Gall busnesau, prifysgolion a cholegau Cymru gael mynediad bellach at gyfleoedd newydd yn y sector amddiffyn sy'n tyfu drwy Glwstwr Amddiffyn a Diogelwch Rhanbarthol Cymru, a lansiwyd heddiw.
Mae'r clwstwr yn dwyn ynghyd sefydliadau - o fusnesau bach i brif gontractwyr byd-eang - i gryfhau cadwyn gyflenwi amddiffyn Cymru, datblygu technolegau newydd, a chreu swyddi medrus sy'n talu'n dda. Mae sector amddiffyn ac awyrofod cyfunol Cymru yn cyflogi 16,000 o bobl yn uniongyrchol, yn creu trosiant o £3.7bn ac yn cyfrannu tua £1.5 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru.
Mae'r lansiad yn dilyn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Bargen Twf Amddiffyn Cymru, sy'n dyrannu £50 miliwn i Gymru o fuddsoddiad o £250 miliwn ledled y DU mewn twf amddiffyn rhanbarthol. Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.6% o gynnyrch domestig gros (GDP) erbyn 2027–28, gan godi i 5% GDP ar ddiogelwch cenedlaethol erbyn 2035 — gan greu cyfleoedd newydd sylweddol i fusnesau Cymru.
Bydd y clwstwr yn helpu cwmnïau Cymru, yn enwedig busnesau llai, i gael mynediad at gontractau'r Weinyddiaeth Amddiffyn, datblygu eu cadwyni cyflenwi, a chynyddu eu cyfran o wariant ar amddiffyn. Ar hyn o bryd mae Cymru'n cael tua 3% o gyfanswm gwariant y Weinyddiaeth Amddiffyn. Y nod yw cynyddu hyn i 5% neu fwy wrth i wariant cyffredinol y DU ar amddiffyn gynyddu.
Mae'r clwstwr yn cael ei arwain gan ddiwydiant, ei gadeirio gan gynrychiolwyr o Airbus Defence and Space a Thales, a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae'n cysylltu busnesau ag wyth prifysgol a choleg addysg bellach Cymru, sy'n cynnal ymchwil o'r radd flaenaf mewn meysydd gan gynnwys seiberddiogelwch, opto-electroneg a deallusrwydd artiffisial.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi:
“Mae Cymru eisoes yn gartref i wyth o’r deg cwmni amddiffyn byd-eang mwyaf yn y byd. Wrth i wariant amddiffyn gynyddu ledled y DU, bydd y clwstwr hwn yn dod â busnesau, prifysgolion a’r llywodraeth ynghyd i greu swyddi da, cadwyni cyflenwi cryf a thwf economaidd cynaliadwy yn y tymor hir.”
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mewn byd sy’n gynyddol ansicr, mae rôl allweddol Cymru yng ngwaith amddiffyn y Deyrnas Unedig yn bwysicach nag erioed.
“Drwy lofnodi’r Fargen Twf Amddiffyn a sefydlu’r Clwstwr Amddiffyn a Diogelwch, rydyn ni’n sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau i gyfrannu at ddiogelwch cenedlaethol y DU, yn ogystal â’n twf economaidd.”
Dywedodd y Gweinidog dros Barodrwydd ac Diwydiant Amddiffyn, Luke Pollard AS:
“Mae Cymru’n ganolog i amddiffyn y DU. Bydd y clwstwr hwn yn helpu i sicrhau bod busnesau Cymru o bob maint yn arwain y ffordd yn y technolegau a fydd yn diffinio ein diogelwch am ddegawdau i ddod.
“Drwy wneud amddiffyn yn beiriant ar gyfer twf, rydym yn creu cyfleoedd medrus tra’n sicrhau ein dyfodol gyda’n gilydd.”
