Neidio i'r prif gynnwy

1. Diben a chwmpas

Mae'r canllawiau hyn yn cynnig fframwaith ar gyfer defnyddio systemau rhith-ffensio mewn ffordd foesegol a chyfreithiol sy'n cydymffurfio â gofynion lles, ar gyfer cadw, symud a monitro gwartheg fel rhan o brosiectau cadwraeth a rheoli tir ar raddfa tirwedd yng Nghymru. Eu diben yw helpu ymarferwyr, perchenogion tir a chyrff cyllido i sicrhau bod mesurau rhith-ffensio:

  • yn gyson â pholisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru
  • yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur, heb greulondeb
  • yn cyfrannu at ffermio cynaliadwy a chanlyniadau i fioamrywiaeth
  • yn gymwys i gael arian cyhoeddus o dan gynlluniau fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a mentrau eraill Llywodraeth Cymru

2. Y cyd-destun polisi

Deddfwriaeth Cymru a dyletswyddau lles anifeiliaid

  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: Dyletswydd i gynnal a gwella bioamrywiaeth, a gwneud ecosystemau'n fwy cydnerth.
  • Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023; Darpariaethau ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy a lles anifeiliaid.
  • Deddf Lles Anifeiliaid 2006 Cymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion lles anifeiliaid o dan reolaeth dyn.
  • Mae gwaharddiad Llywodraeth Cymru ar goleri sioc drydan i gathod a chŵn yn parhau mewn grym; rhaid i rith-ffensys ar gyfer da byw gydymffurfio â safonau lles

Safbwynt Llywodraeth Cymru ar rith-ffensys

Barn y Pwyllgor Lles Anifeiliaid (AWC) (2022) yw bod modd defnyddio systemau rhith-ffensio heb niweidio lles da byw cyn belled â bod y darparwr yn sicrhau gochelion priodol a bod y defnyddiwr yn eu defnyddio’n briodol. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • wrth osod llinellau rhith-ffensys, mae'n bwysig sicrhau bod anghenion y gwartheg yn dal i gael eu diwallu, er enghraifft eu bod yn dal yn cael mynd at ddŵr a chysgod rhag haul, eira neu law trwm
  • nid yw rhith-ffensys yn addas ar gyfer pob anifail neu bob system, gan gynnwys pori dwys (e.e. pori stribed), systemau godro neu stoc ifanc, neu ar gyfer rhai anifeiliaid unigol e.e. teirw
  • rhaid i ddefnyddwyr rhith-ffensys allu rhoi tystiolaeth eu bod wedi cael eu hyfforddi'n briodol, gan gynnwys mewn agweddau lles, a'u bod wedi'u hasesu gan y darparwr. Rhaid iddynt ddeall gofynion y ddeddfwriaeth les
  • rhaid i wartheg gael cyfnod digonol o amser, mewn amgylchedd rheoledig a chyson, i ddod yn gyfarwydd â'r arwyddion a roddir gan rith-ffensys a dysgu ymatebion ymddygiadol priodol. Yn ystod y cyfnod hwn, dylai'r ceidwad gadw cofnod o ymddygiad anifeiliaid unigol, eu natur ac amodau'r safle
  • rhaid i wartheg beidio â dioddef oherwydd rhith-ffensys. Os, ar unrhyw adeg, na fydd anifail unigol yn ymateb i'r system rithwir, yna dylid ei drosglwyddo i system gadw arall
  • rhaid archwilio gwartheg sydd wedi'u hamgáu gan rith-ffens o leiaf unwaith y dydd i wirio eu bod yn fodlon
  • rhaid i ddefnyddwyr rhith-ffensys gofnodi'u harchwiliadau, ac ar gyfer pob anifail unigol, ei symudiadau, nifer yr arwyddion sain a nifer y siociau trydan

3. Egwyddorion rhith-ffensio

A. Yn seiliedig ar dystiolaeth

  • Bydd amcanion rheoli clir fel pori dan reolaeth neu amddiffyn cynefinoedd i'w gyfiawnhau
  • Caiff gwaith monitro ei gynnal cyn, yn ystod ac ar ôl ei gyflwyno.

