Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn foment i ni gofio a chydnabod pan fo menywod a merched yn ffynnu, mae ein cenedl yn ffynnu. Mae'r thema eleni, Rhoi i Ennill, yn ein hatgoffa bod buddsoddi ein hamser, ein hadnoddau a'n dylanwad mewn menywod a merched yn cryfhau ein cymunedau, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi. 

Mae thema'r Cenhedloedd Unedig Hawliau. Cyfiawnder. Gweithredu. I BOB Menyw a Merch, yn ein herio i ddileu rhwystrau sy'n dal i gyfyngu ar ormod o fywydau, ac i weithredu gyda phenderfyniad i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru benbaladr.

Ym mhob cwr o'r wlad, mae merched a menywod ifanc eisoes yn arwain newid. Mae Cwricwlwm Cymru yn rhoi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog, gan helpu dysgwyr i herio stereoteipiau ac ehangu uchelgais. Wrth i sectorau STEM a digidol Cymru barhau i ehangu, mae'n hanfodol bod merched yn cael eu cefnogi i ymgysylltu'n hyderus â'r meysydd hyn a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos bod merched yn parhau i berfformio'n well na bechgyn mewn sawl pwnc STEM, gan gynnwys TGAU Technoleg Ddigidol, a Ffiseg Safon Uwch, gan adlewyrchu penderfyniad ac ymrwymiad dysgwyr ac ysgolion ledled Cymru.

Rydym yn parhau i hyrwyddo rhaglenni sy'n ysbrydoli merched i ddilyn llwybrau digidol a thechnegol. Mae cystadleuaeth CyberFirst i ferched (Saesneg yn unig)y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cydnabod doniau eithriadol menywod ifanc. Enillodd Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi rownd derfynol ranbarthol Cymru yn 2025/26, gan ddangos sgiliau seiber trawiadol o ran torri codau a datrys problemau‑. Rwy'n eu llongyfarch, a'r holl ysgolion sy'n cymryd rhan, ar eu llwyddiannau.

 Drwy Syniadau Mawr Cymru, mae modelau rôl, y mae eu straeon yn dangos bod modd cyrraedd uchelgeisiau, yn dangos i ferched a merched ifanc beth sy'n bosibl pan fyddant yn breuddwydio am gyflawni rhywbeth mawr. Mae'r modelau rôl yn cynnwys yr arweinydd alldaith fyd-eang Jayne Brown, arloeswr tecstilau cynaliadwy Claire Cawte, y crëwr digidol Sioned Young, yr entrepreneur arobryn‑ Shoned Owen a'r athletwraig sy'n dal record byd ym maes rasys dygnwch ‑ Kate Strong.

Mae cefnogi plant a phobl ifanc i gydnabod anghydraddoldeb, herio ymddygiad niweidiol a cheisio help pan fydd ei angen arnynt yn hanfodol. Mae'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn rhoi'r wybodaeth i ddysgwyr i adnabod bwlio, aflonyddu a cham-drin a deall sut mae'r gyfraith yn amddiffyn eu hawliau. Mae'r llinyn Grymuso, Diogelwch a Pharch yn cynnwys dysgu ar wahaniaethu a Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), gan helpu disgyblion i adnabod ymddygiadau niweidiol yn gynnar a beth i'w wneud am yr ymddygiad.

Eleni, bydd canllawiau gwrth-fwlio, hawliau, parch, a chydraddoldeb wedi'u diweddaru yn cryfhau'r gefnogaeth i ysgolion fynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhagfarn. Rhannodd gweminarau gan ymarferwyr a gyflwynwyd yn hydref 2025 ddulliau ymarferol o ymgorffori cydraddoldeb, cefnogi cydberthnasau iach a hyrwyddo gwrywdod cadarnhaol, gan gydnabod bod bechgyn a dynion ifanc yn bartneriaid hanfodol wrth gyflawni cydraddoldeb.

Mae Gyrfa Cymru a Chymru'n Gweithio yn parhau i ddarparu llwybr cysylltiedig o ysbrydoli mewn ysgolion i hyfforddiant, gwaith ac entrepreneuriaeth. Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025, cefnogodd Cymru'n Gweithio 11,844 o fenywod, gan ddangos effaith canllawiau a chyngor wedi'u teilwra. Mae'r mentrau hyn yn allweddol i ddatblygu cydraddoldeb ym mhob maes.

Mae'r gwasanaethau hyn yn newid bywydau ac yn troi syniadau yn fywoliaethau. Defnyddiodd Katherine gwrs codio dwys i symud i rôl dechnegol yn y DVLA ar ôl i'w swydd gael ei dileu.  Dychwelodd Helen i'w gyrfa ym maes iechyd a diogelwch diolch i gyllid Cyfrif Dysgu Personol. Ar ôl symud o'r Wcráin, dechreuodd Maryna weithio fel cyfieithydd gyda chefnogaeth Cymru'n Gweithio. Yn olaf, manteisiodd Jayne, cyn-ddarlithydd, ar gymorth ReAct+ a Busnes Cymru i lansio busnes fel gof arian. Pob un yn ysbrydoliaeth.

Trwy'r Addewid Cydraddoldeb, canllawiau wedi'u teilwra a chronfa Cyfranogi a all helpu gyda rhwystrau fel cyfrifoldebau gofal, mae Busnes Cymru yn cryfhau entrepreneuriaeth menywod ac yn helpu cyflogwyr i fabwysiadu arferion gwaith teg. 

