Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Chwefror 2026
Fframwaith uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan gynnwys y meini prawf ymyrryd ac isgyfeirio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Tachwedd 2025, mae lefelau uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel a ganlyn:
- Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio
- Lefel 4 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal brys a gofal mewn argyfwng
Lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf ond un yn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio'r GIG. Caiff ei chymhwyso pan fydd sefydliadau yn wynebu problemau difrifol a phan fydd pryderon na allant wneud y gwelliannau angenrheidiol heb gymorth allanol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd ac yn cydgysylltu camau gweithredu ac yn cyfarwyddo ymyriadau uniongyrchol i gefnogi'r bwrdd iechyd i atgyfnerthu ei allu a'i gapasiti er mwyn ysgogi gwelliannau. Mae’n cynnwys cyfres o ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i ddatrys y problemau o fewn amserlen resymol. Fel arfer, Perfformiad a Gwella GIG Cymru dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fydd yn rhoi'r ymyriadau ar waith. Lle y bo'n briodol, cytunir ar gymorth allanol â'r sefydliad.
Hanes yr uwchgyfeirio
Cyllid, strategaeth a chynllunio
Ym mis Medi 2023, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i lefel 3 (monitro uwch) ar gyfer cyllid a chynllunio.
Ym mis Ionawr 2024, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd o fonitro uwch i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.
Ym mis Gorffennaf 2025, gostyngwyd lefel uwchgyfeirio’r bwrdd iechyd i lefel 3 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.
Ym mis Rhagfyr 2025, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd o lefel 3 (monitro uwch) i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.
Perfformiad a chanlyniadau
Ym mis Ionawr 2024, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i lefel 3 (monitro uwch) ar gyfer perfformiad a chanlyniadau mewn perthynas â gofal brys a gofal mewn argyfwng yn Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Ym mis Rhagfyr 2025, cynyddwyd lefel uwchgyfeirio’r bwrdd iechyd o lefel 3 (monitro uwch) ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal brys ac gofal mewn argyfwng yn Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol y Faenor i lefel 4 (ymyrraeth wedi'i dargedu) ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â gofal brys a gofal mewn argyfwng.
Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru
Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y pum lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob corff iechyd ei asesu yn eu herbyn.
Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:
- yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
- ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
- yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith
- yn cael eu cynnal mewn modd agored, yn dryloyw, gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru
Yn ystod cyfnod ymyrraeth lefel 4, bydd trefniadau monitro ac adrodd yn cynnwys:
- cyfarfod uwchgyfeirio a goruchwylio bob deufis dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr GIG Cymru a nifer fach o aelodau'r bwrdd iechyd a Thîm Gweithredol Llywodraeth Cymru (bydd y cyfarfodydd hyn yn disodli’r Cyd-dîm Gweithredol)
- goruchwyliaeth rhwng y Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet yn unol â'r Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio
- cyfarfod grŵp perfformiad gweithredol a chyflawni bob deufis i gefnogi gwelliannau gweithredol ar draws ystod o feysydd
Isgyfeirio
Mae’r fframwaith hwn yn nodi’r disgwyliadau mewn perthynas ag isgyfeirio ar gyfer pob maes a pharth uwchgyfeirio. Lle y bo modd, mae’r meini prawf isgyfeirio hyn yn gyson â sefydliadau iechyd eraill sy’n destun uwchgyfeirio.
Ni chaiff sefydliad ei isgyfeirio fwy nag un lefel ar y tro, a bydd llai o oruchwylio ac ymyrraeth ar bob cam o’r broses isgyfeirio. Fel arfer, bydd sefydliad yn cael ei isgyfeirio o lefel 3 (monitro uwch) i lefel 1 (trefniadau arferol).
Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer isgyfeirio, rhaid i sefydliad ddangos ei fod yn gwneud cynnydd tuag at fodloni’r meini prawf isgyfeirio.
Ceir 2 ddull isgyfeirio:
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro, herio ac adolygu'r cynnydd a wnaed gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i’w galluogi i ystyried a yw’n briodol isgyfeirio’r trefniadau ymyrryd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i’r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni’r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddo ddangos gwelliannau parhaus, a chynllun gwella credadwy i gynnal gwelliannau.
- Caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi'u bodloni a'u cynnal am y cyfnod o amser y cytunwyd arno. Os yw sefydliad y GIG yn bodloni’r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barth penodol, bydd yn cael ei isgyfeirio i’r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i’r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig yn ei gylch.
