Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r aelodau fy mod wedi gwneud cyfres o is-ddeddfwriaeth yr wythnos hon mewn cysylltiad â gweithredu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ('Deddf 2022') sy'n ymdrin â'r canlynol:

  • dyfodiad i rym cam nesaf swyddogaethau'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ('Medr'),
  • diwygiadau i ddeddfwriaeth bresennol o ganlyniad i Ddeddf 2022, 
  • cwblhau'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y drefn reoleiddio ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru.   

Mae Gorchymyn Deddf Addysg ac Ymchwil Drydyddol (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 7, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2026 ('y Gorchymyn'), yn dwyn i rym, ar gyfres o ddyddiadau rhwng 1 Ebrill 2016 a 1 Ebrill 2027, darpariaethau sy'n ymwneud â:

  • chofrestru, rheoleiddio a sicrhau ansawdd darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru (Rhan 2 ac Atodlen 3),
  • arolygu addysg bellach a hyfforddiant gan Brif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ("Estyn") (Rhan 2),
  • swyddogaethau Medr a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â sicrhau a chyllido addysg drydyddol (Rhan 3),
  • y fframwaith deddfwriaethol mewn perthynas â phrentisiaethau Cymreig cymeradwy (Rhan 4),
  • cwynion dysgwyr (Rhan 5),
  • darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau gan Medr ac iddo (Rhan 6),
  • pwerau gwneud gorchmynion Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag offerynnau ac erthyglau llywodraethu corfforaethau addysg uwch (Rhan 7).

Mae'r Gorchymyn hefyd yn cynnwys darpariaethau trosiannol gyda'r bwriad o sicrhau nad yw darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru yn ddarostyngedig i reoleiddio deuol tra bod Deddf 2022 yn cael ei gweithredu, ochr yn ochr â darpariaethau arbed sy'n cadw dilysrwydd unrhyw orchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan eu pwerau ymyrryd yn adran 57(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 cyn diddymu'r ddarpariaeth honno.

Yn olaf, mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau yn Atodlen 4 i Ddeddf 2022 sy'n darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol a mân ddiwygiadau i ddeddfwriaeth bresennol sy'n codi o ddod â'r swyddogaethau a nodir uchod i rym.

Ochr yn ochr â'r Gorchymyn rwyf hefyd wedi gwneud y rheoliadau canlynol, pob un ohonynt yn darparu ar gyfer diwygiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ofynnol o ganlyniad i Ddeddf 2022:

  • Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026 ("y Rheoliadau Canlyniadol"); 
  • Rheoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio) 2026 ("y Rheoliadau Diogelwch Ar-lein"); a
  • Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2026 ("y Rheoliadau Arolygu").

Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd yr wythnos hon, mae'r Rheoliadau Canlyniadol yn gwneud newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth i adlewyrchu'r fframwaith statudol newydd fel y darperir ar ei gyfer gan Ddeddf 2022. 

Mae'r Rheoliadau Diogelwch Ar-lein yn diwygio Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 i adlewyrchu'r trefniadau cyllido newydd ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant yng Nghymru fel y nodir yn Neddf 2022.

Mae'r Rheoliadau Arolygu yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001, gan sicrhau bod y drefn arolygu yn cyd-fynd â rôl newydd Medr a'i gyfrifoldebau o dan Ddeddf 2002. Mae'r Rheoliadau yn cynnal cylch arolygu chwe blynedd ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant ac yn lleihau'r cyfnod adrodd ar gyfer Estyn o 70 i 35 diwrnod gwaith, gan ei wneud yn gyson ag arolygiadau ysgolion. Mae'r newidiadau hyn yn sicrhau cysondeb a pharhad, a dull cadarn o sicrhau ansawdd ar draws y sector.

Fis diwethaf ysgrifennais at yr aelodau yn cadarnhau fy mod wedi gosod Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026. Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan y Senedd yr wythnos diwethaf, mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r aelodau fy mod hefyd wedi gwneud y Rheoliadau hyn, yn ogystal â Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2026. 

Mae'r offerynnau hyn yn cwblhau'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y drefn reoleiddio newydd ar gyfer addysg uwch yng Nghymru, gyda Medr yn bwrw ymlaen â'r gweithgareddau angenrheidiol i alluogi sefydlu'r gofrestr newydd o ddarparwyr addysg uwch ar 31 Gorffennaf 2026.