Llwyddiant nodedig yw Hair Syrup, a sefydlwyd gan Lucie Macleod yn Abergwaun yn 2020. Ers ei sefydlu fel cynnyrch olew i'r gwallt a wnaed gartref, mae'r cwmni wedi tyfu i fod yn fusnes byd-eang gwerth £6.5 miliwn sy'n cyflogi 13 o bobl, gyda chefnogaeth Rhaglen Twf Cyflym Busnes Cymru. Mae yn y 13eg safle yn rhestr The Sunday Times 100 o gwmnïau preifat Prydain sy'n tyfu gyflymaf - gan ddangos potensial entrepreneuriaeth dan arweiniad menywod yng Nghymru. Unwaith eto – mae'n ysbrydoli ac yn dangos yr arloesedd go iawn sy'n gonglfaen economi a chymdeithas lwyddiannus.

Mae arweinyddiaeth menywod ar draws bywyd cyhoeddus yn parhau i gryfhau llywodraethu. Mae tua 60% o'r penodiadau cyhoeddus wedi'u rheoli i gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn fenywod, gan sicrhau bod profiad ac arbenigedd amrywiol yn llywio gwneud penderfyniadau. Mae'r gwaith yn parhau i foderneiddio prosesau penodi i gefnogi menywod o bob cefndir i gystadlu'n deg a llwyddo. Ond megis dechrau yw hyn.

Wrth edrych ymlaen at etholiad y Senedd sydd i ddod, mae ein Canllawiau Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol yng Nghymru yn annog camau gweithredu fel cwotâu gwirfoddol a chael gwared ar rwystrau wrth ddewis ymgeiswyr. Gyda'r Senedd yn ehangu o 60 i 96 o Aelodau, mae'r canllawiau hyn yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer senedd gytbwys rhwng y rhywiau sy'n adlewyrchu'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Mae'r rhaglen fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal sy'n anelu at gynyddu amrywiaeth o ran cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru, hefyd yn ein helpu i symud tuag at yr uchelgais hon.

Rydym hefyd yn cydnabod yr heriau y mae menywod a merched yn parhau i'w hwynebu ac yn darparu cymorth pan fydd ei angen fwyaf. Mae llawer yn cario cyfran anghymesur o gyfrifoldebau gofalu. Gan Gymru hefyd y mae’r gyfran uchaf o ofalwyr hŷn a gofalwyr sy’n darparu mwy na 50 o oriau o ofal yr wythnos. Eleni, mae £13 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn cymorth i ofalwyr, gan gynnwys £6 miliwn ar gyfer Seibiannau Byr, y Gronfa Cymorth i Ofalwyr a gwasanaethau cyngor a lles. Mae Bwndeli Babanod bellach yn cael eu dosbarthu mewn ardaloedd Dechrau'n Deg, gan ddarparu eitemau hanfodol i rieni newydd. Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol wedi cynyddu i £39.5 miliwn yn 2025/26 ac mae bellach yn darparu Taliadau Cymorth Brys uwch i bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig.

Mae Cymru'n parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a merched. Ym mis Medi, cynhaliodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools, uwchgynhadledd VAWDASV genedlaethol yn canolbwyntio ar leisiau goroeswyr ac arweinyddiaeth ar y cyd. Trwy'r Glasbrint VAWDASV, mae rhaglen o gynadleddau ar  aflonyddu yn y gweithle wedi cefnogi arweinwyr ledled Cymru i gryfhau atal ac ymgorffori agwedd 'dim goddefgarwch'. Derbyniodd llinell gymorth Byw heb Ofn dros 28,000 o ymholiadau yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025, sy'n dyst i'r angen am y gwasanaeth ac i'r ymddiriedaeth ynddo.

Yng nghynhadledd Gwrth-Gaethwasiaeth Cymru 2025, a agorais gyda Heddlu Gogledd Cymru a'r Comisiynydd Andy Dunbobbin, lansiais hyfforddiant newydd ar-lein ar gaethwasiaeth fodern. Ym mis Ionawr, cyfarfu'r Comisiynydd Gwrth-Gaethwasiaeth Annibynnol a minnau â BAWSO a Byddin yr Iachawdwriaeth i drafod cefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr. Nodwyd dros 100 o fenywod a merched yng Nghymru fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern yn 2025. Mae'n hanfodol eu bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Mae cynnydd mewn iechyd menywod a'u canlyniadau yn cael ei yrru ymlaen drwy Cynllun Iechyd Menywodcyntaf Cymru, Ymchwil Iechyd Menywod Cymru a chanolfannau iechyd menywod. Nod ein Cynllun Gweithredu Balch o'r Mislif, Cymru yw dileu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif erbyn 2027, gan ehangu mynediad at nwyddau am ddim mewn mwy o leoliadau a mynd i'r afael â stigma drwy addysg.

Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Cyngor Caerdydd yn croesawu aelodau o Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) wrth i Gaerdydd ddod yn 'Ddinas CEDAW' gyntaf Ewrop. Mae hyn yn cynnig cyfle unigryw i arddangos cyd-uchelgais Cymru a'n cynnydd o ran cydraddoldeb rhywiol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Ar y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hwn, rydym yn cael ein galw i weithredu gydag argyhoeddiad a haelioni. Trwy roi ein hamser, ein hundod, a'n eiriolaeth a manteisio ar gyfleoedd, rydym yn helpu i adeiladu Cymru lle gall pob menyw a merch ffynnu. Gyda'n gilydd, gallwn ddileu rhwystrau, hyrwyddo tegwch a chreu cenedl gryfach, fwy diogel a mwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau i ddod.