Rolau a chyfrifoldebau
Mae rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:
- cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
- cyfeirio at ganllawiau arferion gorau a fframweithiau perthnasol
- adolygu cynhyrchion a ddatblygwyd a rhoi adborth arnynt
- galluogi dulliau a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol ar draws sefydliadau GIG Cymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
- cyfarwyddo Perfformiad a Gwella GIG Cymru neu wneud trefniadau amgen i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i feysydd sy'n peri pryder
- gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar ffactorau galluogi allweddol mewn perthynas â chynllunio rhanbarthol, ailddylunio gwasanaethau clinigol, a seilwaith (digidol ac adeiladau)
Mae rolau a chyfrifoldebau’r bwrdd iechyd fel a ganlyn:
- penodi Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer uwchgyfeirio ac arweinwyr prosiect priodol
- sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth y Bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r Bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r Bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio
- llunio cynllun lefel 4 mewn ymateb i'r pryderon ac ymrwymo digon o adnoddau i sicrhau bod modd cyflawni'r cynllun
- cyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd a thystiolaeth yn erbyn y cynllun uwchgyfeirio i Lywodraeth Cymru
Cyllid, strategaeth a chynllunio
Cyllid
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth ariannol ar lefel 4 yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn:
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd weithredu a:
- dangos bod y prosesau llywodraethiant a rheolaeth ariannol yn gadarn a rhoi sicrwydd digonol eu bod yn effeithiol drwy gynnal adolygiad o'r trefniadau rheolaeth ariannol sydd ar waith yn erbyn fframweithiau arferion gorau priodol a datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau, a'i roi ar waith.
- cyfleu ffactorau ysgogi'r diffyg presennol yn glir er mwyn llywio dull trionglog o nodi a chyflawni camau gweithredu a fydd yn gwella effeithlonrwydd, yn lleihau costau mewn modd cynaliadwy, ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau
- tystiolaeth o bolisïau a phrosesau clir sy'n cefnogi'r gwaith o nodi, cyflawni a monitro pob cynllun arbedion a chyfle. Dylai hyn gynnwys llunio fframwaith (a llif) cyfleoedd clir a chadarn sy'n cynnwys cyfleoedd realistig i gefnogi a rheoli'r heriau byrdymor a wynebir, ynghyd ag ysgogi'r newidiadau trawsnewidiol ar raddfa fwy a fydd yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor
- tystiolaeth o fap trywydd clir a cherrig milltir allweddol ar gyfer cyflawni cynllun o fewn ei gyllideb. Dylai hyn gynnwys tybiaethau cynllunio clir a realistig sy'n triongli ag amcanion strategol tymor hwy y sefydliad mewn perthynas â darparu gwasanaethau, y gweithlu, seilwaith, ac ati
- herio a chynnal prawf straen o gynllun y bwrdd iechyd ar gyfer 2026 i 2027 a nodi cyfleoedd ar gyfer gwella.
- gosod a chyflwyno cynllun blynyddol, gan arddangos llwybr i gyflawni cynllun cytbwys yn ariannol
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol drwy:
- fframwaith llywodraethiant ariannol yn y bwrdd iechyd sy'n gadarn o ran cynllun a gweithrediad, gan gynnwys hunanasesiad yn erbyn fframweithiau arferion gorau
- strwythur y pwyllgor ariannol; wedi'i gyfleu yn glir ac yn mynd i'r afael â risgiau allweddol
- adroddiadau ariannol a chyflwyniadau ategol sy'n cynnwys y dadansoddiad a'r esboniad naratif sy'n ofynnol er mwyn galluogi'r rheolwyr a'r bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau
- rheolaethau ariannol yn y bwrdd iechyd sy'n gadarn o ran eu dyluniad a'r broses o'u rhoi ar waith, gan gynnwys hunanasesiad yn erbyn fframweithiau enghreifftiol, adolygiad o'r broses o roi'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog ar waith, adolygiadau archwilio mewnol ac adolygiadau o reolaethau eraill
- swyddogaeth gyllid sydd â'r galluogrwydd angenrheidiol i gefnogi anghenion y sefydliad ehangach
- caiff cyllidebau eu pennu'n unol â'r cynllun a'u rheoli'n effeithiol, gan ddwyn deiliaid cyllidebau i gyfrif am gyflawni eu cynlluniau ariannol
- monitro ac adrodd mewnol sy'n gadarn (ac yn effeithlon), gyda'r lefel briodol o her a chefnogaeth o amgylch perfformiad a chyflawni adrannol, i lywio goruchwyliaeth a phenderfyniadau parhaus y bwrdd
- cynllun gweithredu datblygedig y gellir ei gyflawni i wella'r amgylchedd rheoli ariannol a llywodraethu ariannol
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos dealltwriaeth o'r diffyg presennol a'r ffactorau allweddol, a rhaid iddo:
- ddangos bod dealltwriaeth glir o'r ffactorau sy'n rheoli costau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am y cynnydd yn y diffyg ym mhob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys dadansoddiad penodol yn ôl maes gwasanaeth allweddol a ffactor sy'n rheoli costau
- adolygu buddsoddiadau'r flwyddyn flaenorol i asesu a yw'r buddiannau a gynlluniwyd wedi cael eu cyflawni.
