrymau tueddiadau yng ngweithgarwch y GIG yn y flwyddyn adrodd bresennol wedi bod yn anarferol iawn, gan olygu bod y dulliau cyffredin o ganfod amrywiadau yn llai sensitif.
  • Tynnwyd sylw at drefniadau dilysu RTT dyddiol gan fyrddau iechyd eraill fel yr ymarfer gorau. Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnal adroddiadau RTT mewnol dyddiol.
  • Mae’r holl fyrddau iechyd wedi cael eu hatgoffa i wella’r craffu o fis i fis.

Y camau gweithredu a gymerwyd hyd yma

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymryd camau i gryfhau llywodraethiant lleol gan gynnwys: 

  • mabwysiadu gweithdrefn weithredu safonol (SOP) gryfach sy’n cwmpasu diwrnodau 9-10 o’r cylch, cymeradwyaeth y tîm gweithredol, a llifau dilysu, gan gynnwys defnyddio triongli rhwng timau gwybodaeth, perfformiad a gweithredol
  • cyflwyno templed cysoni (cyfrif cofnodion, deltas, cofnodi addasiadau)
  • ffurfioli’r cyfathrebu a darparu mewnbwn i ddatblygu gweithdrefnau gweithredu safonol rhwng y tîm Digidol, System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS), timau gweithredol a swyddogion sy’n arwain ar berfformiad

cymerwyd camau yn genedlaethol i ddarparu sicrwydd technegol, gan gynnwys:

  • eglurhad manwl o resymeg Iaith Ymholiadau Strwythuredig (SQL) gyda chynrychiolwyr DHCW a swyddogion Perfformiad a Gwella GIG Cymru
  • cadarnhad nad oes unrhyw addasiadau â llaw yn digwydd ar lefel llwybr y tu allan i brosesau dilysu ddiwedd y mis
  • mae cywiriadau â llaw wedi’u cymhwyso ar gyfer misoedd Ebrill i Tachwedd 2025
  • mae ffeiliau diwygiedig ar gyfer misoedd Ebrill-Tachwedd 2025 wedi’u cyflwyno a’u llwytho gan DHCW

Cyhoeddwyd ystadegau RTT diwygiedig, wedi’u diweddaru, ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a GIG Cymru ar StatsCymru ar 13 Ionawr 2026. Roedd hyn yn cynnwys ffigurau swyddogol hyd at fis Hydref 2025 a data dros dro ar gyfer mis Tachwedd, gan ddiweddaru data Cymru a BIPBC i fod yn gyfredol.

Ailddechreuodd adroddiadau RTT rheolaidd yn y datganiad ystadegol misol nesaf a gynlluniwyd, ar 22 Ionawr 2026, a oedd yn cynnwys ffigurau swyddogol ar gyfer mis Tachwedd a data dros dro ar gyfer mis Rhagfyr.

Cysoni a ailgyflwyno data

Mae’r bwrdd iechyd wedi mynd i’r afael â’r rheswm sylfaenol dros y mater data a’r gwendidau yn y trefniadau sicrhau ansawdd a goruchwyliaeth lleol. 

Darparwyd data diwygiedig ar gyfer mis Ebrill i fis Awst 2025 a data wedi’u ddiweddaru ar gyfer mis Medi i fis Tachwedd 2025 gan y bwrdd iechyd. Mae gwiriadau sicrhau ansawdd yn cadarnhau bod y data yn gyson â’r tueddiadau disgwyliedig ar sail yr wybodaeth weithredol.

Yn fwy eang, ac ar wahân i’r mater data sy’n hysbys, mae’r bwrdd iechyd wedi dangos ei fod yn cydymffurfio â’r safonau data gorfodol ar gyflawnrwydd a chywirdeb adroddiadau RTT. Ynghyd â’r cadarnhad bod y llwybrau coll bellach wedi cael eu cynnwys, mae hyn yn darparu’r sicrwydd angenrheidiol i adfer adroddiadau RTT llawn ar gyfer Cymru.

Mae effaith y diwygiadau data hyn ar y mesurau allweddol i Gymru a BIPBC wedi’i chyflwyno isod.

