Huw Irranca-Davies, AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Fis Rhagfyr diwethaf fe wnes eich hysbysu y byddai Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU) (sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon) yn diwygio Pris Cadw ar gyfer Arwerthiannau (ARP) y cynllun gyda chynnydd cychwynnol yn seiliedig ar chwyddiant yn 2026 o £22 i £28, a chynnydd blynyddol yn seiliedig ar chwyddiant o 2027 ymlaen.
Mae'r newidiadau hyn i'r rheolau wedi cael eu symud ymlaen heddiw gan Lywodraeth y DU yn Rheoliadau Arwerthu Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026 drwy bŵer galluogi o fewn Deddf Cyllid 2020. Mae Rheoliadau Arwerthu Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2021, y bydd yr Offeryn Statudol hwn yn eu diwygio, yn rhan o fframwaith ETS y DU ac yn nodi dyluniad yr arwerthiant, gan gynnwys y pris clirio arwerthiant. Mae swyddogion polisi a chyfreithiol Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o adolygu'r gwaith o ddrafftio Rheoliadau Arwerthu Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026.
At ei gilydd, rwyf o'r farn bod Cynllun Masnachu Allyriadau y DU yn parhau i fod yn ysgogiad polisi dylanwadol iawn er mwyn cyflawni sero net yng Nghymru a'i fod yn blatfform hanfodol er mwyn annog busnesau i fuddsoddi mewn technolegau datgarboneiddio a'u mabwysiadu. Mae'r newid rheol yma yn bwysig i gywiro gostyngiad yr ARP mewn termau real ers iddo gael ei gyflwyno ac i sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu signal o isafswm pris hirdymor i gyfranogwyr y farchnad.
Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i roi gwybod iddynt am hyn.