- rhoi proses gadarn ar waith ar gyfer herio diffygion sylfaenol a nodir ar lefelau is-adrannol lleol.
- deall bod y ffactorau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am dwf y gweithlu yn cael eu deall yn dda; yn cael eu hadolygu am werth parhaus, ac yn cael eu monitro trwy'r adroddiad perfformiad integredig.
- sicrhau bod adroddiadau perfformiad integredig yn nodi ac yn monitro metrigau yn erbyn ffactorau sy'n rheoli costau gweithgarwch allweddol
- darparu eglurder ar unrhyw ffactorau lleol sy'n gyrru'r sefyllfa ddiffyg sylfaenol sy'n gofyn am gamau adferol
O ganlyniad i'r uchod, mae dulliau trionglog o nodi a chyflawni camau gweithredu i wella effeithlonrwydd a gwneud y defnydd gorau o adnoddau.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos ei fod yn datblygu ac yn gwireddu cyfleoedd, a rhaid iddo:
- fod â phroses a dull clir ym mhob rhan o'r sefydliad er mwyn cefnogi'r broses o nodi, cyflawni a monitro'r holl gynlluniau arbedion.
- datblygu fframwaith cyfleoedd cynhwysfawr gyda llif cyson o gyfleoedd, a sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer datblygu cyfleoedd yn gynlluniau arbedion a chyflawni'r cynlluniau arbedion hyn o ganlyniad i hynny.
- troi cyfleoedd cenedlaethol a nodir drwy'r Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd yn arbedion lleol.
- rhoi polisïau a phrosesau clir ar waith i alluogi deiliaid cyllidebau a rheolwyr i wireddu a chyflawni'r cynlluniau arbedion a nodir.
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio egwyddorion gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth ar draws y sefydliad trwy wasanaethau a llwybrau penodol.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos strategaeth a chynllun ariannol clir drwy:
- gynllun blynyddol integredig a thrionglog, gyda thybiaethau cynllunio clir a realistig i gyflawni o fewn ei gyllideb, gyda map trywydd clir a cherrig milltir allweddol ar gyfer cyflawni.
- cynllun ymgysylltu clir i gyfleu’r angen am welliannau ariannol ym mhob rhan o’r sefydliad.
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos ei fod yn cyflawni cynllun drwy:
- sicrhau gwelliant clir o ran y trywydd ariannol a gynlluniwyd i gyflawni o fewn ei gyllideb, gan gynnwys cynnydd pellach tuag at nodi a chyflawni cyfleoedd rheolaidd.
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- dangos bod amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol cadarn ar waith, a bod risgiau'n cael eu lleihau i'r eithaf
- gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni'r cynllun gweithredu ar gyfer lefel 4, gan gynnwys camau i wella dealltwriaeth y sefydliad o'r diffyg presennol a'r ffactorau ysgogi allweddol a datblygu a gwireddu cyfleoedd.
- dangos cynllun blynyddol clir, credadwy a chyflawnadwy a llwybr i gyflawni cydbwysedd ariannol
Strategaeth a chynllunio
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth mewn perthynas â strategaeth a chynllunio ar lefel uwchgyfeirio 4 yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd roi'r cynllun a gymeradwywyd ar waith a dangos ei fod wedi cyflawni’r cerrig milltir ynddo, a rhaid iddo:
- ddangos tystiolaeth o waith cynllunio integredig gwell ym mhob rhan o'r sefydliad i ddatblygu cynllun tymor canolig integredig y gellir ei gymeradwyo, gan roi trywydd ar gyfer cyflawni uchelgais tymor hwy y bwrdd iechyd
- cyflawni cynllun blynyddol credadwy fel cam tuag at gynllun tymor canolig integredig llawn a mantoledig.
