Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Bydd aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi gosod memorandwm cydsyniad offeryn statudol ("y memorandwm") mewn perthynas â Rheoliadau Deddf Amrywogaethau Planhigion (Diwygio) 2026 ("y Rheoliadau"), a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 25 Chwefror.
Ceisiodd Gweinidog y DU dros Fioddiogelwch, Ffiniau ac Anifeiliaid, y Farwnes Hayman, gytundeb i wneud y Rheoliadau. Mae'r Rheoliadau'n gymwys i Gymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.
Gwneir y Rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer pwerau a roddir gan adran 14(2) o Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023. Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r diffiniad o "small farmer" yn adran 9(10) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997 i ddarparu diffiniad cliriach yn unol â'r bwriad polisi ac i ddileu'r posibilrwydd o ddryswch yn ei ddehongliad. Mae'r diffiniad o "small farmer" yn gysylltiedig â'r eithriad yn adran 9(4) a thalu tâl teg i ddeiliaid hawliau bridwyr planhigion (math o eiddo deallusol). Bwriad y polisi oedd i'r elfen o'r eithriad "small farmer" yn adran 9(10)(b) fod yn berthnasol i swm yr amrywogaethau a dyfir mewn ardal, nid i bob amrywogaeth a dyfir mewn ardal, a dyma yw bwriad y polisi o hyd.
Rwyf wedi gosod y memorandwm yn unol â Rheol Sefydlog 30A. Rwy'n ystyried bod y Rheoliadau'n offeryn statudol perthnasol gan eu bod yn gwneud darpariaeth o ran Cymru sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru ac nad ydynt yn ddarpariaethau deilliadol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol, atodol nac arbed sy’n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud a'i diwygio yng Nghymru, y tro hwn, ystyrir ei bod yn briodol i'r Ysgrifennydd Gwladol ddeddfu ar lefel Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Hawliau Bridwyr Planhigion yn cael eu gweinyddu gan 'Reolwr' y Swyddfa Hawliau Amrywogaethau Planhigion. Penodir y Rheolwr gan Weinidogion Cymru, y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae swyddogion o bob Llywodraeth yn gweithio o dan Fframwaith Cyffredin dros dro y DU ar Amrywogaethau a Hadau Planhigion. Mae'r ddarpariaeth y mae'r Rheoliadau yn ei diwygio yn Neddf 1997 yn ymestyn i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'r polisi sy'n sail i'r Rheoliadau wedi'i gysoni ar draws eu priod Lywodraethau ac mae'r dull diwygio hwn yn sicrhau cysoni'r gyfundrefn hawliau bridwyr planhigion yn amserol ar draws eu tiriogaethau.
Er nad yw'r Rheoliadau yn newid cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd na phwerau gweithredol Gweinidogion Cymru, maent yn diwygio deddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig, ac felly rwyf wedi ceisio cytundeb y Senedd.
Er na fydd y Rheoliadau yn cael eu gwneud yn ddwyieithog, nodaf nad oedd Deddf 1997 ei hun wedi'i gwneud yn ddwyieithog.
Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n rhoi'r manylion am darddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma.
