Bydd plinth coffa yn cael ei osod yn Kyiv i anrhydeddu Gareth Jones, y newyddiadurwr Cymreig o'r Barri a beryglodd ei fywyd i ddatgelu newyn Holodomor a laddodd filiynau yn Wcráin Sofietaidd yn y 1930au.
Yn dilyn cais am gyllid gan Grŵp Trawsbleidiol Cyfeillion Wcráin yn y Senedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gynnig rhodd o £16,000 i gefnogi comisiynu'r plinth yn Gymraeg, Saesneg ac Wcreineg i nodi stryd yn Kyiv sydd eisoes wedi'i henwi i anrhydeddu Jones.
Ganed Gareth Jones yn y Barri yn 1905, a daeth yn newyddiadurwr llawrydd. Aeth ei waith ymchwilio ag ef ledled Ewrop a'r Undeb Sofietaidd.
Yn 1933, ar ôl cerdded trwy Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin, cyhoeddodd Jones ddatganiad i'r wasg yn Berlin a ddaeth yn ddarn arwyddocaol iawn o newyddiaduraeth llygad-dyst, gan dynnu sylw at y newyn a effeithiodd ar filiynau o bobl a ddaeth i gael ei adnabod fel yr Holodomor.
Cafodd ei wahardd rhag mynd yn ôl i'r Undeb Sofietaidd, ac yna trodd Jones ei sylw at y Dwyrain Pell lle cafodd ei lofruddio yn 1935 tra oedd ar daith canfod ffeithiau. Roedd yn 29 oed.
Mae gan y prosiect gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ac mae'n dilyn ymweliad ag Wcráin y llynedd lle darparodd dirprwyaeth o Aelodau'r Senedd gymorth a chyfarfod ag arweinwyr Cyngor Kyiv i drafod y posibilrwydd o godi'r gofeb.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru a phartneriaid cymunedol Wcreinaidd yng Nghymru i goffáu Holodomor yn flynyddol (a gyfieithir fel ‘marwolaeth trwy newyn’) a'r rôl hanfodol a chwaraeodd Gareth Jones wrth ddatgelu'r drasiedi hon i'r byd ehangach.
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, fod y gofeb yn deyrnged addas i un o newyddiadurwyr mwyaf dewr Cymru:
Dywedodd Gareth Jones y gwir ar adeg pan oedd grymoedd pwerus yn gweithio i'w atal. Daeth ei adroddiadau llygad-dyst o'r Holodomor ag arswyd y newyn hwnnw i gynulleidfa ryngwladol, ar gost bersonol fawr. Mae'r gofeb hon yn Kyiv yn sicrhau bod ei ddewrder rhyfeddol a'i gysylltiad ag Wcráin yn cael ei gydnabod a'i gofio.
Rhagwelir y bydd y gofeb yn barod i'w dadorchuddio mewn seremoni ddinesig yn Kyiv ym mis Tachwedd 2026, diwrnod traddodiadol cofio'r Holodomor.
Dywedodd Graham Colley, gor-nai Gareth Jones:
Rwy'n croesawu'n fawr y fenter hon sydd nid yn unig yn cydnabod cyfraniad fy Hen Ewythr, Gareth i ddatgelu un o droseddau mawr y canrifoedd diwethaf, sef yr Holodomor. Mae hefyd yn deyrnged yn ystod y cyfnod cythryblus hwn i'w ymrwymiad i'r safonau moesegol uchaf o newyddiaduraeth ar adeg pan oedd yr awdurdodau Sofietaidd a newyddiadurwyr cydweithredol yn ceisio cuddio gwirionedd y digwyddiadau ofnadwy hynny.
Mae'n deyrnged Gymreig addas i arwr go iawn o Gymru, un sy'n anffodus yn fwy adnabyddus yn rhyngwladol nag ydyw yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd y garreg goffa hon yn cyfrannu at dwf y berthynas rhwng pobl Cymru ac Wcráin.
Dywedodd Alun Davies AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol:
Dydyn ni ddim yn gwneud digon i gydnabod y cyfraniad y mae dinasyddion Cymru wedi'i wneud i faterion byd-eang. Roedd Gareth Jones yn unigolyn unigryw. Tra oedd rhai newyddiadurwyr yn ciniawa gyda'r awdurdodau Sofietaidd ac wedi dewis anwybyddu neu wadu’r hyn a oedd yn digwydd yn Wcráin, dewisodd e fynd i weld drosto'i hun a dywedodd wrth y byd.
Ar yr adeg hon, pan fo bodolaeth Wcráin yn wynebu ymosodiadau a rhannau o'r wlad lle cafodd yr Holodomor effaith mor ofnadwy wedi'u meddiannu, mae hon yn ffordd o gydnabod rôl hanfodol newyddiadurwyr wrth ddatgelu'r gwir a dangos ein cyfeillgarwch a'n bod yn cydsefyll ag Wcráin.
Mae bywyd a newyddiaduraeth Jones wedi bod yn destun cydnabyddiaeth ddiwylliannol sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y ffilm nodwedd Mr Jones yn 2019 a oedd yn canolbwyntio ar ei ymchwiliad a'i waith adrodd ynghylch yr Holodomor.
Bydd y plinth newydd yn Kyiv yn ymuno â chofebau eraill i Jones, gan gynnwys plac tairieithog ym Mhrifysgol Aberystwyth a ddadorchuddiwyd yn 2006, a phlac a osodwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Wcráin yn Kyiv ym mis Hydref 2023.