B. Cydymffurfio â lles a chyfraith

  • Rhaid i systemau gydymffurfio â Deddf Lles Anifeiliaid 2006 a chodau ymarfer perthnasol Cymru.
  • Rhaid sicrhau bod coleri yn darparu ysgogiadau rhagweladwy, mân, ac nad oes siociau diangen yn cael eu rhoi.
  • Gwaharddiadau: Mae'n anaddas ar gyfer stoc ifanc, gwartheg godro ac anifeiliaid unigol fel teirw.
  • Anifeiliaid nad ydynt yn ymateb: Rhaid i unrhyw anifail nad yw'n ymateb gael ei symud ar unwaith a'i roi mewn system gadw arall.

C. Moesegol a thryloyw

  • Rhaid i ddefnyddwyr gael eu hyfforddi i fod yn gymwys i ddefnyddio'r system.
  • Dylid cofnodi asesiadau lles a dylai'r cofnodion fod ar gael i'w harchwilio.
  • Rhaid i geidwaid gwartheg ddeall eu bod yn gyfrifol am unrhyw ganlyniadau a ddaw o ddefnyddio rhith-ffensys

D. Integreiddio â rheoli tir

  • Dylai rhith-ffensys ategu gwaith adfer cynefinoedd, nodau bioamrywiaeth a thrafod â'r gymuned
     

4. Yn gymwys am gyllid

Gall rhith-ffensys fod yn gymwys am arian oddi wrth Lywodraeth Cymru os ydyn nhw:

  • yn rhan o Gynllun Ffermio Cynaliadwy neu gynllun gwella bioamrywiaeth
  • wedi'u cymeradwyo drwy Gynllun Rheoli Rhith-Ffensio a gyflwynwyd o dan amodau grant
  • yn cyd-fynd â deddfwriaeth Cymru ac yn cefnogi Cynefinoedd a Rhywogaethau Blaenoriaeth Adran 7

5. Beth sy'n rhaid i brosiect sy'n cael grant ei wneud

  • Datblygu Cynllun Rheoli Rhith-Ffensys: sy'n cynnwys amcanion, bridiau / mathau da byw, protocolau hyfforddi, monitro lles, ac adolygu.
  • Trafod â Rhanddeiliaid: Cydweithio â ffermwyr, cymunedau a rheoleiddwyr (CNC a Llywodraeth Cymru).
  • Monitro Canlyniadau: Defnyddio ddangosyddion lles, patrymau pori, a chyflwr cynefin.
  • Adroddiadau Tryloyw: Cofnodi gweithgareddau a chanlyniadau ar gyfer cyllidwyr ac i fod yn atebol i'r cyhoedd.

6. Amodau ar gyfer cymeradwyaeth grant

  • Rhaid bod cyfnod gorfodol i dda byw gyfarwyddo â'r system a dysgu ymateb iddi, hynny cyn ei rhoi ar waith
  • Archwiliadau lles dyddiol a monitro coleri i sicrhau diogelwch anifeiliaid.
  • Cofrestr bod defnyddiwr yn gymwys: Rhaid i'r holl bersonél gwblhau hyfforddiant cymeradwy.
  • Cadw data am ysgogiadau gan y ffens ac ymatebion anifeiliaid, i gadw golwg ar les.
  • Rhaid wrth drefniadau brys bob amser er mwyn medru cau'r system.
  • Cydymffurfio â gofynion adrodd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau lles.

7. Adolygu a diweddaru

Bydd y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd i adlewyrchu:

  • newidiadau mewn deddfwriaeth neu bolisi
  • tystiolaeth wyddonol newydd a datblygiadau technolegol
  • adborth gan brosiectau a ariennir a rhanddeiliaid
  • monitro data a logiau perfformiad y system