Ffigur 1:  Cyfanswm y llwybrau sy’n aros, ffigurau gwreiddiol a diwygiedig ar gyfer Cymru, mis Ebrill 2025 i fis Awst 2025
 Mis (2025)Data gwreiddiolData diwygiedigNewid% y Newid
 Cyfanswm y llwybrau sy’n aros Ebrill790,459 791,607 +1,148 0.1%
Mai796,679 798,180 +1,501 0.2%
Mehefin794,543 796,396 +1,853 0.2%
Gorffennaf793,058 795,433 +2,375 0.3%
Awst790,576 795,360 +4,784 0.6%
Ffigur 2: Llwybrau sy’n aros 52 wythnos neu ragor, ffigurau gwreiddiol a diwygiedig ar gyfer Cymru, mis Ebrill 2025 i fis Awst 2025
 Mis (2025)Data gwreiddiolData diwygiedigNewid% y Newid
Llwybrau sy’n aros 52 wythnos neu ragorEbrill159,549 159,743 +1940.1%
Mai162,958 163,234 +276 0.2%
Mehefin157,027 157,325 +298 0.2%
Gorffennaf156,143 156,722 +579 0.4%
Awst156,188 158,748 +2,560 1.6%
Ffigur 3: Llwybrau sy’n aros 104 wythnos neu ragor, ffigurau gwreiddiol a diwygiedig ar gyfer Cymru, mis Ebrill 2025 i fis Awst 2025
 Mis (2025)Data gwreiddiolData diwygiedigNewid% y Newid
Llwybrau sy’n aros 104 wythnos neu ragorEbrill9,625 9,650 +25 0.3%
Mai10,254 10,338 +84 0.8%
Mehefin7,447 7,550 +103 1.4%
Gorffennaf8,005 8,110 +105 1.3%
Awst8,703 8,848 +145 1.7%

Ar gyfer mis Awst 2025, cynyddodd cyfanswm y llwybrau sy’n aros yng Nghymru o tua 4,784 (0.6%) o’i gymharu â’r ffigur gwreiddiol a gyhoeddwyd. Mae hyn yn cynnwys tua 2,560 o lwybrau sy’n aros mwy na 52 wythnos (cynnydd o 1.6%) a 145 o lwybrau sy’n aros mwy na 104 wythnos (cynnydd o 1.7%). 

Mae graddfa’r diwygiadau yn lleihau ar gyfer misoedd cynharach oherwydd bod llai o weithgarwch wedi’i gomisiynu gan ddarparwyr annibynnol yn ychwanegol at ddarpariaeth y byrddau iechyd lleol. Er enghraifft, ar gyfer mis Ebrill, mae cynnydd o 1,148 o lwybrau i gyd (0.1%), yr oedd 194 ohonynt yn aros mwy na 52 wythnos a 25 ohonynt yn aros mwy na 104 wythnos. 

Mae hyn yn gyson â’r ffaith, o fis Awst, fod cyllid ychwanegol wedi bod ar gael i fyrddau iechyd i gynyddu capasiti drwy gomisiynu gweithgarwch gan ddarparwyr annibynnol.

Ffigur 4: Cyfanswm y llwybrau sy’n aros ffigurau gwreiddiol a diwygiedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mis Ebrill 2025 i fis Awst 2025
 Mis (2025)Data gwreiddiolData diwygiedigNewid% y Newid
Cyfanswm y llwybrau sy’n arosEbrill198,696 199,844  +1,148 0.6%
Mai200,594 202,095 +1,501 0.7%
Mehefin199,744 201,597 +1,853 0.9%
Gorffennaf200,466 202,841 +2,375 1.2%
Awst199,131 203,915 +4,784 2.4%
Ffigur 5: Llwybrau sy’n aros 52 wythnos neu ragor ffigurau gwreiddiol a diwygiedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mis Ebrill 2025 i fis Awst 2025
 Mis (2025)Data gwreiddiolData diwygiedigNewid% y Newid
Llwybrau sy’n aros 52 wythnos neu ragorEbrill159,549 159,743 +194 0.4%
Mai162,958 163,234 +276 0.5%
Mehefin157,027 157,325 +298 0.6%
Gorffennaf156,143 156,722 +579 1.1%
Awst156,188 158,748 +2,560 4.9%
Ffigur 6: Llwybrau sy’n aros 104 wythnos neu ragor ffigurau gwreiddiol a diwygiedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mis Ebrill 2025 i fis Awst 2025
 Mis (2025)Data gwreiddiolData diwygiedigNewid% y Newid
Llwybrau sy’n aros 104 wythnos neu ragorEbrill159,549 159,743 +25 0.4%
Mai2,958 163,234 +84 1.3%
Mehefin157,027 157,325 +103 1.9%
Gorffennaf156,143 156,722 +105 1.9%
Awst156,188 158,748 +145 2.7%

