Yr haf hwn, bydd cyfres o ddathliadau arbennig yn nodi 850 mlynedd ers i’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf gael ei chynnal, gan greu cyfle i ymfalchïo yn hanes diwylliannol Cymru ac annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg.
Gyda chefnogaeth o £250,000 gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd y rhaglen yn dod â stori'r Eisteddfod gyntaf yn fyw drwy weithgareddau addysgol, creadigol a chymunedol. Ei nod yw ysbrydoli pobl i ddefnyddio'r Gymraeg, cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol a phontio’r gorffennol â’r presennol.
Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd yng Nghastell Aberteifi yn 1176, gyda beirdd a cherddorion yn cystadlu mewn digwyddiad a ddatblygodd i fod yn sylfaen i'r traddodiad modern. Bydd Eisteddfod y Garreg Las eleni yn cael ei chynnal yn Llantwd, lai na phedair milltir o safle Eisteddfod 1176, gan greu cysylltiad uniongyrchol rhwng y gorffennol a'r presennol.
Mae elfen gymunedol gref i’r gweithgareddau yn y cyfnod hyd at yr Eisteddfod, gyda phererindod dan arweiniad pyped enfawr o’r Arglwydd Rhys yn ymweld â phentrefi o amgylch y dalgylch wrth deithio o Dyddewi i Gastell Aberteifi.
Bydd cyfle hefyd i blant yr ardal fwynhau cynhyrchiad rhyngweithiol am hanes yr Arglwydd Rhys, gan gyflwyno gwreiddiau’r Eisteddfod i genhedlaeth newydd a’u hannog i ymddiddori yn ein diwylliant.
Bydd wythnos yr Eisteddfod (1 i 8 Awst) hefyd yn cynnwys pob math o weithgareddau a digwyddiadau sy’n dathlu cyrraedd yr 850, gan asio’r gorffennol gyda’r presennol ar draws pob un o’r llwyfannau amrywiol.
Bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi ymgyrch ddigidol i ymestyn y dathliadau ar-lein, gan godi proffil yr Eisteddfod a chyflwyno ei stori i gynulleidfaoedd newydd ledled Cymru ac yn rhyngwladol.
Fel digwyddiad diwylliannol mwyaf Cymru, mae'r Eisteddfod yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Bydd y cyllid yn ogystal yn cefnogi gwaith yr Eisteddfod i gyflwyno mesurau ymarferol pellach i leihau allyriadau a helpu'r ŵyl i barhau i arwain y ffordd fel yr ŵyl gyntaf yng Nghymru i gyrraedd net sero.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses:
”Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn ein galluogi ni i nodi pen blwydd mor arbennig yn hanes yr Eisteddfod. Bydd elfennau gweladwy iawn i’r cynllun , ac yn sicr fe fydd yr orymdaith ar draws y dalgylch yn sicr o godi ymwybyddiaeth am yr ŵyl, ein hiaith a’n diwylliant wrth deithio.
“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth i’n gwaith yn y maes cynaliadwyedd, sy’n elfen hollbwysig o brosiect yr Eisteddfod."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:
"Mae'r Eisteddfod wedi siapio'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ers cenedlaethau, gan ysbrydoli rhai o'n hartistiaid mwyaf talentog a chefnogi cymunedau lleol a'r economi ehangach.
"Rwy'n falch o gefnogi'r digwyddiadau pen-blwydd hyn. Maent yn anrhydeddu'r gorffennol, yn dathlu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg heddiw, ac yn cyflwyno'r Eisteddfod i gynulleidfaoedd newydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt."
