Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn sgil fy Natganiad Ysgrifenedig ar 14 Gorffennaf, pan gyhoeddais y dyraniadau ariannol ar gyfer blwyddyn gyntaf Her Ysgolion Cymru, rwyf bellach mewn sefyllfa i allu diweddaru’r wybodaeth hon drwy gyhoeddi manylion y gwariant ar gyfer y rhaglen. Mae’r tabl, sy’n dilyn, yn cynnwys manylion gwariant refeniw a gwariant cyfalaf o’r buddsoddiad o £20m a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf.

Fel y nodais yn fy natganiad blaenorol, er fy mod wedi sicrhau bod hyd at £20m ar gael ar gyfer Her Ysgolion Cymru, £16.35m oedd cyfanswm y cyllid a bennwyd ar gyfer darparu’r rhaglen. Mae rheoli’r gwariant yn erbyn y gyllideb hon o fewn y flwyddyn wedi arwain at arbedion net o 1.6% yn erbyn yr arian a neilltuwyd. Mae’r swm hwn yn adlewyrchu lefelau’r gefnogaeth a bennwyd gan Ysgolion Llwybrau Llwyddiant a’u Cynghorwyr, yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen, ar gyfer eu rhoi ar ben ffordd o ran gwella a datblygu eu capasiti ar gyfer gwella yn ehangach o fewn y system.

Mae’r arian a neilltuwyd ar gyfer cefnogi ymdrechion gwella pob un o’r Ysgolion Llwybrau Llwyddiant yn amrywio, a hynny gan fod y rhaglen wedi ei datblygu i ymateb i amgylchiadau unigryw drwy ddarparu pecynnau pwrpasol o gymorth i helpu pob ysgol unigol i ymateb i’r heriau sy’n ei hwynebu. Felly dyrannwyd yr adnoddau lle byddent yn cael yr effaith fwyaf. Rwy’n parhau’n hyderus bod llawer wedi ei gyflawni, gyda phob ysgol yn gosod seiliau ar gyfer sicrhau gwelliannau cynaliadwy yn y tymor hwy.

Y tu hwnt i’r 40 o ysgolion hyn, mae Her Ysgolion Cymru wedi helpu’r Consortia i barhau i gydweithio ac i ddatblygu capasiti ar gyfer gwella. Nod y buddsoddiad hwn yw sicrhau bod Her Ysgolion Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar y system addysg yn ehangach, gan sicrhau pwyslais ar broses o hunanwella sy’n cael ei harwain gan yr ysgolion eu hunain. Yn ogystal â hynny, mae’r rhaglen wedi darparu amrywiaeth o gymorth ar gyfer ysgolion a’r rhanbarthau, gan gynnwys: arbenigedd – drwy Gynghorwyr yr Her a’r Grŵp Hyrwyddwyr; y cyfle i ddathlu, gwerthuso a rhannu arferion da; ynghyd â phrosiectau a gweithgareddau sydd â’r nod o hwyluso cydweithio a gweithio mewn partneriaeth.