Mae cwmni o'r sector amddiffyn wedi prynu tir Llywodraeth Cymru ym Mhowys i ddatblygu a phrofi offer milwrol newydd ar gyfer cleientiaid amddiffyn.
Mae BANAIR wedi prynu dau lain ym Mharc Menter Glannau Gwy, yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, ac wedi dechrau profi ei system bontio cerbydau alwminiwm ysgafn ei hun ar y safle.
Yn rhychwantu hyd at 30 metr, mae'r offer yn cael ei ddatblygu i alluogi gweithrediadau milwrol i groesi dŵr neu fylchau dros dir sych, ac mae BANAIR yn datblygu'r gallu hwn gyda chyllid grant cymorth arloesi uniongyrchol.
Mae BANAIR, y mae ei bencadlys yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ac sy'n gweithredu o sawl safle, gan gynnwys cyfleusterau gweithgynhyrchu yn Dudley a Gwlad Pwyl, a swyddfeydd gwerthu yn UDA a Japan, hefyd yn awyddus i sefydlu ffatri newydd gerllaw Bydd hyn yn creu swyddi diwydiannol medrus ar gyfer rhanbarth Powys.
Mae BANAIR yn disgwyl creu tua 20 o swyddi ar gyfer cynhyrchu ei systemau pontio a'i fframiau dur ysgafn dros y pum mlynedd nesaf a hyd at 10 swydd ym maes ymchwil a datblygu ar gyfer ei gynhyrchion amddiffyn.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod mwy o adeiladau masnachol ar gael i fusnesau ym mhob rhan o Gymru.
Roedd angen gofod ychwanegol ar BANAIR i ddatblygu ac arddangos atebion milwrol newydd, ac roeddem yn gallu cynorthwyo'r cwmni o fewn amserlen dynn i helpu i gyflawni ei rwymedigaethau contract a chyflawni ei uchelgeisiau ehangu.
Mae sicrhau swyddi gweithgynhyrchu medrus i'r rhanbarth at y dyfodol yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy ffyniannus i bawb.
Dywedodd Andrew Gunn, Prif Swyddog Gweithredol BANAIR:
Rydym yn falch iawn o fod wedi caffael y safle pwysig hwn ym Mhowys i'n galluogi i ddatblygu, profi ac arddangos ein datrysiadau pontio milwrol. Bydd y maes profi a'r safle gweithgynhyrchu newydd hwn yn caniatáu i BANAIR ddatblygu ein portffolio o gynhyrchion amddiffyn, ac rydym wir yn gwerthfawrogi'r cymorth blaengar a buddiol yr ydym wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy gydol y broses.
