Mae ail gam y gwaith ar Bont y Borth yn mynd yn ei flaen a bydd cam arall o’r gwaith yn dechrau wythnos nesaf.
Mae'r gwaith ar y trawstiau croes wedi'i gwblhau'n llwyddiannus, a bydd y cam nesaf yn gweld symud y sgaffaldiau, yr 'Aerotruss' fel y'u gelwir, i'r is-ddec.
Er mwyn gallu gwneud hyn, bydd system rheoli traffig fel llif llanw ar waith o 9 Mawrth am gyfnod o ryw chwe diwrnod, er mwyn gallu paratoi a gosod yr offer sydd ei angen ar gyfer paentio'r is-ddec a chynnal a chadw offer cynhaliol.
Rhwng 7am ac 1pm bydd traffig yn gallu croesi o Ynys Môn i'r tir mawr, a rhwng 1pm a 7pm bydd traffig yn gallu croesi o'r tir mawr i Ynys Môn. Rhwng 7pm a 7am bydd signalau traffig arferol ar waith.
Bydd llwybr troed y Dwyrain yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnod hwn. Rydym yn gofyn i gerddwyr beidio â stopio wrth groesi'r bont, a bydd swyddogion yn bresennol trwy gydol y cyfnod gosod.
Gofynnir i feicwyr wthio'u beiciau wrth ddefnyddio llwybr troed y Dwyrain.
Bydd codi'r sgaffaldiau yn golygu gweithgarwch ar y dŵr, gan gynnwys sesiynau profi, dros gyfnod o ddyddiau. Bydd hyn yn dibynnu ar y tywydd.
Fel rhan o raglen ehangach ddiwygiedig Cam 2, ni fydd mesurau rheoli traffig ond ar waith am gyfnodau byr er mwyn gallu cwblhau elfennau allweddol.
At ei gilydd mae'r cynlluniau diwygiedig wedi lleihau'n sylweddol yr angen i reoli traffig ar y bont, o'i gymharu â'r cynlluniau cynharach, a thrwy hynny bydd llai o darfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau.
Mae hi'n dal i fod yn hanfodol gorfodi'r terfyn pwysau 7.5 tunnell er mwyn gallu parhau i ddefnyddio'r bont yn ddiogel tra bo'r gwaith yn mynd yn ei flaen.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
Rwy'n falch bod y gwaith ar y trawstiau croes wedi'i gwblhau'n llwyddiannus. Mae'r gwaith nawr yn symud ymlaen i'r cam nesaf a hoffwn ddiolch i drigolion, cymudwyr a busnesau am eu hamynedd a'u cydweithrediad.