Ar gyfer BIPBC, mae’r diwygiadau yn fwy nag ar gyfer Cymru fel cyfran o’r ffigurau gwreiddiol a gyhoeddwyd. 

Ar gyfer mis Awst 2025, cynyddodd cyfanswm y llwybrau sy’n aros o 2.4% yn ôl y ffigurau diwygiedig; roedd cynnydd o 4.9% yn y llwybrau sy’n aros mwy na 52 wythnos; a chynnydd o 2.7% yn y llwybrau sy’n aros mwy na 104 wythnos.

Mae graddfa’r diwygiadau yn lleihau ar gyfer misoedd cynharach. Ar gyfer mis Ebrill 2025, mae cynnydd o 0.6% yng nghyfanswm y llwybrau sy’n aros; cynnydd o 0.4% yn y llwybrau sy’n aros mwy na 52 wythnos; a chynnydd o 0.4% yn y llwybrau sy’n aros mwy na 104 wythnos.

Yr argymhellion

Mae’r adolygiad yn gwneud argymhellion i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y dylid:

  • sefydlu’n llawn weithdrefn weithredu safonol (SOP) gryfach a thempled cysoni ar draws cylchoedd adrodd gan gynnwys goruchwyliaeth gan y tîm gweithredol a llwybrau uwchgyfeirio
  • cynnal cofnodion dilysu cronnol, gan gynnwys cyfraniadau sicrwydd lefel gwasanaeth
  • parhau â threfniadau dilysu strwythuredig ar gyfer carfanau yr effeithir arnynt (EGU, SDEC, trawma) tan iddynt sefydlogi
  • cyflwyno archwiliadau chwarterol o gleifion nas adroddwyd arnynt a chofnodion prosesu SQL
  • gwella ansawdd sylwadau gwiriadau dilysu gorfodol adeg y cam cyflwyno
  • cynnal “adolygiad ôl-weithredu” mewnol ddechrau 2026

Mae’r adolygiad hefyd yn gwneud argymhellion i GIG Cymru a Llywodraeth Cymru y dylid:

  • datblygu fframwaith safonau gofynnol ar gyfer llywodraethu a dilysu adroddiadau RTT i Gymru gyfan
  • sefydlu adolygiad cenedlaethol o gwmpas adroddiadau RTT mewn perthynas â llwybrau y mae ymgynghorydd yn arwain arnynt a llwybrau nad ymgynghorydd sy’n arwain arnynt
  • cryfhau gwiriadau cymharu tueddiadau DHCW/KAS, rhybuddion awtomatig a gwiriadau sicrhau ansawdd terfynol yn erbyn yr wybodaeth weithredol wythnosol
  • hyrwyddo mabwysiadu arferion dilysu RTT mewnol dyddiol neu bron yn ddyddiol
  • gweithredu archwiliadau adolygiadau gan gymheiriaid o setiau data RTT rhwng y byrddau iechyd

Geirfa

BIPBC: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
CONSG: Cod generig a ddefnyddir pan nad yw’n hysbys eto pwy fydd y clinigydd arweiniol ar gyfer llwybr gofal
DHCW: Iechyd a Gofal Digidol Cymru
EGU: Uned Gynaecoleg Frys
KAS: Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru
NC: Cod llwybrau nad ymgynghorydd sy’n arwain arnynt
OSR: Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau
PTL: Rhestr Triniaethau Cleifion
RTT: Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth
SDEC: Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod 
SQL: Iaith Ymholiadau Strwythuredig
WPAS: System Gweinyddu Cleifion Cymru