Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae heddiw yn nodi cyhoeddi canllawiau newydd sydd wedi'u cynllunio i gefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i hyrwyddo teithio llesol fel offeryn allweddol ar gyfer lleihau llygredd aer, neu gyfyngu arno a gwella iechyd y cyhoedd. Y canllawiau hyn yw ffrwyth llafur y cydweithio agos â rhanddeiliaid yng Nghymru, er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion y byd go iawn ac yn darparu canllawiau ymarferol ar gyfer cyflawni.
Mae hyrwyddo teithio llesol nid yn unig yn chwarae rhan hanfodol wrth greu cymunedau iachach, mwy cysylltiedig, ond gall hefyd gyfrannu at gyflawni ein nodau amgylcheddol. Drwy annog mwy o bobl i gerdded, olwynio a beicio, gallwn symud yn agosach at gyrraedd ein targedau ansawdd aer ac at gadw at ganllawiau ansawdd aer byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd. Mae aer glanach ac amgylcheddau iachach yn hanfodol i'n gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy cynaliadwy.
Mae'r canllawiau yn cynnig ystod eang o fewnwelediadau ac argymhellion, wedi'u llunio gan ystyried anghenion ysgolion, cynghorau lleol a sefydliadau cymunedol drwy gydol y broses ddatblygu. Mae'n nodi dulliau clir, ymarferol i helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024. O dan y ddeddfwriaeth hon, mae gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol ddyletswydd i hyrwyddo teithio llesol fel modd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno. Mae'r canllawiau hyn yn egluro'r hyn a ddisgwylir gan awdurdodau lleol ac yn tynnu sylw at sut y gellir ymgorffori teithio llesol ym mhob maes o'u gwaith ac yn y penderfyniadau bob dydd sy'n siapio lleoedd a gwasanaethau lleol.
Er mwyn cefnogi hyn, ategir y canllawiau gan Becyn Cymorth Hyrwyddo Trafnidiaeth Cymru, sy'n darparu adnoddau manwl, astudiaethau achos a chyngor ar bynciau penodol. Gyda'i gilydd, mae'r adnoddau hyn yn cynnig pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth i awdurdodau lleol, gan eu galluogi i hyrwyddo teithio llesol yn eu cymunedau.
Mae manteision teithio llesol yn eang. Mae'n gwella ansawdd aer, yn cefnogi gwell iechyd corfforol a meddyliol, yn cyfrannu at nodau hinsawdd ac yn cryfhau cyfiawnder cymdeithasol drwy gynnig opsiynau teithio fforddiadwy, hygyrch i bawb. Drwy ei gwneud hi'n haws i bobl o gefndiroedd amrywiol gymudo, cyrraedd gwasanaethau hanfodol a chymryd rhan lawn mewn bywyd cymunedol, mae teithio llesol yn helpu i greu lleoedd tecach, mwy cynhwysol.
Mae'r canllawiau hefyd yn nodi ffyrdd ymarferol o hyrwyddo llwybrau teithio llesol presennol a newydd. Mae hyn yn cynnwys gwella'r ffordd y caiff llwybrau eu dynodi, gwybodaeth i ymwelwyr, mapiau ac arwyddion, gwella cysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus, hyrwyddo storio beiciau a llogi beiciau, a chefnogi teithio llesol i ysgolion a gweithleoedd. Mae'n tynnu sylw at gymhellion i gerdded, olwynio a beicio, ac yn amlinellu'r adnoddau a'r cyllid sydd ar gael i helpu awdurdodau lleol i gyflawni newid ystyrlon.
Ar y cyfan, mae'r canllawiau hyn yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrech ar y cyd i greu Cymru lanach, iachach a mwy amgylcheddol gyfrifol. Drwy gefnogi awdurdodau lleol i ymgorffori teithio llesol ar draws eu gwaith, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer gwelliannau hirdymor mewn ansawdd aer ac ansawdd bywyd i gymunedau ledled y genedl.
