Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Yn dilyn cais am gyllid gan Grŵp Trawsbleidiol y Senedd Cyfeillion Wcráin, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gynnig rhodd o £16,000 i sefydlu cofeb yn Kyiv i anrhydeddu gwaith y newyddiadurwr Cymreig Gareth Jones. Mae hyn ar sail y cynnig a'r costau a ddarperir gan y Grŵp Trawsbleidiol Cyfeillion Wcráin. Bydd hyn ar ffurf plinth mewn tair iaith. Bydd y prosiect yn cael ei gomisiynu gan Grŵp Trawsbleidiol y Senedd
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sawl Aelod o'r Senedd wedi ymweld â'r Wcráin ar sawl achlysur i ddarparu cymorth hanfodol. Yn ogystal, ym mis Ebrill 2025 ymwelodd dirprwyaeth o bum Aelod o'r Senedd â'r Wcráin i anrhydeddu'r newyddiadurwr Cymreig Gareth Jones. Fe wnaethant drafod gydag arweinwyr Cyngor Kyiv y posibilrwydd o godi plinth teirieithog yn Gymraeg, Saesneg ac Wcrenaidd i nodi stryd sydd wedi'i henwi ar ôl Gareth Jones. Felly, mae gan y prosiect hwn gefnogaeth drawsbleidiol.
Roedd Gareth Jones (1905–1935) yn newyddiadurwr Cymreig o'r Barri a adroddodd ar yr Holodomor (newyn Sofietaidd Wcráin, 1932-1933), y tensiynau yn Ewrop yng nghanol y 1930au a thwf y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen. Roedd ei ddatguddiad ar y newyn yn seiliedig ar ei dystiolaeth llygad-dyst ei hun ar ôl teithio yn y rhanbarth a datgelodd raddfa ac arswyd yr Holodomor i gynulleidfa ryngwladol. Roedd bron ar ei ben ei hun yn adrodd ar newyn yn Rwsia Sofietaidd a'r Wcráin Sofietaidd a gwnaeth hynny yn ddienw yn The Times ym 1931. Mae ei ddyddiaduron yn disgrifio'n fanwl ei ymweliadau â'r Undeb Sofietaidd rhwng 1931 a 1933, yn enwedig ei deithiau yno, y bobl y mae'n cwrdd â hwy ac adroddiadau graffig o amodau'r Holodomor, y newyn difrifol a oedd yn cyfrif am farwolaethau rhwng pedair a chwe miliwn yn yr Wcráin Sofietaidd.
