Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn bryderus iawn am y gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol. Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch pobl yng Nghymru a'r rhai o Gymru a allai fod yn y rhanbarth. Rydym yn monitro datblygiadau yn agos ac yn asesu effeithiau posibl ar Gymru wrth i'r sefyllfa esblygu. 

Mae materion tramor ac amddiffyn yn faterion a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Mae fy swyddogion yn rhoi gwybod imi am unrhyw ddatblygiadau. Dros y penwythnos, cefais fy mriffio'n uniongyrchol ar y sefyllfa gan uwch-swyddogion Swyddfa Cabinet y DU. Ddoe, cefais fy mriffio ymhellach.

Nid yw trefniadau rheoli argyfwng Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith ar hyn o bryd, ond rydym yn parhau i gydgysylltu â phartneriaid a rhannu gwybodaeth. Byddwn yn adolygu ein sefyllfa yn barhaus.

Mae diogelwch sifiliaid, p'un a ydynt yn y Dwyrain Canol neu yma gartref, yn hollbwysig. Cynghorir gwladolion Prydeinig sydd yn y Dwyrain Canol i gofrestru eu presenoldeb gyda'r Llysgenhadaeth briodol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol. Mae manylion ar wefan y Swyddfa Dramor

Mae Llywodraeth Cymru yn ymuno â phartneriaid rhyngwladol wrth alw am ataliaeth, dychwelyd i ddiplomyddiaeth a chydymffurfiaeth lawn â chyfraith ryngwladol.

Diogelwch y cyhoedd a chydlyniant cymunedol yng Nghymru

Rydym yn goruchwylio unrhyw effaith bosibl ar ein cymunedau yn agos. Nid oes lle yng Nghymru i gasineb na bygythiadau. 

Rydym wedi cysylltu â phartneriaid cymunedol i roi adnoddau defnyddiol iddynt ac i'w hannog i roi gwybod inni am unrhyw densiynau sy'n codi. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys llywodraeth leol, yr heddlu, a grwpiau cymunedol a ffydd i sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel.

Teithio, lefel y bygythiad a seiberddiogelwch

Mae llysgenadaethau'r DU a'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) yn darparu cymorth i wladolion y DU yn y rhanbarth. Dylai unrhyw un yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt ddilyn cyngor FCDO a chyngor awdurdodau yn y gwledydd, lle bo hynny'n briodol. Mae lefel y bygythiad i'r DU gan ymosodiadau terfysgol – a asesir gan Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth ar y Cyd (JTAC) y DU – yn parhau i fod yn SYLWEDDOL ("mae ymosodiad yn debygol") ac nid yw wedi newid ar hyn o bryd. Rydym yn cynnal lefel uwch o wyliadwriaeth seiber ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn unol â chanllawiau Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC) ac yn cynghori busnesau i wneud yr un peth.

Effeithiau economaidd a gweithredol

Er mai mater dyngarol yw'r mater hwn yn bennaf ar hyn o bryd, rydym yn cydnabod y gallai'r gwrthdaro gael canlyniadau gwirioneddol i aelwydydd a busnesau yng Nghymru os bydd yn parhau. 

Byddai cynnydd pellach mewn costau ynni yn effeithio ar gyllidebau aelwydydd drwy brisiau petrol a gwresogi domestig uwch, gyda sgil-effeithiau posibl ar hyder defnyddwyr a'r economi fanwerthu ehangach. Gallai hyn yn ei dro gynyddu chwyddiant yn uwch, gan olygu bod cyfraddau llog yn aros yn uwch am gyfnod hirach a bod y pwysau costau byw presennol yn parhau.

Rydym yn monitro'r tarfu ar deithiau awyr yn y rhanbarth – sy'n amlwg yn arwyddocaol iawn – a'r potensial ar gyfer effeithiau anuniongyrchol ar Gymru, gan gynnwys drwy farchnadoedd ynni, masnach a chadwyni cyflenwi byd-eang. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid i ddeall a lliniaru unrhyw effeithiau ar bobl, gwasanaethau a busnesau yng Nghymru. 

Ein hagwedd at wydnwch Cymru

Rydym yn byw mewn oes o her ac ansicrwydd digynsail. Drwy Fframwaith Gwydnwch Cymru, a gyhoeddais yr haf diwethaf, rydym yn cryfhau parodrwydd ar gyfer argyfyngau, cyfathrebu a gweithio mewn partneriaeth ar draws y llywodraeth a chyda'r gymuned ymatebwyr brys, a'r sector gwirfoddol. 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau breision o ran cyflawni ein hymrwymiad i wella gwydnwch a dysgu gwersi o'r gorffennol. Rydym wedi miniogi llywodraethiant Cymru o wydnwch a'i threfniadau rheoli argyfwng, gan hefyd ddarparu cyllid craidd newydd ar gyfer ein pedwar Fforwm Gwydnwch Lleol.