- gwneud cynnydd da tuag at gyflawni'r targedau gweinidogol, y disgwyliadau o ran cyflawni a'r camau galluogi (a nodir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru), y meini prawf atebolrwydd a'r gofynion ar gyfer lefel 4
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos sut mae cyflawni cynllun a strategaeth glinigol yn cefnogi:
- penderfyniadau cynllunio a buddsoddi yn y dyfodol
- gwneud penderfyniadau ar draws y sefydliad
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- cyflwyno cynllun tymor canolig cytbwys a chredadwy neu gynllun blynyddol derbyniol yn unol â'r fframwaith cynllunio presennol
- dangos map trywydd clir a rhoi cynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd ar waith
- cynyddu hyder Llywodraeth Cymru ynghylch cyflawni yn seiliedig ar asesiad yn erbyn y matrics cynllunio aeddfedrwydd y cytunwyd arno
- cyflawni'r ymrwymiadau a nodir yn y cynllun blynyddol
Perfformiad a chanlyniadau
Gofal brys a gofal mewn argyfwng
Mae'r ffocws a'r ymyrraeth lefel 4 mewn perthynas â pherfformiad a chanlyniadau ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cwmpasu'r meysydd canlynol:
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos bod gwasanaethau'n gynaliadwy, a rhaid iddo:
- sicrhau bod cynlluniau adfer a gwella ar waith a bod blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith, yn unol ag ymarfer ar sail tystiolaeth a gofynion cenedlaethol
- gwella perfformiad gofal heb ei drefnu er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal heb ei drefnu diogel, amserol ac effeithiol ar gael i gleifion, gan leihau amseroedd aros, oedi a gwella ansawdd
- cyflawni gweithgarwch yn unol â llwybrau y cytunwyd arnynt a rhoi unrhyw newidiadau angenrheidiol ar waith pan fydd perfformiad yn gostwng islaw'r llwybr disgwyliedig
- cyflawni'r camau galluogi ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng yng nghanllawiau cynllunio 2025/28.
- dangos sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i bryderon, cwynion, digwyddiadau ac adborth gan gleifion yn ymwneud â gofal brys a gofal mewn argyfwng, a sut mae'n ymdrin â nhw
- asesu digwyddiadau parhad busnes a ddatganwyd, gan gynnwys y rhesymau pam, y camau a gymerwyd, a'r gwersi a ddysgwyd
- sicrhau bod gan gleifion ddealltwriaeth glir ynghylch ble y gallant a ble y dylent gael cymorth, gan eu cyfeirio oddi wrth wasanaethau mewn argyfwng
Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu a dangos gwaith gyda rhaglenni cenedlaethol ac ymateb i adolygiadau allanol, a rhaid iddo:
- weithio gydag argymhellion rhaglenni cenedlaethol, gan gynnwys Cymunedol o'r Cychwyn, y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a'r Rhaglenni Diagnostig ac Endosgopi Cenedlaethol, ymhlith rhai eraill, a rhoi'r argymhellion hynny ar waith.
- cefnogi'r broses o roi cyfleodd a nodir gan GiRFT ac adolygiadau o raglenni cenedlaethol ar waith a'u gwireddu.
- datblygu ymateb prydlon i unrhyw arolygiadau dirybudd gan AGIC ac argymhellion Archwilio Cymru a'r Coleg Brenhinol, gan ddatblygu a chyflawni cynlluniau gweithredu sy'n dangos tystiolaeth gynaliadwy
Meini prawf isgyfeirio
Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:
- gostyngiad parhaus o o leiaf 11% yn nifer y trosglwyddiadau ambiwlans sy'n cymryd mwy nag awr am dri mis yn olynol a chynnal hynny am dri mis (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
- gwelliant parhaus tuag at sicrhau nad oes mwy na 7% o gleifion yn aros am fwy na 12 awr ar bob safle unigol ac ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd
- ni ddylai'r amser canolrifol o'r adeg y bydd claf yn cyrraedd adran achosion brys i'r adeg y caiff asesiad gan benderfynwr clinigol fod yn fwy na 60 munud
- gostyngiad parhaus o 5% mewn llwybrau gofal gohiriedig am dri mis yn olynol a chynnal hynny (yn seiliedig ar linell sylfaen y cytunwyd arni)
