Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y llynedd, lansiais ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig i blant hyd at 12 oed

Disgwylir i bob darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig roi sylw i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Mae'r safonau hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd) mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r math o wasanaeth y maent yn ei ddarparu.

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ynghyd ag Asesiad Effaith diwygiedig sy'n dangos bod y cynigion wedi'u cefnogi'n eang gan ymatebwyr. 

Roedd y cynigion ymgynghori yn ceisio mynd i'r afael ag argymhellion sy'n deillio o adolygiadau'r Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae, yn ogystal â phryderon a godwyd gan randdeiliaid a darparwyr. Ein nod oedd sicrhau bod darparwyr yn gallu parhau i fod yn gynaliadwy tra bo plant a theuluoedd yn elwa ar brofiadau gofal plant a chwarae diogel a llesol o ansawdd uchel sy'n cefnogi plant i chwarae, dysgu, cymdeithasu a ffynnu.

Bydd y safonau hyn yn parhau i gael eu hadolygu i sicrhau bod darparwyr yn bodloni'r disgwyliadau rheoleiddiol a osodwyd ar eu cyfer, ac i ddiogelu ansawdd y ddarpariaeth gofal plant a chwarae y mae teuluoedd a phlant yn dibynnu arnynt.

Hoffwn ddiolch yn ddidwyll i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad hwn. Mae eich adborth wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i lunio safonau sy'n berthnasol, yn gymesur ac yn addas i'r diben, heddiw ac ar gyfer y dyfodol.