Adolygiad o sut y defnyddiodd awdurdodau lleol Cymru'r offeryn dadansoddi data LIFT i nodi pobl gymwys nad sy’n hawlwyr a gwella'r nifer sy'n derbyn budd-daliadau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r adroddiad hwn yn adolygu'r peilot a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a roddodd fynediad i’r platfform offeryn tracio teuluoedd incwm isel (LIFT) i 12 awdurdod lleol. Nod y peilot oedd profi a allai dulliau sy'n cael eu harwain gan ddata wella'r nifer sy'n derbyn budd-daliadau drwy nodi preswylwyr cymwys nad oedd yn hawlio cymorth. Mae'r adolygiad yn defnyddio dulliau cymysg, gan gynnwys ymchwil desg, cyfweliadau, grwpiau ffocws a dadansoddiad o gyfraniadau. Mae'n asesu sut y gweithredodd awdurdodau lleol y platfform, y rhwystrau a'r galluogwyr a wynebwyd, a'r graddau y gwnaeth adnabyddiaeth sy'n cael ei arwain gan ddata ac allgymorth wedi'i dargedu gwella'r nifer sy'n derbyn budd-daliadau.
Ar y cyfan, mae'r peilot yn dangos y gall dulliau sy'n cael eu harwain gan ddata wella targedu ac effeithlonrwydd gweithredol, ond mae angen digon o staff, adnoddau a chymorth parhaus ar awdurdodau lleol i wireddu ei botensial yn llawn.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 908 KB
Cyswllt
Ymchwil Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
