Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae eleni yn nodi ugain mlynedd o Dechrau'n Deg, rhaglen sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad hir sefydlog i wella canlyniadau i fabanod, plant ifanc a'u teuluoedd ledled Cymru.
Sefydlwyd Dechrau'n Deg i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaol i gyfleoedd bywyd plant dan bedair oed sy'n byw yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae pedair elfen graidd y rhaglen; gofal plant o ansawdd wedi'i ariannu'n llawn, cymorth rhianta, cysylltiad amlach ag ymwelwyr iechyd a help ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu yn parhau i ddarparu sylfaen gref sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar.
Ers ei sefydlu, mae Dechrau'n Deg wedi parhau i esblygu, gan dynnu ar dystiolaeth, profiad cyflwyno a mewnwelediadau sy'n dod i'r amlwg i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ymatebol, yn effeithiol ac yn canolbwyntio ar roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant.
Mae'r pen-blwydd hwn yn garreg filltir bwysig. Mae'n dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fo Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chymunedau'n gweithio gyda'i gilydd gyda bwriad a phenderfyniad a rennir. Mae Dechrau'n Deg yn parhau i fod yn rhan ganolog o'n rhaglen blynyddoedd cynnar ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei rôl hanfodol yn y gwaith o wella canlyniadau i fabanod, plant ifanc a'u teuluoedd.
O'r cychwyn cyntaf, mae awdurdodau lleol wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio a chyflwyno Dechrau'n Deg. Mae eu harweinyddiaeth, eu hymroddiad a'u dealltwriaeth ddofn o anghenion lleol yn sicrhau bod cefnogaeth yn cyrraedd y babanod, plant ifanc a theuluoedd sy'n cael y budd mwyaf ohono. Mae cydweithwyr ym maes iechyd yn gwneud cyfraniad hanfodol; mae eu cyngor cynnar a'u harweiniad yn helpu teuluoedd i deimlo'n wybodus a'u bod yn cael eu cefnogi, gan sicrhau bod teuluoedd yn derbyn y cymorth iawn ar yr adeg iawn.
Mae'r gweithlu gofal plant wedi bod yn ganolog i lwyddiant gofal plant Dechrau'n Deg dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae eu proffesiynoldeb, eu gofal a'u hymrwymiad yn creu amgylcheddau diogel, ymgeleddgar sy'n helpu plant i ddatblygu hyder a gosod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol.
Wrth i ni edrych tuag at y dyfodol, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae'r broses barhaus o ehangu gofal plant o ansawdd uchel i blant dwyflwydd oed, gan gryfhau'r ddarpariaeth yn y Gymraeg ledled Cymru ar yr un pryd, yn ymrwymiad allweddol i'r llywodraeth hon.
Mae cynnig cyfle i deuluoedd gael gafael ar y ddarpariaeth gofal plant hon yn helpu pob plentyn i gael y dechrau gorau mewn bywyd, sy'n golygu bod pob teulu yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi a phob cymuned yn gweld manteision hirdymor buddsoddiad cynnar.
Mae Dechrau'n Deg yn dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn yn buddsoddi'n gynnar, yn gwrando ar gymunedau ac yn gweithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau babanod, plant ifanc a theuluoedd ledled Cymru.
