Mae ymchwil newydd yn dangos bod y cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd wedi cael gwared ar rwystrau ariannol, wedi cynyddu mynediad at brydau ysgol ac wedi lleihau stigma.
Cyflwynwyd y cynllun yn 2022 mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, a'i nod oedd sicrhau bod pob dysgwr oedran ysgol gynradd yn gallu cael mynediad at bryd ysgol am ddim, gan wella maeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella cyrhaeddiad addysgol.
Canfu gwerthusiad o'r polisi fod pwysau ariannol wedi lleddfu i lawer o deuluoedd, yn enwedig y teuluoedd hynny a oedd ychydig dros y trothwy ar gyfer prydau ysgol am ddim o'r blaen, gan nad ydynt bellach angen cyllidebu ar gyfer prydau ysgol neu becynnau bwyd.
Mae ysgolion wedi croesawu'r cynllun am leihau stigma ynghylch prydau ysgol am ddim, gan fod cael gwared ar wahaniaethau amlwg rhwng dysgwyr wedi creu amgylchedd mwy cynhwysol. Mae nifer o ysgolion yn dweud hefyd fod dysgwyr a oedd yn y gorffennol wedi cyrraedd yr ysgol yn llwglyd, bellach yn gallu cael o leiaf un pryd poeth y dydd.
Rhaid i bob ysgol a gynhelir ddilyn y Rheoliadau Bwyta'n Iach wrth gynllunio eu bwydlenni, sy'n golygu bod mwy o ddysgwyr yn gweld prydau cytbwys ac ystod ehangach o opsiynau bwyd, sydd yn annog dewisiadau iachach.
Bydd rheoliadau newydd ar gyfer dysgwyr meithrin a chynradd yn cefnogi mynediad at ddewisiadau iachach, cytbwys, gan sicrhau aliniad agosach â'r canllawiau maeth diweddaraf. Bydd rhain yn dod i rym ar gyfer ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd a gynhelir ar 31 Hydref 2026.
Yn ogystal, er mwyn adlewyrchu'r flaenoriaeth ar gyflawni'r cynnig prydau ysgol am ddim, ym mis Rhagfyr cynyddwyd y gyfradd a delir fesul pryd o £3.20 i £3.40.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Garnteg, Sue Roche:
Mae prydau ysgol am ddim yn Ysgol Gynradd Garnteg yn ffordd wych i blant fwynhau pryd blasus amser cinio, wrth gymdeithasu gyda'u cyfoedion. Mae'r effaith yn wych. Mae'r disgyblion yn cael y dechrau gorau i'w diwrnod, ac mae'n sicrhau bod dysgwyr yn yr ysgol yn barod i ddysgu ac yn mwynhau pryd poeth maethlon amser cinio yn barod ar gyfer eu sesiwn yn y prynhawn.
Mae teuluoedd hefyd yn ei werthfawrogi gan ei fod yn annog plant i roi cynnig ar fwydydd newydd ac yn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn o leiaf un pryd cytbwys poeth, maethlon bob dydd, gyda dewis eang iawn o fwydydd poeth ac opsiynau yn y bar salad a phasta.
Mae llawer o staff yn Garnteg wedi sylwi bod y prydau bwyd yn arwain at well gallu i ganolbwyntio a gwell ymddygiad, a'u bod yn codi lefelau egni disgyblion trwy gydol y dydd gan arwain at well cyfleoedd dysgu a chanlyniadau i'n dysgwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd, ysgolion a dysgwyr ledled Cymru. Mae'r gwerthusiad hwn yn dangos ein bod nid yn unig yn lleddfu pwysau ariannol ar aelwydydd ond hefyd yn creu amgylcheddau ysgol mwy cynhwysol lle gall pob plentyn fwynhau pryd maethlon gyda'i gilydd.
"Mae sicrhau bod plant yn cael eu bwydo'n dda yn cefnogi eu gallu i ddysgu a ffynnu, ac rwy'n falch bod ein buddsoddiad parhaus yn y polisi hwn yn golygu ein bod yn ychwanegu at y canfyddiadau cynnar cadarnhaol hyn i sicrhau canlyniadau hyd yn oed yn well i'n dysgwyr.
Hyd yn oed os yw'ch plentyn eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim o dan y cynllun i'r holl blant ysgolion cynradd, mae angen i chi wirio eich bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim er mwyn cael mynediad at y Grant Hanfodion Ysgol: Hawliwch help gyda chostau ysgol | LLYW. CYMRU.
